Gronfa Cymunedau’r Arfordir wedi’i hoedi oherwydd COVID-19
Yn sgil y sefyllfa bresennol gyda Covid-19 (coronafierws), mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i oedi Rownd 6 o Gronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru.
Yn sgil y sefyllfa bresennol gyda Covid-19 (coronafierws), mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i oedi Rownd 6 o Gronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru.
Gwyddwn fod sefydliadau, elusennau a busnesau yn cael eu herio mewn llawer o ffyrdd yn ystod y cyfnod yma o ansicrwydd cynyddol. Rydym eisiau cael gwared â’r gwaith ychwanegol sy’n cael ei wynebu gan ymgeiswyr posibl fel y bydd yn bosibl iddynt ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’u cwsmeriaid ar yr amser digynsail yma. Fodd bynnag bydd y gronfa'n parhau i fod ar gael ac rydym eisiau i ymgeiswyr gael y cyfle gorau posibl i gael mynediad ato.
Byddwn felly yn gweithredu ‘cyfnod gwrando’ i gasglu adborth gan y gymuned fusnes a budd-ddeiliaid. Bydd hyn yn y pen draw yn hysbysu gweithrediad y rhaglen ac amserlen newydd ar gyfer ceisiadau fel sy’n angenrheidiol. Bydd y ffordd yma o weithio yn ein galluogi i weithredu'r dull gorau i gwrdd ag anghenion ymgeiswyr potensial a’r gymuned arfordirol ehangach, yn sgil COVID-19. Rydym am eich calonogi y byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa yn agos.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf anfonwch e-bost at arfordir@cronfagymunedolylg.org.uk neu rhowch alwad i’n Llinell Gymorth: 02921
Diwedd
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru