Grant y Loteri Genedlaethol yn cefnogi dyfodol mwy iach i gymuned yng Nghymru
Un o'r 57 o grwpiau sy'n dathlu grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y mis hwn yw pwyllgor Neuadd Gymunedol Treowen yn y Drenewydd, Powys. Fe ddatblygon nhw gynllun i helpu eu cymuned i ddod yn fwy iach drwy ddarparu ardal gemau aml-ddefnydd, newydd i'w ddefnyddio. Mae'r pwyllgor yn cynnwys gwirfoddolwyr o'r stad a'r ardal leol, ac roeddent wrth eu boddau i glywed bod eu cais am grant o £99,360 wedi bod yn llwyddiannus. Fe groesawodd y Cadeirydd Regina Buckley Robbins y dyfarniad:
"Roedd yn newyddion gwych ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn y dyfarniad i adeiladu ardal gemau aml-ddefnydd i ddisodli’r hen gwrt tennis afraid yn ein Neuadd. Mae'n mynd i ddod â mynediad am ddim a'r cyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau chwaraeon i gefnogi'r gymdogaeth. Yn yr hirdymor, bydd hyn yn rhoi cyfle i wella ein hiechyd a'n lles.
Mae Dwyrain Treowen yn un o'r wardiau mae Llywodraeth Cymru yn ystyried i fod yn ardal amddifadedd. Rydym yn werthfawrogol iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac i'r rheini sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol. Fel elusen fach, mae'r swm yma o arian am wneud gwahaniaeth mawr inni, nawr byddwn yn gallu parhau i wneud y gwaith angenrheidiol."
Bydd gwaith nawr yn cael ei ddechrau i ddisodli'r cwrt tennis afraid gydag ardal gemau aml-ddefnydd a fydd yn cynnig cyfleuster chwarae diogel a hygyrch i blant a phobl ifanc. Bwriad y prosiect yw lleihau unigedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol drwy gynyddu cyfleoedd cymdeithasu a darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc yn yr ardal.
Mae grŵp Pobl & Gwaith yng Nghaerdydd wedi derbyn £99,940. Maent yn cydnabod pa mor ddrud gall dillad chwaraeon fod, ac mae eu prosiect yn ymwneud ag ailgylchu dillad chwaraeon sydd wedi'i gasglu o gymunedau lleol yn ogystal â dillad ac offer diwedd llinell gan gwmnïau chwaraeon. Mae'r dillad wedyn yn cael eu rhoddi neu eu hail-werthu am brisiau fforddiadwy. Bydd hyn yn helpu cael gwared â'r rhwystrau sy'n arbed pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon wrth sicrhau eu bod bellach gyda mynediad i'r dillad addas. Bydd unrhyw elw a fydd wedi ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi i'r gymuned i gefnogi gweithgareddau newydd gan dargedu'r rheini sydd ei angen.
Mae cyfanswm o 57 cymuned yng Nghymru yn edrych ymlaen am eu Haf gyda chyfran o £722,115 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y mis hwn, mae grantiau'n bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Y trydydd dyfarniad mwyaf a wnaed y mis hwn yw £99,769 i Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth i drigolion Tsieineaidd sy'n byw yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd y Gymdeithas yn ymgymryd â gwaith achos arbenigol ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches a'u teuluoedd, yn ogystal â dioddefwyr troseddau casineb. Bydd gwirfoddolwyr yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu sgiliau ymgysylltu â'r gymuned a gweithio gyda sefydliadau i wella gwybodaeth am gefnogi unigolion â threftadaeth Tsieineaidd.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru