IKEA UK a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi dros £75,000 i gefnogi cymunedau Cymru i ddod yn llefydd mwy cysylltiedig a gwydn
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri ac IKEA UK wedi cyhoeddi dros £75,000 (£76,694) o gyllid i 18 grŵp cymunedol ledled Cymru i ysbrydoli, galluogi a chyrchu pobl i fuddsoddi yn eu cymuned leol fel ymestyniad o'u cartref.
Mae'r bartneriaeth sydd dan brawf rhwng ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol a manwerthwr dodrefn i'r cartref mwyaf y byd, yn cefnogi cymunedau lleol gyda grantiau o hyd at £5,000 i adeiladu'n ôl yn well ac yn wahanol wrth iddynt adfer wedi pandemig COVID-19. Mae'r rhaglen Caru'n Cynefin yn datblygu ar egni a chreadigedd cymunedau yn dod at ei gilydd yn ystod yr argyfwng i gefnogi ei gilydd a'r nod yw eu hysbrydoli i weithredu dros fyw'n iach a chynaliadwy, gan ddysgu gan ei gilydd a magu cysylltiadau ystyrlon.
Mae'r grantiau ymhlith dros 330 sy'n cael eu dyfarnu ledled y DU gyda chyfanswm o £1.5 miliwn. Ochr yn ochr â'r cyllid, sy'n cynnwys £1 miliwn gyda diolch i gyfranwyr y Loteri Genedlaethol a £500,000 gan IKEA UK. Cliciwch yma i lawrlwytho rhestr o'r holl brosiectau sydd wedi'u dyfarnu yng Nghymru.
Un o'r prosiectau yn Sir y Fflint yw Enbarr Foundation CIC. Cawsant £4,832 i gynnal gŵyl a'u cynllun yn y pendraw yw dwyn cymunedau ynghyd unwaith eto. Cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu pob diwylliant gyda'r safle treftadaeth cymunedol hwn yn ganolbwynt i'r cwbl.
Gan groesawu'r newyddion, dywedodd Vicki Roskams o Enbarr Foundation CIC: "Yn sgil cyllid arbennig gan y Loteri Genedlaethol / IKEA, gall Enbarr barhau i weithio gyda phobl yn y gymuned leol sy'n orbryderus ynghylch y gaeaf yn sgil effaith ddiweddar COVID a chreu, nid yn unig lle i wella sgiliau a hyder, ond lle y gallant ei alw'n gartref, a theimlo'n ddiogel ac yn rhan o'r teulu yno, a gallwn ni i gyd helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol sy'n effeithio ar ein cymunedau, megis arwahanrwydd cymdeithasol, unigedd, newid hinsawdd a thlodi bwyd.
"Drwy waith arbennig Gwarcheidwaid Enbarr sy'n cefnogi ein holl fentrau, rydym yn helpu nid yn unig i hyrwyddo ailadeiladu, uwchgylchu, ac ailbwrpasu gwastraff a chynnyrch y cartref, ond hyrwyddo ethos cyffredin i greu dyfodol gwell i'r blaned a chenedlaethau'r dyfodol, a'r ymwybyddiaeth a'r sgiliau i wneud hynny yn eu cartrefi eu hunain hefyd, gan gryfhau'r effaith.
"Ni allai eich cyllid fod wedi dod i'n llaw ar adeg well a byddwn nawr yn gallu cefnogi mwy o bobl i greu eu dymuniad Nadolig, boed yn rhywbeth materol neu'n ddyhead, gan nad yw caredigrwydd tuag at eraill a rhannu sgiliau a gwybodaeth yn costio dim."
Yn Rhondda Cynon Taf, bydd Bryncynon Community Revival Strategy Ltd yn defnyddio £4,573 i ddodrefnu eu hystafell pecyn bwyd yn y Feel Good Factory er mwyn i bobl hŷn unig a bregus sy'n cael danfoniadau o becynnau bwyd am ddim i'w cartrefi allu mynd o'r tŷ i ddewis eu bwyd eu hunain o bantri bwyd pwrpasol. Felly, byddai derbynwyr yn llai dibynnol ar yr hyn maent yn ei gael ac yn rhydd i ddewis beth sydd ei angen arnynt.
Wrth dderbyn y grant, dywedodd Nina Finnigan: "Mae gwirfoddolwyr y Listening Project wrth eu bodd o gael cyllid gan "Caru'n Cynefin" ac yn diolch i gyfranwyr y Loteri Genedlaethol ac IKEA am eu cefnogaeth. Nawr mae gennym gyfle gwych i ddatblygu ein pantri bwyd, lle diogel i'n pobl hŷn fynd yno i ymlacio mewn amgylchedd cyfforddus, cael cwpan o de, sgwrsio gyda'i gilydd, dewis eu bwyd eu hunain yn hytrach na gorfod dibynnu ar gael pecyn bwyd i'w cartrefi a'u hannog i gymryd diddordeb yng ngweithgareddau eraill. Bydd yr ystafell hefyd yn gweithredu fel lle i'n gwirfoddolwyr (nifer ohonynt yn bobl hŷn eu hunain) ei reoli at eu defnydd eu hunain, er mwyn ymlacio neu dderbyn hyfforddiant.
"Diolch yn fawr iawn – gall cyfranwyr y Loteri Genedlaethol fod yn sicr bod eu harian yn cyfrannu at helpu pobl hŷn i gyfrannu unwaith eto at eu cymuned ar ôl cyfnod hir o unigedd ac arwahanrwydd yn ystod pandemig covid."
Dywedodd Emma Ackerman, Cyfarwyddwr Strategaeth Cyllid yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Wrth i ni ddod yn ôl ar ein traed wedi pandemig COVID-19, mae'n amlwg y gallwn ddatblygu ar yr egni a'r creadigedd yr ydym wedi'u gweld i wneud cymunedau yn gryfach a bywyd bob dydd yn well. Rydym wrth ein bodd ein bod, ynghyd ag IKEA a chyfranwyr y Loteri Genedlaethol, wedi gallu cefnogi hyn ledled y DU gyda'n partneriaeth dan brawf a'r cyllid a gafodd ei gyhoeddi heddiw.”
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru