Mae popeth mor llethol pan rydych chi'n ddigartref” yn cyflwyno cynllun grant newydd £10m - Taclo Digartrefedd
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn lansio cynllun grant newydd gwerth £10m o'r enw Taclo Digartrefedd - gyda'r nod o fynd i'r afael ag achosion ac effaith digartrefedd. Bydd y cynllun yn annog elusennau ac asiantaethau i weithio gydag awdurdodau lleol a gyda phobl sy'n profi digartrefedd, i fynd i'r afael ag achosion digartrefedd. Nod y grantiau, sy'n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yw ceisio atal pobl ddiweddu ar soffas, mewn gwely a brecwast a hyd yn oed y strydoedd trwy ymyrryd mewn ffordd gadarnhaol. Er mwyn cael gafael ar y grantiau, bydd angen i fudiadau weithio gyda'i gilydd a chynnwys pobl sydd eisoes yn profi digartrefedd a'r rhai sydd dan risg, wrth gynllunio strategaethau er mwyn osgoi diweddu mewn sefyllfa beryglus a llawn straen.
Mae Jonny yn Wrecsam yn gwybod o lygad y ffynnon pa mor straenus yw bod yn ddigartref:
“Fe wahanodd fy ngwraig a minnau, dyna sut y dechreuodd hyn i mi. Doeddwn i ddim yn gaeth i gyffuriau bryd hynny. Cysgais mewn mynedfeydd drysau, ar soffas, mewn pabell ac nid wyf erioed wedi bod mor oer. Dim ond nes i mi gwrdd â Dr Sankey (y meddyg teulu a ddechreuodd Gydweithfa Gofal Cymunedol Wrecsam) y cefais yr help yr oeddwn ei angen. Fi oedd ei chlaf cyntaf yn ei sesiwn gyntaf ac mewn sgwrs 20 munud trodd fy mywyd o gwmpas. Fe helpodd hi fi i weld fy mod yn isel fy ysbryd am reswm. Fi yw'r math o berson sy'n dweud “Na, na, dwi'n iawn”, ond doeddwn i ddim yn iawn, roeddwn i'n 8 stôn, roeddwn i'n hunanladdol, roedd gen i iechyd meddwl gwael, roeddwn i'n gaeth ... roeddwn i angen help!
“Mae popeth mor llethol pan rydych yn ddigartref, ond oherwydd gallwch gael gafael ar yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yn yr un adeilad yn y Gydweithfa Gofal Cymunedol, llwyddais i gael yr help yr oeddwn ei angen heb droedio milltiroedd rhwng y gwahanol leoedd i weld y gwahanol fudiadau .
“Mae gen i fflat nawr, rydw i wedi bod yn gwirfoddoli ac yn paentio, mae fy llun yn y llyfrgell leol, rydw i'n falch iawn o hynny.”
Mae'r ffotograffydd lleol Ceridwen Hughes o Same but Different, wedi bod yn gweithio gyda'r Gydweithfa Gofal Cymunedol yn siarad â phobl sydd wedi cael eu hunain heb gartref ac yn tynnu lluniau ohonyn nhw, meddai Ceridwen
“Mae llawer o’r bobl y siaradais â hwy yn canfod mai un o’r agweddau anoddaf yw’r ffordd y mae pobl yn eu trin, ac mewn sawl achos yn dewis peidio â’u gweld a cherdded ymlaen heb ail gip. Dyluniwyd y prosiect ffotograffiaeth peilot hwn er mwyn annog pobl i weld pob unigolyn fel unigolyn yn hytrach na dim ond gweld grŵp o bobl ‘Digartref’. ”
Mae stori Jonny yn dangos pa mor gymhleth yw’r profiad o ddigartrefedd. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes yn rhoi grantiau i fudiadau - fel y Cydweithfa Gofal Cymunedol a Same But Different - gan helpu pobl i ddelio ag effeithiau digartrefedd, hefyd i fudiadau sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion cymhleth a all arwain at ddigartrefedd, fodd bynnag, bwriedir y gronfa newydd i weithio mewn ffordd wahanol. Esboniodd Robert Roffe, Pennaeth Gwybodaeth a Dysgu ar gyfer y Gronfa yng Nghymru:
“Rydyn ni eisiau annog mudiadau gan gynnwys elusennau, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i weithio'n uniongyrchol gyda phobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd i gymryd cam yn ôl ar y cyd ac edrych sut y gallen nhw ddefnyddio'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael iddyn nhw i geisio atal pobl rhag dod yn ddigartref yn y cyntaf lle.
“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod cyfleoedd i ymgysylltu’n gynharach ac yn fwy effeithiol. Rydym am ddefnyddio ein grantiau i annog pawb sy'n gweithio yn y maes i asesu a ellir gwneud pethau'n well; dyna pam yr ydym yn cynnig grant ar gyfer cam datblygu'r prosiect. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y £10m sydd ar gael mewn grantiau yn gymhelliant i annog grwpiau i weithio gyda'i gilydd i edrych ar hyn.”
Mae ymchwil yn awgrymu pe bai gwasanaethau'n cael eu cydgysylltu'n well, gallai grwpiau agored i niwed fel pobl ifanc 18 oed sy'n symud allan o ofal awdurdod lleol, pobl sy'n gadael carchar a phobl sy'n cael eu cam-drin yn y cartref gael eu cefnogi'n fwy effeithiol er mwyn osgoi'r trawma o ddod yn ddigartref.
I wneud cais am y grantiau, mae mudiadau yn cael eu gwahodd i ddechrau ffurfio partneriaethau yn eu rhanbarth. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn trefnu tri digwyddiad ledled Cymru ym mis Chwefror i roi mudiadau mewn cysylltiad ag eraill yn eu rhanbarth, dylai grwpiau sydd â diddordeb gysylltu â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am fanylion. Yna bydd y partneriaethau'n cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yng ngham cyntaf yr arian. Bydd y cyfanswm o £10m yn ariannu prosiectau sy'n para rhwng pump a saith mlynedd.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gobeithio y gall Taclo Digartrefedd annog y bobl iawn i wrando a gweld.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru