Prosiectau i wella iechyd meddwl ledled Cymru gyda £3.5 miliwm mewn grantiau’r Loteri Genedlaethol
Gwnaeth 74 cymuned ledled Cymru gais llwyddiannus i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grantiau gwerth £3,401,711 y mis hwn. Mae llawer o’r prosiectau yn targedu’n uniongyrchol gwella iechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru. Er bod diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (10fed Hydref 2019) yn gyfle i dynnu sylw’r cyhoedd at effeithiau iechyd meddwl gwael, mae llawer o’r prosiectau a dderbyniodd grantiau’r mis hwn yn taclo’r mater bob dydd. Gwneir grantiau yn bosibl diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol.
Mae ‘Prosiect Milltir Ychwanegol’ Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint er enghraifft yn cydnabod y gallai pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ei chael yn anodd dod i’r Ganolfan i gael y cyngor sydd arnynt ei angen. Dyfarnwyd £487,607 i’r sefydliad i gynnig amrywiaeth eang o ffyrdd i bobl gael gafael ar y gwasanaethau sydd arnynt eu hangen, gan gynnwys ymweld â nhw yn yr ysbyty, llinellau ffôn a gwe-sgwrs. Meddai’r Prif Swyddog Gweithredol Salli Edwards, “Rydym yn falch iawn o sefydlu’r gwasanaeth newydd hwn ac yn edrych ymlaen yn arbennig at weithio’n agos gyda nifer o grwpiau iechyd meddwl lleol a gwasanaethau iechyd meddwl lleol i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cynghori amserol o ansawdd da i bobl lle, pryd a sut y mae ei angen arnynt.”
Rhannodd pum prosiect yng Nghaerfyrddin dros un miliwn a chwarter o bunnoedd (£1,266,423) i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl gwael. Mae’r prosiectau yn to address issues of poor mental health. Mae’r prosiectau yn targedu pobl ifanc, gofalwyr ifanc ac aelodau o’r gymuned sy’n teimlo’n ynysig. Mae manylion y rhain a’r holl grantiau a ddyfarnwyd dros y mis diwethaf ar gael yma:
Wales press summaries 10 10 2019 W
Diwedd
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru