Dymuniadau wedi’u hateb y Nadolig hwn gyda grantiau i elusennau
Mae Dymuniadau Elusennau yn cael eu hateb y Nadolig hwn gyda dros dair miliwn a hanner o bunnoedd mewn grantiau i gymunedau ledled Cymru. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi grantiau sy’n dod i gyfanswm o £3,531,837.
Bydd 2 Wish Upon a Star yn defnyddio eu grant o £252,710 dros bum mlynedd i sefydlu gwasanaethau’r mudiad yng Ngogledd Cymru. Maent yn helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio o golled sydyn ac annisgwyl o blentyn neu berson ifanc dan 25 oed. Bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth ddi-oed, cwnsela, therapi cyflenwadol, therapi chwarae a grwpiau cefnogi.
Cafodd cais llwyddiannus arall gan Fenter Gorllewin Sir Gâr Cyf argraff ar Gomisiynydd y Gymraeg. Fe wnaethant drydar yn gynharach wythnos yma
“Gwych clywed am wella sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc yng Ngorllewin Cymru, a’r manteision o siarad Cymraeg yn y gweithle.”
Bydd prosiect Menter Gorllewin Sir Gâr Cyf yn cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith i bobl ifanc ar draws Gogledd Sir Gâr a De Ceredigion, gan gynnwys pobl ifanc 14-18 oed. Byddent yn gweithio ar draws y sectorau i drefnu cyfleoedd gwirfoddoli i godi dyheadau a hyder, datblygu sgiliau i gynyddu cyflogadwyedd , gan anelu i gynyddu’r Gymraeg yn y gweithle ac amlygu’r buddion fel sgil hanfodol. Bydd y grant o £477,147, dros bum mlynedd yn ariannu cyflogau, darpariaeth prosiect ac offer.
Yn olaf, dywedodd Clare Bugler, Cyfarwyddwr Walsingham Support Community Solutions, a leolir yn Abertawe: “Hoffem ddweud diolch mawr iawn am gael y grant wedi’i ddyfarnu i ni. Mae am gael effaith enfawr ar fyfyrwyr ysgol Pen-y-Bryn a’u cyfleoedd bywyd ar gyfer y dyfodol. Heb chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ni fyddai’r grant wedi bod yn bosibl, felly diolch.”
Bydd Walsingham Support Community Solutions yn gwario eu grant o £85,785 yn bennaf i weithio gydag Ysgol Pen y Bryn i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith i 35 o ddisgyblion 16-19 oed. Byddent yn ymgysylltu â chyflogwyr lleol i sicrhau bod lleoliadau gwaith addas ar gael i bobl ifanc. Mae gan y disgyblion yn yr ysgol hon anghenion dysgu ychwanegol a byddent o ardal Abertawe. Bydd y disgyblion hefyd yn cynnal digwyddiadau i aelodau cymunedol lleol sy’n ymweld â Chanolfan Gymunedol Forge.
I ddarllen mwy am y mudiadau anhygoel sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cynigon am grantiau, dilynwch y ddolen hon i lawrlwytho rhestr lawn.
Am fwy o wybodaeth ar ymgeisio am arian Loteri Genedlaethol, ewch i cronfagymunedolylg.org.uk. Os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod neu angen arweiniad, ffoniwch 0300 123 0735 neu e-bostio cymru@crfonagymunedolylg.org.uk.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru