Gweithio o gartref i gefnogi ein pobl a'n cymunedau ledled Cymru
Er gwaethaf yr anawsterau presennol yn ein bywydau, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi aros yn gyson, a'n blaenoriaeth yw cefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru.
Ers mis Ebrill 2020 rydym wedi dosbarthu dros 660 o ddyfarniadau a wnaed naill ai drwy amrywiadau grant neu geisiadau newydd, sy'n dod i bron £19 miliwn. Mae'r gwobrau hyn wedi helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng a darparu cyllid tymor hwy y tu hwnt i'r argyfwng uniongyrchol.
Mae pob un o'n cydweithwyr yng Nghymru yn gweithio o gartref. Mae ein trosglwyddiad i weithio o gartref wedi bod yn llyfn ac nid yw wedi effeithio arnom yn cael grantiau cyn gynted â phosibl i elusennau a sefydliadau cymunedol, mawr a bach. Byddwn yn parhau i weithio o bell yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Gyda'r dull hwn yn gweithio'n dda, penderfynwyd peidio ag ymestyn y brydles ar ein swyddfa yn Nhŷ Helmont, Caerdydd a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2020. Yn hytrach, rydym wedi derbyn llety dros dro yn Nhŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Bae Caerdydd. Mae ein manylion cyswllt wedi'u diweddaru YMA (link to our ‘contact us’ page)
Rydym am sicrhau ein deiliaid grantiau a'n cwsmeriaid presennol na fydd ein trefniadau gweithio presennol yn effeithio ar ein gwasanaeth iddynt. Gallwch gysylltu â ni ar 029 2168 0214 neu anfon e-bost atom ar cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru