"Fy nymuniad fyddai i ni allu helpu pobl i ddysgu’r sgiliau bywyd sy’n aml iawn wedi fy nghadw i'n fyw ar fy nghyfnodau mwyaf gofidus."
Mae Grŵp Resilience yn Sir Benfro wedi derbyn grant o £7,880 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru i ariannu'r prosiect Greener Healing. Bydd y prosiect hwn yn cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl i gymryd rhan mewn gweithgarwch cymdeithasol gwyrdd a gwerthuso sut mae hyn yn effeithio arnyn nhw.
Esbonia Vicky Moller, Cadeirydd Grŵp Resilience, sef rhwydwaith o fusnesau, cymunedau a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i weithio'n gynhwysol er budd hirdymor natur a phobl:
"Gwelson ni fod llawer o bobl ag anghenion lles cymdeithasol a meddyliol brys ar eu hapusaf pan fyddan nhw’n teimlo'n ddefnyddiol ac yn gwneud pethau ymarferol gydag eraill. Bydd y prosiect hwn yn cofrestru'r rhai sydd angen gwella eu lles fel ymchwilwyr gwirfoddol, i helpu'n ymarferol mewn gerddi cymunedol a mentrau cymdeithasol tebyg. Byddan nhw’n ymchwilio i effeithiolrwydd y gweithgaredd dros amser.
"Rydyn ni’n gweithio gyda phobl sydd wedi profi profiadau niweidiol mewn bywyd. Maen nhw’n cynnwys pobl sydd wedi dianc rhag rhyfel, mamau sydd wedi colli plant, dioddefwyr cam-drin hirsefydlog a phobl ifanc sydd wedi’u niweidio gan gam-driniaeth bywyd a sylweddau. Dydyn nhw ddim am fyw fel dioddefwyr. Maen nhw eisiau cael eu gwerthfawrogi, a gwella eu hunain.
"Rydyn ni’n adeiladu ar iachau gwyrddach o lawr gwlad. Bydd arian y Loteri Genedlaethol hefyd yn rhoi cymorth ymarferol i fentrau cymdeithasol a gerddi cymunedol ac yn cefnogi cydlynydd i ofalu am y gwirfoddolwyr."
Galluogodd yr arian un o'r gwirfoddolwyr,Leoni Jenkins, i fynd â cheffyl o'r enw Monk i ailagor Canolfan Gymunedol Cil-y-bae yn Sir Benfro. Yn ddiweddar, ailagorodd y ganolfan o dan reolaeth newydd, Dezza's Cabin, sef elusen anghenion cymdeithasol hunangymorth sy'n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid i gyfoedion. Yng ngeiriau Vicky Moller, "Mae Dezza's yn troi trychineb yn rym, gyda chwistrelliad o gymorth gan Grŵp Resilience. "
Meddai Leoni Jenkins, sy'n wirfoddolwr yn Dezza's a Grŵp Resilience:
"Dwi wedi cael trafferthion na ddylai neb eu cael, dwi wedi profi poen emosiynol sy'n waeth na rhwyg corfforol drwy golli fy mhlant. Ond dwi’n gwrthod cael fy niffinio gan y boen hon. Mae gweithio gyda Monk wedi fy nghadw i'n fyw ar adegau. Mae wedi dysgu symlrwydd, amynedd a thosturi i mi.
"Mae'r berthynas rhwng ceffylau a phobl yn unigryw; mae ceffylau yn adlewyrchu emosiynau dynol. Mae'r sensitifrwydd hwn yn cynnig adborth i berson oherwydd statws pwerus y ceffyl. Maen nhw'n caniatáu i bobl oresgyn ofn."
Dywedodd Leoni wrthyn ni am un profiad gafodd hi a Monk a fydd yn aros gyda hi am byth:
"Cysylltodd tad â ni gyda'i ferch swil, dawedog iawn. Roedd ganddi ddiddordeb yn Monk ond roedd hi’n rhewi gan ofn o’r bobl eraill o gwmpas. Plygodd ei thad i lawr, ei chodi a'i rhoi ar Monk. Waw! Gwên ar unwaith. Gwnaethon ni gylch 20 metr ac ar ein taith yn ôl, allan o nunlle, ymatebodd y ferch fach i gwestiwn roeddwn i wedi'i ofyn ddeng munud ynghynt. Dywedodd EI HENW! Allai ei thad ddim credu ei bod wedi siarad a dwi’n gwybod ei fod i lawr i'r hud yn Monk, ac mewn unrhyw geffyl.
"Mae yna rieni sydd hefyd wedi mynegi pryder i mi fod delwyr cyffuriau lleol yn defnyddio eu plant i redeg cyffuriau. Mae'r plant hyn rhwng 12 ac 16 oed. Daeth o leiaf ddau ohonyn nhw a chyfarfod â Monk yn Monkton Fete. Am yr ychydig funudau hynny, fe wnes i eu gwylio yn dod yn fyw a bod yn blant.
"Oni fyddai'n fyd gwych pe gallai pobl eraill sy'n cael trafferth gydag unrhyw beth ddod o hyd i gysur yn yr un ffordd ag y gwnes i. Byddai'n rhoi cyfle i blant ddysgu sgiliau bywyd sydd wedi fy nghadw i'n fyw ac yn sobr! Yn anffodus, mae hyn i gyd yn dod ar gost ac felly i'r rhai mwyaf agored i niwed a’r tlotaf yn ein cymunedau, dydy'r sgiliau hyn ddim o fewn cyrraedd o gwbl.
"Fy nymuniad fyddai i ni allu helpu pobl i ddysgu'r sgiliau bywyd sydd yn aml iawn wedi fy nghadw i'n fyw ar fy nghyfnodau mwyaf gofidus."
Dywedodd Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn cefnogi'r bobl sy'n dibynnu arnyn nhw. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Y llynedd, gwnaethon ni ariannu dros 8,000 o brosiectau ledled y DU i ddod â chymunedau ynghyd, gyda dros 7,500 yn cefnogi iechyd a lles. Rwy'n gobeithio y bydd y grant hwn yn galluogi Grŵp Resilience a'r prosiectau eraill sy'n derbyn grantiau y mis hwn i barhau i gynnig cymorth i'r bobl a'r cymunedau sydd wir ei angen, a pharhau i newid bywydau."
Dim ond un o 87 o gymunedau yng Nghymru sy'n rhannu mwy nag £1 miliwn (£1,099,866) y mis hwn yw Grŵp Resilience. I ddarllen am y projectau eraill, dilynwch y ddolen hon.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru