£4.1 miliwn o grantiau'r Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau ledled Cymru
Heddiw mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn lledaenu newyddion da i 121 o gymunedau ledled Cymru sy'n derbyn cyfran o £4.1m yn ei rownd ddiweddaraf o gyhoeddiadau grant. Mae'r grwpiau sy'n dathlu yn cynnwys:
- Green Squirrel CIC yng Nghaerdydd - creu adeilad cymunedol a phodiau busnes o gynwysyddion llongau
- Aberporth Village Hall and Recreation Ground - diweddaru neuadd eu pentref
- Association of Voluntary Organisations yn Wrecsam (AVOW) - datblygu model newydd o waith chwarae integredig a datblygu cymunedol
Bydd Green Squirrel CIC yng Nghaerdydd yn defnyddio £460,808 i ddarparu gofod awyr agored a dan do unigryw i'r gymuned yn Sblot i ddylunio, rhedeg, tyfu a chymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn dod â'r gymuned at ei gilydd.
Bydd adeilad a grëwyd o gynwysyddion llongau wedi'u hailgylchu yn darparu mannau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol. Bydd wyth cynhwysydd llongau yn cael eu gwneud yn bodiau busnes sy'n darparu gweithdai a swyddfeydd ar gyfer mentrau cymdeithasol, a defnyddir rhandir cymunedol ar gyfer hyfforddiant garddwriaethol a datblygu sgiliau.
Wrth dderbyn y grant, dywedodd Hannah Garcia, Cyfarwyddwr Green Squirrel: "Mae cymunedau'n haeddu lle i ddatblygu sgiliau a'u hymatebion lleol eu hunain i heriau fel COVID-19, mynediad at fwyd iach fforddiadwy, a'r argyfwng hinsawdd. Diolch i gefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gall Railway Gardens dyfu'n fan a rennir lle gall pobl leol ddod i adnabod ei gilydd, rhannu adnoddau, a dod yn fwy gwydn, gyda'i gilydd."
Yng Ngheredigion, mae Aberporth Village Hall and Recreation Ground wedi derbyn £450,000 tuag at adnewyddu ac ailadeiladu neuadd y pentref yn Aberporth, gan gynnwys gwell mynediad i bobl anabl ac effeithlonrwydd ynni er mwyn cefnogi'r amgylchedd lleol yn well. Bydd yn golygu y bydd gan y gymuned neuadd newydd wedi'i moderneiddio sy'n hygyrch i bob un o'r bobl leol.
Dywedodd Richard Jennings, Cadeirydd Neuadd Bentref Aberporth: "Mae hyn wedi bod yn hwb gwych i'r pentref. Bu llawer o ymdrechion dros y blynyddoedd i geisio cael neuadd newydd, felly mae gweld ein breuddwydion yn cael eu gwireddu o'r diwedd yn deyrnged i waith caled ac ymrwymiad y pwyllgor. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ein cefnogi."
Mewn mannau eraill, dyfarnwyd £485,861 i Association of Voluntary Organisations in Wrexham (AVOW) dros bum mlynedd i ddatblygu model newydd o waith chwarae integredig a datblygu cymunedol, gan adeiladu ar ddarpariaeth chwarae ac ieuenctid o ansawdd uchel sy'n bodoli eisoes, ac ymestyn eu cyrhaeddiad i'r gymuned ehangach. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys cynlluniau chwarae, chwarae ar y stryd, a mwy.
Wrth groesawu'r grant, dywedodd Claire Pugh o AVOW: "Bydd y Gwaith Chwarae a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn galluogi'r gymuned i gefnogi eu lles a'u datblygiad iach eu hunain drwy chwarae.
"Chwarae yw un o'r agweddau pwysicaf ar fywydau plant ac mae'n ganolog i'w profiad a'u mwynhad o fyw, rydym yn gwybod y bydd eu cyfleoedd i chwarae yn effeithio'n uniongyrchol ar sut maen nhw'n teimlo amdanyn nhw eu hunain ac agweddau eraill ar eu bywydau. Nid oes gennym amheuaeth na fydd ein cymuned yn ffynnu a bydd yr arian hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gynifer o fywydau. Ar ran y plant, pobl ifanc, teuluoedd a'r gymuned ehangach hoffem ddweud 'diolch' ENFAWR!
Dywedodd Ruth Bates, Cyfarwyddwr Dros Dro Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae cymunedau ledled Cymru wedi cael effaith anhygoel, gan gefnogi ei gilydd dros y cyfnod anodd hwn. Wrth i ni edrych yn ofalus i'r dyfodol, rydym yn gwybod y bydd pobl yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ei gilydd, diolch i'r gefnogaeth wych a ddarparwyd gan y grwpiau a ariannwyd y mis hwn."
Darllenwch am bob un o'r 121 grant gwerth £4,106,481 yn ein rhestr lawn yma.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. I gael gwybod mwy am wneud cais am grant i helpu eich cymuned i addasu, adfer a ffynnu, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru
![Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/cylch-meithrin_nla4a-walesTablet.jpg?auto=compress%2Cformat&crop=faces&fit=crop&h=100&w=100&s=6f3ac3f95f8133384990766ed3175be6)
Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Ffordd sydyn i ymgeisio am nifer llai o arian rhwng £300 a £20,000.![Pawb a'i Le: grantiau canolig](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/Medium-grants-Desktop.png?auto=compress%2Cformat&crop=faces&fit=crop&h=100&w=100&s=966aeeef6dceb53dc91fa1bdfd5c070a)
Pawb a'i Le: grantiau canolig
Hoffem helpu cymunedau yng Nghymru gyda'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cynnwys y gymuned ac a fydd yn adeiladu ar eu sgiliau a'u profiadau. Gall yr arian hwn dalu am gostau cyfalaf neu eich helpu i gynllunio gwaith tir neu adeiladu.![Pawb a'i Le: grantiau mawr](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/Large-grants-desktop.png?auto=compress%2Cformat&crop=faces&fit=crop&h=100&w=100&s=5698c5f3aa2fdd046772406210419cb6)