£3.8 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i wella lles, hyder a chysylltedd ledled Cymru
Heddiw, bron i flwyddyn ers y cyfyngiadau symud COVID-19 cyntaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhannu newyddion cadarnhaol gyda chymunedau ledled Cymru sy’n derbyn cyfran o £3,800,912.
O raglen fentora genedlaethol i gorau digidol a phrosiectau cymunedol sy'n cefnogi teuluoedd ifanc a phobl ag anableddau, mae arian sy’n cael ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu Cymru i addasu ac adfer o COVID-19.
Bydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru yn defnyddio ei gyllid o £425,995 i weithio gyda Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), Anabledd Cymru a Stonewall Cymru i ddarparu rhaglen fentora i roi'r hyder, y gwydnwch a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i wneud cais am amrywiaeth o rolau cyhoeddus a dinesig, gan sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn well. Dywedodd Catherine Fookes, Cyfarwyddwr WEN Cymru:
“Rydym wrth ein bodd bod ein rhaglen fentora ‘Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, Cymru Gyfan’ yn derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol, a fydd yn ein galluogi i weithio gyda'n partneriaid i ehangu'r cynllun yn sylweddol. Bydd y rhaglen genedlaethol hon yn newid bywydau'r cyfranogwyr. Rydym yn gwybod o'r cynlluniau mentora rydym eisoes wedi'u rhedeg eu bod wedi helpu menywod di-rif i gymryd mwy o ran mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus – dod yn gynghorwyr, llywodraethwyr neu ymgymryd â swyddi bwrdd. Gall y rhaglen helpu i wneud Cymru'n genedl decach, gyda democratiaeth lawer mwy amrywiol wrth ei gwraidd. Allwn ni ddim aros i ddechrau arni!”
Mae'r sefydliad hwn yn un o 120 ledled Cymru i dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn y cylch ariannu diweddaraf. Am restr lawn, cliciwch yma.
Yng Ngogledd Cymru, bydd Conwy Connect for Learning Disabilities yn defnyddio £5,000 i barhau i ddarparu ymarferion i Gôr Makaton i alluogi aelodau i gynyddu eu hyder, i deimlo'n ddiogel ac i deimlo fel bod pobl yn gwrando arnyn nhw. >Dywedodd Caroline, sy'n cefnogi Glyn sy'n aelod o'r côr,
“Mae ymarfer y côr yn ddigwyddiad cymdeithasol pwysig iawn i Glyn, yn ogystal â rhoi cyfle iddo wella ei sgiliau Makaton y mae bellach yn eu defnyddio'n llawer mwy hyderus. Mae gallu parhau â’r Côr Makaton yn ystod y cyfyngiadau symud wedi rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd a pharhad i Glyn yn ystod cyfnod anodd, gan roi modd iddo gadw mewn cysylltiad â'i ffrindiau arwyddo a pharhau i ddysgu a symud ymlaen er gwaethaf y sefyllfa bresennol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Conwy Connect am lwyddo i gadw sesiynau'r côr i fynd.”
Bydd Opera Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig hefyd yn parhau i gyflwyno ymarferion côr wythnosol yn ddigidol ar gyfer pobl â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr gyda'i grant o £5,940. Dywedodd Tricia Jones, aelod o Gôr Cradle,
“Mae’r côr yn llawenydd llwyr. Rwyf wedi cwrdd â phobl hyfryd ac mae dod at ein gilydd i rannu ein cariad at gerddoriaeth a chanu yn uchafbwynt yn fy wythnos. Mae gweld wynebau pawb yn gwenu ar yr adeg anodd hon yn codi ysbryd ac yn gwneud y diwrnod yn fwy disglair. Rwy'n gobeithio y bydd Côr Cradle yn gallu parhau i'r dyfodol, gan ddarparu gwasanaeth unigryw ac arbennig i bobl â dementia.”
Bydd SANDS (Cymdeithas Marwolaethau Marw-anedig a Newyddenedigol) yn defnyddio ei £5,719 i ddarparu cymorth profedigaeth Gymraeg i rieni sydd wedi profi colli eu baban. Dywedodd Heather Jane Coombes, Cydlynydd Rhwydwaith Cymru,
“Gall gofal profedigaeth da yn dilyn marwolaeth babi newid bywyd, a bydd y grant anhygoel hwn yn sicrhau bod rhieni'n gallu cymryd rhan yn eu gofal fel partneriaid cyfartal drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae mor bwysig bod rhieni mewn profedigaeth yn gallu cael gofal a chymorth yn yr iaith o’u dewis nhw. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod pawb yn gallu derbyn cymorth profedigaeth SANDS heb rwystrau.”
Yn y cyfamser, yn Ynys Môn, bydd Bryngwran Cymunedol yn defnyddio £100,000 i ddatblygu'r adeiladau tu allan ym Mryngwran Arms yn unedau busnes. Byddant yn cynnwys siop, siop trin gwallt, caffi a gofod amlddefnydd i greu swyddi, yn darparu gwasanaethau'n lleol a chyfrannu at gynaliadwyedd ardal a lles y gymuned.
Yn Sir y Fflint, bydd Cyngor Cymuned Pen-y-ffordd yn defnyddio £9,999 i wella'r cyfleusterau chwarae i bobl ifanc yn y pentref drwy adeiladu parc sglefrio concrid lle gallant ymgynnull, cymdeithasu a mynegi eu hunain. Dywedodd Richard Bestwick, Cadeirydd Cyngor Cymuned Pen-y-ffordd,
“Mae mannau chwarae yn yr awyr agored yn bwysicach nag erioed i bobl ifanc, gan eu helpu gyda'u hyder a rhoi hobi iddynt lle gallant fod yn egnïol a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn help i'w groesawu - diolch yn fawr iawn i chi o bentref Pen-y-ffordd.”
Bydd CIC Feed Newport yn defnyddio £9,999 i ddatblygu banc bwyd babanod a phlant bach i ddarparu eitemau hanfodol i deuluoedd mewn angen, tra bydd Canolfan Deulu Morfa yn Llanelli yn defnyddio £10,000 i ddarparu grwpiau cymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb i rieni newydd a darpar-rieni, er mwyn helpu i ddatblygu llythrennedd a datblygiad corfforol eu baban.
Bydd Accessibility Powys Ltd, sydd wedi'i leoli yn Llandrindod, yn darparu mynediad digidol, gwasanaethau a chyfeillgarwch i bobl â cholled synhwyraidd, anawsterau gwybyddol a chorfforol gyda'i grant £99,990.
Yng Nghaerdydd, bydd The Trinity Project yn darparu gweithgareddau rhandiroedd ymarferol ac addysgol i geiswyr lloches a ffoaduriaid, teuluoedd a myfyrwyr gyda'i gyllid o £9,996. Bydd digwyddiadau rheolaidd yn galluogi gwahanol ddiwylliannau i ddod at ei gilydd a ffurfio cyfeillgarwch parhaol a fydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol.
Dywedodd Ruth Bates, Cyfarwyddwr Dros Dro Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Mae elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru wedi chwarae rhan anhygoel wrth gefnogi pobl a'u cadw mewn cysylltiad drwy gydol y pandemig ac maen nhw’n dal i wneud hynny nawr flwyddyn yn ddiweddarach. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu gwneud cyfraniad sylweddol i gymunedau sy'n ymateb i heriau COVID-19. Rydym wedi cael y fraint o weld yn uniongyrchol sut mae pobl wedi gweithredu i gefnogi ei gilydd a'u cymuned.”
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. I gael gwybod mwy am wneud cais am grant i helpu eich cymuned i addasu, adfer a ffynnu ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru