Plant gyda nam golwg ledled Cymru i fanteisio o grant Loteri Genedlaethol
Mae 74 mudiad yn dathlu cyfran o bron i filiwn o bunnoedd mewn grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mis yma. Mae'r Sefydliad Brenhinol ar gyfer Pobl Ddall yn un o'r mudiadau hyn. Fe wnaethant ymgeisio yn llwyddiannus am £90,898.00 i ddatblygu rhaglen beilot ar gyfer plant/pobl ifanc dall a rhannol ddall a'u teuluoedd sy'n byw yng Nghymru.
Claire Milton, Arweinydd Children, Young People and Families ac Arweinydd Prosiect Shape and Share Cymru y grant gan ddweud:
“Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at greu cyfleoedd ledled Cymru i ddod â phlant â nam ar eu golwg a'u teuluoedd ynghyd. Bydd y digwyddiadau Shape and Share yn ofod croesawgar i bobl ifanc rannu eu profiadau, cefnogi ei gilydd, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl. Mae'n bwysig inni weithio mewn partneriaeth â theuluoedd i ddeall eu hanghenion yn llawn a sut orau y gallwn eu cefnogi, gan sicrhau y gall plant â nam ar eu golwg adeiladu eu hyder a'u hannibyniaeth mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol. "
Byddant yn cyflwyno chwe digwyddiad y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf i 100 o blant a'u teuluoedd ledled Cymru. Yn cael ei redeg gan, ac ar gyfer, y gymuned, byddant yn gweithio gyda mudiadau priodol eraill i ddatblygu dysgu, gwella cysylltiadau, rhannu profiad yn ogystal â darparu amgylchedd hwyliog i'r teuluoedd ymgysylltu ag ef. CroesawoddMae grantiau yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a gallwch ddod o hyd i’r rhestr gyflawn o beth ddyfarnom fis yma ar: Cymraeg- press summaries for release March 2020
Diwedd
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru