Mae rhaglen grant gwerth £10 miliwn yn agor heddiw yng Nghymru i wella iechyd meddwl pobl ifanc yn sgil y Pandemig.
Mae rhaglen grant gwerth £10 miliwn yn agor heddiw yng Nghymru i wella iechyd meddwl pobl ifanc yn sgil y Pandemig.
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn agor rhaglen grant gwerth £10 miliwn o’r enw Meddwl Ymlaen ar gyfer ceisiadau. Cynlluniwyd y rhaglen gan bobl ifanc i rymuso pobl ifanc ledled Cymru i wella eu hiechyd meddwl a'u gwydnwch.
Ers dechrau 2020, mae tîm o bobl ifanc wedi bod yn gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Maent wedi bod yn gweithio i nodi sut y gall arian y Loteri Genedlaethol gael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar bobl ifanc yng Nghymru. Roedd y tîm datblygu yn cynnwys ProMo-Cymru a'r Weinyddiaeth Fywyd a fu'n gweithio gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a'r bobl ifanc. Gwnaethant rywfaint o waith ymchwil yn ystod y cyfnod dylunio, a ddatgelodd gipolwg ar y blaenoriaethau allweddol ar gyfer y bobl ifanc hynny:
- Mynediad at gymorth o safon ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u lles
- Llais cyhoeddus a rôl yn y broses o wneud penderfyniadau
- Eu dyfodol – yn enwedig cyfleoedd cyflogaeth a mynediad i dai
- Y Celfyddydau – pryderon ynghylch effaith COVID 19 ar theatr, cerddoriaeth a ffilm
Yn galonogol, roedd dros hanner y bobl ifanc hyn o leiaf braidd yn gadarnhaol am eu dyfodol, er gwaethaf effaith y pandemig. Roedd 13% yn negyddol a 35% ddim yn siŵr beth i'w feddwl, ond dywedodd y 52% arall eu bod yn teimlo'n obeithiol.
Teimlai rhai o'r cyfweleion fod y Cyfryngau a chymunedau wedi targedu pobl ifanc yn annheg yn ystod y pandemig – fel y dywedodd un person ifanc:
"Cyfwelodd y wasg â'r bobl mwyaf swnllyd, oedd yn mynd i bartïon gwyllt, a'u rhoi ar y newyddion."
Roedd llawer o'r bobl ifanc a gyfwelwyd yn teimlo na allent ddylanwadu ar benderfyniadau a fyddai'n effeithio arnynt, gan deimlo nad oedd eu lleisiau'n cael eu gofyn amdanynt na'u clywed. Mae'r rhaglen newydd Meddwl Ymlaen a lansiwyd heddiw wedi'i chyd-gynllunio gyda thîm o bobl ifanc yn gweithio'n agos gyda'r Gronfa.
Bydd y rhaglen Meddwl Ymlaen yn rhoi grantiau i bartneriaethau rhwng grwpiau cymunedol, gwasanaethau sy'n cefnogi pobl ifanc a'r bobl ifanc eu hunain. Gofynnir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc ac yn eu grymuso i benderfynu ar y ffordd orau o wella eu gwydnwch a'u lles. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU, bellach yn gweithio gyda'r bobl ifanc i ddod o hyd i brosiectau a fydd yn creu dyfodol iachach a mwy gwydn i Gymru ac ariannu prosiectau.
Dywedodd Cai Phillips, aelod o Banel Cynghori Pobl Ifanc yn Arwain Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“'Mae wedi bod yn anrhydedd i fi helpu creu'r gronfa yma. Mae'n gronfa mor bwysig gan ei fod yn rhoi llais pobl ifanc wrth wraidd pob penderfyniadau. Dyma gronfa bydd yn helpu iechyd meddwl pobl ifanc am flynyddoedd i ddod. Drwy feddwl ymlaen gallwn greu fywydau gwell i bawb.”
Dywedodd Ruth Bates, Cyfarwyddwr Dros Dro Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
"Mae gweithio gyda'r bobl ifanc i gynllunio a lansio rhaglen grant Meddwl Ymlaen wedi bod yn fraint. Mae eu creadigrwydd a'u hegni wedi rhoi cipolwg i ni ar ba mor bwysig yw gwrando ar leisiau pobl ifanc. Disgwyliwn i'r grantiau roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc ledled Cymru i arwain y gwaith o wella eu gwydnwch a'u lles eu hunain a chreu dyfodol gwell i genedlaethau i ddod. Wrth gwrs, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol y gallwn ddarparu'r grant hwn ar adeg mor dyngedfennol i bobl ifanc.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU.
I gael rhagor o wybodaeth ewch
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen yr adroddiad llawn ar yr ymchwil a ddisgrifir yn yr erthygl hon.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru