£3.1 miliwn gan y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys dau brosiect garddio a mynd allan i’r awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi'r newyddion da bod 51 o gymunedau ledled Cymru yn cael cyfran o £3.1 miliwn.
Mae grwpiau sy'n dathlu'r mis hwn yn cynnwys:
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – mewn partneriaeth â Mind Sir Benfro, byddant yn defnyddio’u grant o dros £300,000 i wella iechyd meddwl drwy ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau grŵp awyr agored.
- Mach Maethlon – bydd grant o bron i £100,000 yn cefnogi pobl leol i dyfu bwyd, yna coginio a bwyta'r bwyd.
- Bydd RainbowBiz CIC yn gwario eu £10,000 yn parhau i redeg Digging Deeside. Bydd y prosiect garddio cymdeithasol yn gwella lles cymunedol ac yn lleddfu straen gofalwyr.
- Gwnaeth Cymorth Iechyd Meddwl BAME CIC gais llwyddiannus am £9,800 i ddosbarthu bwyd dros ben o siopau a darparu cludiant i gyrraedd gwasanaethau ac apwyntiadau hanfodol.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mewn partneriaeth â Mind Sir Benfro, yn defnyddio £339,891 dros dair blynedd i gefnogi pobl sydd ag iechyd meddwl gwael. Byddant yn cynnig cymorth i bobl gymryd rhan mewn gwirfoddoli a chael mynediad at weithgarwch grŵp awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac o'i amgylch. Bydd y gweithgareddau'n helpu pobl i ddatblygu sgiliau a magu hyder. Byddant hefyd yn gallu cwrdd â phobl newydd a gwella eu lles a'u hansawdd bywyd cyffredinol.
Wrth dderbyn y grant, dywedodd Graham Peake, Arweinydd y Tîm Darganfod: "Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Mind Sir Benfro yn credu, efallai nawr yn fwy nag erioed, y gall yr amser sy’n cael ei dreulio yn yr awyr agored fod o fudd gwirioneddol i les y rhai sy'n cymryd rhan. Bydd ein prosiect yn elwa o arbenigedd cyffredin pawb sy'n gysylltiedig, gan gynnwys tîm o wirfoddolwyr brwdfrydig a fydd yn gweithredu fel mentoriaid i'r rhai sy'n cymryd rhan. Mae grant ar gyfer y prosiect hwn yn newyddion gwych - allwn ni ddim aros i ddechrau arni."
Yng nghanolbarth Cymru, bydd Mach Maethlon, sydd wedi'i leoli ym Machynlleth, yn gwario £99,952 dros ddwy flynedd a hanner. Maent yn bwriadu cynyddu faint o fwyd sy'n cael ei dyfu'n lleol a sicrhau bod gan bawb fynediad at gynnyrch blasus, ffres. Byddant yn cefnogi pobl leol i dyfu, coginio a bwyta'r bwydydd sy’n cael eu tyfu yn lleol.
Dywedodd Alison Murfitt, cydlynydd prosiect Edible Mach, "Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn y grant hwn. Bydd yn ein galluogi i gynyddu ein gwydnwch bwyd lleol, cefnogi mwy o bobl i dyfu a choginio bwyd iach ac adeiladu cysylltiadau yn ein cymuned gyda bwyd lleol wrth ei galon."
Yn y cyfamser yn Sir y Fflint, dyfarnwyd £10,000 i RainbowBiz CIC i barhau i redeg Digging Deeside, prosiect garddio cymdeithasol gyda'r nod o wella lles cymunedol a lliniaru straen gofalwyr.
Wrth groesawu'r grant, eglurodd Darren Cook o RainbowBiz CIC sut mae'r prosiect wedi newid ei fywyd:
"Ers Digging Deeside rydw i wedi dod yn hyderus iawn i wneud pethau ar fy mhen fy hun, pethau a oedd yn anodd i mi eu gwneud o’r blaen, fel sgwrsio â phobl a gwneud ffrindiau newydd. Rydw i wedi dysgu sgiliau garddio a sgiliau pobl. Rydw i'n siarad drosof fy hun erbyn hyn yn hytrach na dibynnu ar bobl eraill i'm harwain i ym mhopeth rydw'n ei wneud.
"Mae fy ngallu newydd yn fy ngalluogi i helpu a chefnogi eraill, wrth arddio ac o ran cefnogaeth, ac mae fy iechyd wedi gwella'n aruthrol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Rydw i'n teimlo bod Digging Deeside yn fy nghyfoethogi. Rydw i'n gwneud ffrindiau newydd ac yn mwynhau bod gyda natur. Mae wedi fy helpu i deimlo'n fwy byw!"
Yn Abertawe, gwnaeth CIC Cymorth Iechyd Meddwl BAME (aka BMHS) gais llwyddiannus am £9,800 i ddosbarthu bwyd dros ben o siopau yn eu cymuned, ac i ddarparu mynediad a chludiant i wasanaethau hanfodol megis mynychu apwyntiadau brechu.
Dywedodd Alfred Oyekoya, Cyfarwyddwr BMHS: "Diolch i Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol Cymru, rydyn ni bellach mewn sefyllfa well i roi cymorth i aelodau o'n cymuned sy'n dibynnu ar gyflenwadau bwyd, wrth i ni ddod dros y pandemig yng Nghymru. Drwy gasglu bwyd a fyddai fel arall yn mynd i wastraff a'i ailddosbarthu i achosion da, rydyn ni’n cyfrannu at economi'r DU bob wythnos."
Gerllaw yng Nghlydach, bydd Friends of Coed Gwilym Park yn defnyddio £89,000 i ddatblygu clwb cymunedol newydd ym Mharc Coed Gwilym, gan wella'r cyfleusterau yn y parc a darparu lle i gyfarfod, cysgodi a chymdeithasu. Bydd gweithgareddau ysgol, nosweithiau cyflwyno a digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn y clwb a fydd ar agor i'r cyhoedd bob dydd.
Dywedodd David Rooke, Cadeirydd Friends of Coed Gwilym Park, "Rydyn ni wrth ein bodd gyda'n gwobr ac yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydyn ni wedi cyffroi i fod ar y ffordd i sicrhau'r holl gyllid sydd ei angen i wireddu'r prosiect hwn."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae'r grwpiau hyn wedi chwarae rhan anhygoel wrth gefnogi cymunedau a lles pobl dros y cyfnod anodd hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Wrth i ni edrych yn ofalus i'r dyfodol, rydyn ni'n gwybod y bydd pobl yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ein gilydd ledled Cymru, ac mae'n fraint i ni weld hyn yn uniongyrchol."
Darllenwch am bob un o'r 51 grant gwerth £3,170,216 yn ein rhestr lawn yma.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. I gael gwybod mwy am wneud cais am grant i helpu eich cymuned i addasu, adfer a ffynnu, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru