Taith gyntaf Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i Gymru
Ymwelodd Blondel Cluff CBE â nifer o brosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yr wythnos hon, ychydig fisoedd ar ôl cael ei phenodi'n Gadeirydd Bwrdd y DU Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dechreuodd ei thaith o amgylch Cymru yng Nghlwb Bocsio Phoenix Llanrhymni yng Nghaerdydd, sydd wedi derbyn grant o £295,543 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal gweithgareddau sy'n dod â phobl ynghyd ac yn rhoi hwb i hyder a lles. Fe wnaeth gweithwyr prosiect a hyfforddwyr bocsio gyfarfod â Mrs Cluff a siarad â hi am sut mae'r clwb wedi newid eu bywydau er gwell.
Aeth Mrs Cluff ymlaen i ymweld â’r Drenewydd ym Mhowys, lle gwelodd yn uniongyrchol sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn newid bywydau ac yn creu cyfleoedd newydd i adeiladu ar asedau'r dref. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu 327 o grantiau gwerth £11.68 miliwn ym Mhowys; 32 o'r rhain yn y Drenewydd a Llanllwchaiarn a oedd yn werth £2.48 miliwn.*
Derbyniodd Open Newtown £1.1 miliwn o arian gan y Loteri Genedlaethol i helpu i drawsnewid 130 erw o fannau gwyrdd, gan gynnwys datblygu parc chwarae newydd, trac pwmp BMX, llwybr beicio mynydd, gwell mynediad at yr afon ac adeilad newydd ar lan yr afon.
Ymwelodd Mrs Cluff â'r parc a chyfarfu â Gary Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol Open Newtown ac Adam Kennerley, Rheolwr Open Newtown. Siaradodd hefyd â Craig Williams, AS Sir Drefaldwyn a Jane Dodds, Aelod o Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Meddai Stuart Owen, Rheolwr Datblygu Menter yn Open Newtown, "Diolch i'r Loteri Genedlaethol am eu grant a'u cefnogaeth barhaus, rydyn ni wedi gallu datgloi potensial ein mannau gwyrdd."
Tra yn y Drenewydd, cyfarfu Mrs Cluff hefyd â Claire Cartwright, Cyfarwyddwr a Peter Bayliss, Cadeirydd Ponthafren. Sefydlwyd y grŵp hwn ym 1992 gan bobl â phroblemau iechyd meddwl oedd yn chwilio am rywle diogel i gymdeithasu. Aeth Mrs Cluff ar daith o amgylch yr ardd a chlywed am y gefnogaeth hollbwysig a roddodd yr elusen i bobl drwy gydol y pandemig, diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Galluogodd yr arian i Ponthafren ddarparu cwnsela ar-lein am ddim i gefnogi pobl pan oedd ei angen arnynt fwyaf.
Gorffennodd ei thaith yn Neuadd Gymunedol Treowen a chwrdd â phlant a theuluoedd o'r ardal leol sydd wedi elwa o'r ardal gemau aml-ddefnydd newydd. Diolch i grant o £99,360, llwyddodd cymuned Trewowen i drawsnewid y cwrt tenis segur yn ardal gemau aml-ddefnydd newydd i blant a phobl ifanc.
Dywedodd Blondel Cluff CBE, "Mae wedi bod yn bleser gweld a chlywed mwy am y gwaith gwych sy'n digwydd yng Nghymru, diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Hoffwn ddiolch i Glwb Bocsio Phoenix Llanrhymni, Open Newtown, Ponthafren a Chymuned Treowen am eu croeso ac am roi cipolwg i mi o'r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i fywydau pobl."
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos** ar gyfer achosion da ledled y DU. I gael gwybod mwy am wneud cais am arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu, ewch i cronfagymunedolylg.org.uk.
* Mae'r ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2021.
** seiliedig ar 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru