Grwpiau cymunedol ledled Cymru’n cynllunio eu dathliadau ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines ei Mawrhydi diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol
Mae dros £3 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol wedi cael ei ddyfarnu i grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n paratoi i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines ei Mawrhydi.
O bartïon stryd i gefnogaeth arddwriaethol i gyn-filwyr; cefnogi plant i gysylltu â natur a digwyddiadau cymunedol amlgenhedlaeth; bydd pobl ledled Cymru’n nodi #Dathlu2022, blwyddyn arwyddocaol o ddathlu a balchder cenedlaethol, diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.
Diolch i grant £50,000 gan Gronfa’r Jiwbilî Platinwm, bydd Merthyr Tydfil and District Naturalists yn gwahodd plant o wahanol ysgolion i ddysgu rhagor am wenyn. Byddan nhw’n defnyddio eu grant i greu gwenynfa gymunedol a gardd farchnad ym Mharc Cyfarthfa, gan ddysgu pobl leol am wenyn a sut mae pryfed peillio’n bwysig i’r amgylchedd. Eu bwriad yw creu gwell dealltwriaeth o’r byd naturiol gan ddatblygu sgiliau cadw gwenyn ar draws y gymuned.
Dywedodd Susan Taylor, Cadeirydd Merthyr Tydfil and District Naturalists' Society: “Bydd y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i’n gwaith. Mae pobl yn y gymuned sy’n cadw gwenyn ym Merthyr Tydfil yn helpu eu cymuned i addasu, adfer a ffynnu, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r prosiect yn ymgysylltu ysgolion lleol a sefydliadau cymunedol â gweithgareddau amlgenhedlaeth sy’n cynnwys gofalu am ein gwenyn, gwella ein hamgylchedd a darganfod y byd naturiol o’n hamgylch. Wrth i ni symud ymlaen, rydym ni mor ddiolchgar am y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol”.
Derbyniodd Enbarr Foundation CIC yn Sir y Fflint £44,848 i drawsffurfio adeilad pencadlys blaenorol John Summers Steelworks i hwb cymunedol, gan gynnig cefnogaeth i bobl ifanc a di-waith i ddatblygu eu sgiliau a rhagolygon gyrfa. Bydd y cynlluniau hefyd yn ail-ddylunio’r gerddi ac yn creu amgueddfa’n dathlu hanes yr ardal yn ogystal â rhoi cyfleoedd hyfforddi i bobl leol.
Dywedodd Vicki Roskams, Rheolwr Ymgysylltu Enbarr Foundation CIC – “Trwy’r fenter hon a’r cyllid arbennig, ein bwriad yw grymuso pawb yn y gymuned i ddod ynghyd a chreu rhywbeth anhygoel y gallant ei rannu gyda’u plant a’u hwyrion, a chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y Parti Stryd yn ystod penwythnos y Jiwbilî’n galluogi pobl o bob oedran i ddod ynghyd ar y safle a rhannu atgofion ac etifeddiaethau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Derbyniodd Valley Veterans yn Rhondda Cynon Taf £50,000 i adeiladu ar y gefnogaeth y maen nhw wedi’i darparu i gyn-filwyr y lluoedd arfog ar hyd coridor yr M4 ac o’i amgylch yng Nghymoedd Cymru. Bydd eu prosiect Equi-Growth newydd yn gwella iechyd a lles meddyliol a chorfforol cyn-filwyr trwy gyfranogiad gweithredol mewn rhaglen strwythuredig o weithgareddau marchogaeth a garddwriaethol. Wedi’i arwain gan gyn-filwyr, a’i gefnogi gan fentoriaid a phartneriaid yn y diwydiant, bydd cyfranogwyr yn ennill sgiliau ymarferol a phrofiad i fynd i’r afael â’r heriau sy’n codi o unigrwydd ac ynysu.
Dywedodd Nigel Locke, ysgrifennydd y Valley Veterans: “Bydd cyllid Jiwbilî Platinwm y Loteri Genedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf yn ein galluogi i barhau ein cefnogaeth i gyn-filwyr ac ehangu ein gwasanaethau i gynnwys y gymuned leol yn ein Prosiect. Rydym ni mor ddiolchgar am eich cefnogaeth”.
Bydd Maes Hamdden Caersws ym Mhowys yn defnyddio eu grant £5,595 i helpu’r gymuned ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines drwy gynnal parti stryd. Bydd coed yn cael eu plannu i adael etifeddiaeth o’r adeg bwysig hon a bydd plant ysgol yn derbyn rhoddion coffaol. Bydd y grant yn cynnwys costau bwyd a diod, coed, posteri a thaflenni, byntin, baneri a pholion baneri, gweithgareddau dathlu a gwobrwyon, ac arwyddion ar gyfer y llwybr cerdded.
Dywedodd Les George, Cadeirydd Maes Hamdden Caersws: “Mae cymuned Caersws wedi trefnu digwyddiadau i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines ei Mawrhydi, gan weithio’n agos â Chymdeithas Maes Hamdden Caersws. Mae digwyddiadau wedi cael eu trefnu dros bedwar diwrnod, gan ganolbwyntio ar y parti stryd ar Ddydd Sul 5ed Mehefin. Rydym wrth ein boddau â’r cymorth a’r gefnogaeth a roddwyd i ni gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y mae’r gymuned gyfan yn ei werthfawrogi’n fawr.”
Bydd Henderson Hall yn Nhalybont ar Wysg ym Mhowys yn defnyddio eu grant £5,600 i drefnu haf o ddigwyddiadau a mentrau cymunedol o fis Mawrth i fis Medi 2022, gyda’i wreiddiau mewn adeiladu cydlyniad cymunedol amlgenhedlaeth i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Dywedodd Dr Kirsten Jones, y prif drefnydd, “Mae gan Talybont draddodiad cryf o grwpiau cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd ac yn dilyn dwy flynedd anodd lle mae llawer o bobl wedi bod yn ynysig, rydym wrth ein boddau i gydweithio a chynllunio cyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr haf eleni i ddod â’r gymuned ynghyd a dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, a hynny gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol”.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, “Mae’r dathliadau hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl adeiladu perthnasoedd cryfach o fewn eu cymunedau a rhoi hwb i fannau cyhoeddus nad ydynt wedi cael eu defnyddio ers y pandemig. Mae’r Gronfa’n ymroddedig i gefnogi prosiectau sy’n helpu cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da.”
Dyma rai o’r 22 o brosiectau ledled Cymru sy’n derbyn grant i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm. (Mae'r ddolen hon yn lawrlwytho dogfen Word gyda rhestr lawn o grantiau).
-Gorffen-
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru