Croesi bysedd am hunlun gwych ar Hydref 29ain
Ar ddydd Mawrth Hydref 29ain, rydym yn gwahodd ein holl ddeiliaid grant – boed yn gyn-ddeiliaid neu’n ddeiliaid presennol – i ymuno a ni drwy bostio hunlun croesi bysedd ar gyfryngau cymdeithasol mewn dathliad digidol o ben-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25ain.
Yn y 25 mlynedd ers y raffl gyntaf, mae dros £40 biliwn wedi’i ddyfarnu i achosion da gyda dros hanner miliwn (565,000) o brosiectau yn elwa o’r arian newid bywyd hyn.
Dyma pam rydym yn annog miloedd o bobl, prosiectau a chymunedau rydym wedi’i ariannu ledled y DU i bostio hunlun a’ch bysedd wedi’u croesi ar gyfryngau cymdeithasol i ddweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Efallai eich bod eisoes wedi derbyn e-bost gennym yn esbonio sut i ymuno, ond os nad ydych, dyma beth i’w wneud:
1. Postiwch hunlun ar eich pen eich hun, neu gyda ffrindiau, yn croesi eich bysedd.
2. Ysgrifennwch neges fer yn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am helpu cymunedau a grwpiau cymunedol, gan gynnwys y hashnod #LoteriGenedlaethol25 a pheidiwch anghofio ein tagio er mwyn i ni ei weld.
3. Postiwch yr hunlun a’r neges ar Twitter, Facebook neu Instagram (neu’r tri) ar y 29ain o Hydref.
P’un a ydych yn gweithio i brosiect rydym yn ei ariannu, yn fuddiolwr neu yn rhywun sy’n cydnabod y pethau gwych mae’r Loteri Genedlaethol yn ei wneud yn bosibl – croeso i chi ymuno.
Dyma gyfle i adlewyrchu ar yr effaith enfawr a wneir gan arian achosion da yn y DU, yn ogystal â’r gwahaniaeth gwych mae pobl yn ei wneud mewn cymunedau bob dydd.
I ddysgu mwy am y digwyddiadau pen-blwydd 25ain a sut gallwch chi ymuno yn y dathliad, ewch ar www.tnlcommunityfund.org.uk/25
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig