Dathlu Gwirfoddolwyr yng Nghymru gyda £3.2 miliwn mewn grantiau'r Loteri Genedlaethol
Rydym yn dathlu wythnos gwirfoddolwyr (1 - 6 Mehefin 2019) gan gyhoeddi bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £3,200,162 mewn grantiau i 59 cymuned yng Nghymru y mis hwn. Mae'r grantiau'n bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae nifer o'r grantiau'n cefnogi prosiectau sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr ac mae rhai'n cael eu rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i gyflawni uchelgais ar gyfer eu cymuned. Er enghraifft, roedd cais ymddiriedolwyr gwirfoddol Sefydliad Lles Gweithwyr Abertyleri ym Mlaenau Gwent am £20,540 i adnewyddu'r Sefydliad a'i gwneud yn addas i'w defnyddio fel cyfleuster cymunedol yn llwyddiannus, gan ddarparu man hyblyg ar gyfer mwy o weithgareddau dysgu, ymgysylltu a chefnogaeth.
Bu Julie Holt groesawu'r grant ar ran yr ymddiriedolwyr, gan ddweud: "Bydd y grant hwn yn cael effaith enfawr ar ein gallu i gyrraedd ein nod ac yn ailagor ein Sefydliad ar gyfer y gymuned. Ein nod yw atgyfodi'r hen adeilad hwn a'i darparu cyfleuster unwaith eto y bydd pobl o unrhyw oedran a gallu yn gallu ei defnyddio. Bydd yn ganolfan lle bydd pobl yn ein cwm yn gallu dod ynghyd i chwarae, dysgu a chymdeithasu. Rydym oll yn gweithio'n galed i gyflawni hyn ac mae pobl yn ein hardal yn gefnogol iawn. Rydym yn grŵp o saith ymddiriedolwr, ac rydym oll yn ymroddedig i'r achos, oherwydd ein bod yn cofio cyfnod pan roedd y Sefydliad yn ganolog i'n cymuned. Rydym yn hyderus y gallwn gyflawni hyn, a bydd eich grant yn gymorth mawr wrth ein galluogi i benodi rheolwr prosiect."
Bu cais Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri yn Sir Gâr am bron hanner miliwn (£499,795) yn llwyddiannus a byddant yn ei wario dros bum mlynedd yn ehangu eu gwasanaethau cyfredol, gan ddatblygu hyb iechyd a lles a fydd yn darparu gwasanaethau newydd i bobl unig a'r sawl sydd ar eu pennau eu hunain, i deuluoedd sy'n trafferthu a'r sawl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol. Bydd yr hyb yn cynnig canolfan galw heibio ar gyfer cefnogaeth a chymorth, gan ddarparu mynediad at wybodaeth a gweithgareddau iechyd a lles, cyrsiau sgiliau bywyd a mynediad at ddarparwyd iechyd a gofal cymdeithasol eraill.
Dywedodd Andrew Barker, Cadeirydd, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri: "Bydd y grant ffantastig hwn yn ein galluogi i ehangu ein gwasanaethau cyfredol ac i ddiwallu anghenion nifer rhagor o bobl yn y gymuned gan gynnwys y sawl sy'n unig ac ar eu pennau eu hunain, teuluoedd a'r sawl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol. Rydym yn ddiolchgar i'r Loteri am gydnabod y gwaith gwerthfawr a wnawn ac edrychwn ymlaen yn frwd at y dyfodol ac at yr hyn y bydd yr ariannu hwn yn ein galluogi i wneud mewn perthynas â llesiant gan gynnwys celf a chrefft ac eco-therapi.
Mae'r prosiect hwn hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth gwirfoddolwyr, fel yr esboniodd Jill Tatman o'r Ganolfan:
"Mae rhai yn helpu gyda gwaith y bobl ifanc/y plant, eraill yn cefnogi gydag amser yn y swyddfa, eraill yn helpu i lanhau ac yn yr ardd a nifer rhagor gyda digwyddiadau codi arian. Mae gennym fenyw sy'n tyfu cannoedd o blanhigion i ni eu gwerthu a menyw arall sy'n gyson yn darparu dwsinau o botiau o jam, marmaled a siytni cartref blasus i ni eu gwerthu."
Bydd Aber Food Surplus yn gwario £99,761 dros 18 mis yn datblygu hyb cymunedol arloesol a chynaliadwy yng nghanol Aberystwyth, gyda gwirfoddolwyr yn casglu bwyd, yn sortio rhoddion ac yn paratoi bwyd. Dywedodd Heather McClure, Cydlynydd Prosiect Aber Surplus Food:
"Edrychwn ymlaen at agos man cymunedol newydd yn Aberystwyth a fydd yn canolbwyntio ar rannu bwyd ac ymrwymo â'n system fwyd leol. Bydd yr hyb cymunedol yn lle i gynnal sgyrsiau a grwpiau cymunedol, i gefnogi entrepreneuriaid ac i archwilio datblygiad cymunedol mewn modd cynaliadwy ac sy'n gyfrifol yn amgylcheddol."
Bydd gwirfoddolwyr Cwmni Buddiannau Cymunedol Carriageworks yng Ngogledd Cymru yn gwario £91,410 dros ddwy flynedd i gyflwyno gweithdai celf i 120 o bobl unig yn Ninbych, Groes, Llandyrnog, Rhewl a Henllan. Bydd yn adeiladu hyder ac yn cysylltu pobl a chymunedau. Bydd hefyd yn adnabod heriau mewn cymunedau ac yn dod o hyd i ddatrysiadau posib trwy weithio gydag asiantaethau cyfredol i beri newid. Dywedodd Lynne Wilson Cyfarwyddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol Carriageworks:
"Rydym yn dîm bach o wirfoddolwyr ac rydym oll yn hapus iawn, ac yn ddiolchgar iawn, i gael y dyfarniad hwn. Bydd yn ein caniatáu i adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes trwy'r prosiect peilot a gynhaliwyd diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gysylltu, neu ailgysylltu, cymunedau pentrefi lleol â thref Dinbych."
Dyma ond ychydig o'r prosiectau y bydd gwirfoddolwyr yn rhan o'u cyflwyno ledled Cymru - dilynwch y ddolen i lawrlwytho'r rhestr lawn o grantiau'r mis hwn.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru