Cymunedau yng Nghymru yn derbyn dros £15 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol ers dechrau’r pandemig.
Mae elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru wedi derbyn £15 miliwn o arian grant ers i argyfwng a chlo COVID-19 ddechrau* - y cwbl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae'r arian, a ddosbarthwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wedi cyrraedd 588 o sefydliadau cymunedol ledled Cymru.
Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei dyfarniadau diweddaraf, sy'n dod â’r cyfanswm a ddyfarnwyd mewn arian grant ers clo COVID-19 i £15,168,272. Mae llawer o'r grantiau hyn yn helpu pobl i gefnogi ei gilydd trwy'r argyfwng COVID-19; eraill yn gweithio i fynd i'r afael â digartrefedd a gwella iechyd a lles emosiynol.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae’n ysbrydoledig gweld pobl yn arddangos cryfderau eu cymunedau a phwysigrwydd aros mewn cysylltiad yn yr amseroedd heriol hyn. Mae gwirfoddolwyr a gweithwyr elusennol wedi chwarae rhan anhygoel wrth gadw pobl yn ddiogel, ac wrth eu cefnogi a sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad trwy gydol y pandemig, ac maen nhw’n parhau i wneud hynny wrth i ni edrych i'r dyfodol.”
Bydd Clwb Bocsio a Gweithgareddau Cymunedol Ffenics Llanrhymni yn defnyddio £295,543 dros gyfnod o dair blynedd i ehangu ei amserlen weithgareddau. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys gwaith gyda phlant sydd mewn perygl o gael eu heithrio, prosiect a gyflwynir mewn partneriaeth â Gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Caerdydd sy'n ceisio gwella ffitrwydd ac iechyd meddwl, a rhaglenni sydd â'r nod o fynd i'r afael â dementia, iselder, pryder ac unigedd. Dywedodd Gemma Price, o Glwb Bocsio Ffenics Llanrhymni:
“Rydyn ni mor hapus ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau tair blynedd o ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i'n cymuned a ninnau'n enfawr! Diolch yn fawr iawn."
Hefyd yng Nghaerdydd, mae Huggard wedi derbyn grant o £48,204 i barhau i ddarparu cymorth cwnsela arbenigol i bobl sy'n ddigartref yn y brifddinas, i helpu i fynd i'r afael â'r heriau ychwanegol a ddaw yn sgil pandemig COVID-19.
Yng Ngogledd Cymru, bydd Tros Gynnal Plant yn defnyddio ei grant Loteri Genedlaethol gwerth £87,000 i ehangu’r gwasanaeth ‘Tîm o Amgylch y Denantiaeth’ presennol. Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi pobl ifanc â phrofiad gofal ledled Gogledd Cymru gyda'u tenantiaeth, a bydd yn cael ei ddarparu o bell. Bydd gwasanaeth i frwydro yn erbyn arwahanrwydd ac unigrwydd yn cael ei gyflwyno fel ymateb uniongyrchol i heriau COVID-19. Yng ngeiriau person ifanc o Wynedd sy’n defnyddio gwasanaeth Tros Gynnal Plant:
“Diolch am gysylltu. Ni allaf ddweud faint o enghreifftiau o ddyngarwch a thosturi rhyfeddol rwyf wedi'u gweld yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf - ymhlith llawer o weithredoedd drwg, mae’r da yn cael ei wneud yn dawel bach yn y cefndir. Mae pobl fel chi wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Am hynny, rwy’n diolch cymaint i chi ac yn cymeradwyo eich angerdd a'ch gofal.”
Bydd Genetic Alliance UK yn defnyddio grant o £162,821 i ehangu prosiect SWAN UK i Gymru. Byddant yn gweithio gyda theuluoedd plant sydd â chyflyrau genetig heb ddiagnosis i dyfu eu rhwydweithiau cymorth. I ddechrau, bydd hyn trwy gymuned ar-lein, ond yna’n datblygu rhwydweithiau lleol pellach i wella gwybodaeth, gwytnwch ac iechyd a lles emosiynol teuluoedd. Dywedodd Jayne Spink, Prif Weithredwr Genetic Alliance UK:
“Mae teuluoedd â phlant sydd heb gael diagnosis yn profi teimladau cryf o unigrwydd ac arwahanrwydd, gan feddwl mai nhw yw’r unig rai yn y sefyllfa hon. Mae dod yn rhan o gymuned SWAN UK yn gwneud byd o wahaniaeth. Bydd yr arian hwn yn sail i'n gwasanaethau gwybodaeth a chymorth ledled Cymru am y tair blynedd nesaf. Bydd yn ein galluogi i ddarparu mwy o gyfleoedd i blant chwarae a chymdeithasu, a’n helpu i sicrhau bod rhieni’n cael y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.”
Bydd Grandparents Plus yn defnyddio grant o £98,926 i ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra i ofalwyr sy'n berthnasau ledled Cymru, i helpu i fynd i'r afael â'r heriau ychwanegol a ddaw yn sgil pandemig COVID-19. Byddant yn cynnig gwybodaeth a chyngor hygyrch ar-lein a dros y ffôn, byddant yn gweithio gyda grwpiau cymorth cymheiriaid presennol i'w galluogi i symud ar-lein, a byddant hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau digidol fel y gall pobl gael gafael ar gefnogaeth ehangach.Dywedodd Prif Weithredwr Grandparents Plus, Lucy Peake:
“Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar ofalwyr ac rydym yn falch iawn o dderbyn y grant hwn i'n galluogi i estyn cyngor a chefnogaeth i ofalwyr sy'n berthnasau yng Nghymru. Diolch enfawr i bawb sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol am godi'r arian hwn at achosion da fel ein hun ni.”
Yn Abertawe, bydd Canolfan Gofalu Canser Maggie Keswick Jencks yn defnyddio £100,000 i barhau i ddarparu cyngor a gwasanaethau arbenigol am ddim, wedi'u teilwra'n unigol, i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ganser a'r amhariad i driniaethau a chefnogaeth a achosir gan COVID-19. Dywedodd Tara White, Pennaeth Canolfan Maggie’s yn Abertawe:
“Diolch yn fawr gan yr holl dîm yma. Mae'r dyfarniad sylweddol hwn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r ganolfan a'n hymwelwyr. Mae wedi caniatáu inni barhau â'n rhaglen gefnogaeth i bobl â chanser a'u teuluoedd ledled De Orllewin Cymru yn ystod yr amser anodd hwn.”
Bydd Panel Cynghori Is-Sahara a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn defnyddio eu grant gwerth £64,625 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ariannu Prosiect Jamii, sef prosiect sy'n ceisio meithrin ysbryd cymunedol a chyd-ddibyniaeth gymunedol rhwng ac o fewn cymunedau Affricanaidd yng Nghaerdydd a Bangor, i'w helpu i ymdopi ag effeithiau'r pandemig a'u lliniaru.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn £498,392 dros dair blynedd i roi mynediad cynyddol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd at wybodaeth gyfreithiol am ddim, cyngor a chyfeiriadaeth arbenigol at wasanaethau cyngor cyfreithiol ac anghyfreithiol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy blatfform cymwysiadau symudol, dwyieithog newydd ar y we, ochr yn ochr ag ystod o ganolfannau galw i mewn.
Cliciwch i lawrlwytho rhestr o sefydliadau sydd wedi derbyn grant dros y mis diwethaf.
Mae rhaglenni ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i fod ar agor ac yn blaenoriaethu gweithgaredd cysylltiedig â COVID-19.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru