Canolfan Achub Anifeiliaid CIC Pen-y-Bont ar Ogwr yn cyfarth â chynnwrf
Mae Canolfan Achub Anifeiliaid CIC Pen-y-Bont ar Ogwr wedi’u lleoli wrth wraidd eu cymuned yng Ngogledd Corneli. Yn cael ei adnabod yn lleol fel BARC (o acronym eu henw), bydd eu cais llwyddiannus am £95,000 yn golygu gall pobl leol gael hyfforddiant a phrofiad gwaith gwerthfawr. Yn ogystal â dysgu i ofalu am yr anifeiliaid yn y ganolfan sydd wedi’u hanafu a’u gadael, maent hefyd yn gweithio gyda thriniwr cŵn a phractis milfeddygol. Mae’r cyfleoedd hyn yn golygu gall gwirfoddolwyr gael cymwysterau cydnabyddedig, gan eu helpu i ddod o hyd i gyflogaeth daledig neu symud ymlaen i addysg bellach.
Fe gychwynnodd Rebecca Lloyd a Ceri Auld y Ganolfan oherwydd eu hymrwymiad i roi diwedd ar ddioddefaint i anifeiliaid. Gan ddechrau fel prosiect bach yn y gegin, fe aeth y nifer o anifeiliaid oedd angen help yn fwy na’r amser a’r arian oedd ar gael i ofalu amdanynt bron yn syth. Fe drodd Rebecca a Ceri at y gymuned am gefnogaeth a chyngor. Mewn cyfarfod, fe benderfynodd y gymuned i wirfoddoli yn y prosiect, gan gefnogi’r ganolfan i ofalu am yr anifeiliaid, ond hefyd dysgu sgiliau newydd a all eu helpu dod o hyd i gyflogaeth. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod y ganolfan wrth wraidd yr ystâd tai. Mae’n darparu lle i’r gymuned ddod i ddysgu, cymdeithasu yn y sesiwn galw mewn prynhawn, ac ennill teimlad o falchder a hunanwerth o’r profiad cadarnhaol o wella a gweithio gyda’r anifeiliaid.
Dim ond un o 77 grant ledled Cymru wedi’i ddyfarnu mis yma gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw hon, sy’n gyfanswm o dros bedair a chwarter miliwn o bunnoedd (£4,309,161.00), a phob un gyda’i stori anhygoel ei hun. Mae grantiau yn cael eu gwneud yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Gallwch weld y rhestr gyflawn o beth sydd wedi cael ei ddyfarnu yma.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru