Rhondda Hub for Veterans yn helpu Ian dod o hyd i le iddo alw’n gartref
Mae Rhondda Hub for Veterans yng Nghymoedd Cymru’n un o 83 o grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n dathlu derbyn cyfran o fwy nag £1 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU. Dyfarnwyd £10,000 i Rhondda Hub for Veterans, i fynd i’r afael â digartrefedd, gan gefnogi pobl yn Y Rhondda sydd wedi gadael y lluoedd arfog. Mae’r grŵp hefyd yn helpu â materion sylfaenol fel diweithdra a phroblemau iechyd meddwl.
Mae Ian Lowther, a gafodd cymorth gan Rhondda Hub for Veterans, ac sydd bellach yn gwirfoddoli drostynt, yn egluro sut helpodd eu cefnogaeth iddo ddod o hyd i le iddo alw’n gartref;
“Heb gefnogaeth Rhondda Hub for Veterans, fyddwn i byth wedi gallu cymryd y cam hwnnw o symud i rywle y gallwn i ei alw’n gartref.”
Mae Ian yn canmol gwaith Rhondda Hub for Veterans a’r gefnogaeth a dderbyniodd gan y Rhondda Hub gan ddweud:
“O fewn wythnos o gael fy nghyfweliad cychwynnol gyda Rhondda Hub for Veterans, cefais gyfarfod dilynol ac fe egluron nhw bopeth yn syml. O fewn dyddiau, lluniodd y tîm restr o lefydd yr oeddent yn teimlo y byddent yn bodloni fy anghenion. Pythefnos ar ôl yr alwad ffôn gychwynnol honno, roeddwn wedi llofnodi’r llinell ddotiog a dechreuais rentu cartref fy hun yn y Cymoedd.
“Mae gan bob sefydliad yn y gymuned cefnogaeth i gyn-filwyr rôl benodol. Mae’r Rhondda Hub yn ymdrin ag un o’r elfennau allweddol wrth helpu rhywun gael rheolaeth dros eu bywyd unwaith eto. Rwy’n gwybod, heb eu cymorth, na fyddai gen i’r sylfaen gadarn sydd gennyf nawr i adeiladu fy mywyd arni. Diolch.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu grantiau o £300 hyd at £500,000 ac mae ganddi rwydwaith o Swyddogion Ariannu ledled Cymru i gefnogi grwpiau fel Rhondda Hub for Veterans i gael mynediad at gyllid y Loteri Genedlaethol. Mae’r Gronfa’n cynnig llinell gymorth i gefnogi grwpiau gyda sgwrs gychwynnol, sydd ar agor pum diwrnod yr wythnos ar 0300 123 0735.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“Mae dros wyth ym mhob deg o’n grantiau am £10,000 neu’n llai – yn mynd i grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau sy’n gwneud pethau gwych, fel Rhondda Hub for Veterans. Fel y mae stori Ian yn ei ddangos, mae’n cael effaith enfawr, gan helpu pobl i ffynnu. Mae grantiau fel hyn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. I ddarllen am ragor o’r 84 o brosiectau gwych yr ydym wedi’u hariannu’r mis hwn, gyda grantiau’n dod i gyfanswm o £1,103,525, (mae'r ddolen hon yn lawrlwytho dogfen Word gyda rhestr lawn o grantiau'r mis hwn).
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru