Llawenydd i elusen ym Merthyr Tudful ar ôl derbyn £78,000 i frwydro yn erbyn tlodi bwyd
Derbyniodd Hope Church Merthyr Tudful, elusen tlodi bwyd, grant o £78,000 am eu prosiect ‘Help@Hope – Hope Pantry’ a fydd yn datblygu eu pantri cymunedol a chynnig gwasanaeth cyfeillio un-wrth-un. Mae’r elusen yn ond un o 76 grŵp cymunedol ledled Cymru sy’n dathlu cyfran o dros £4.6 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr gweithgarwch cymunedol mwyaf y DU.
Dechreuodd gwaith cyfredol Hope Church yn ystod y cyfnod clo cyntaf wrth iddyn nhw fynd siopa dros bobl nad oeddent yn gallu gadael y tŷ, cyn esblygu i ddosbarthu parseli bwyd argyfwng a chynnig gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn. Tyfodd y galw’n gyflym ac addasodd yr elusen eu gweithgareddau i gynnig hyd at £25 o fwyd yr wythnos am ffi aelodaeth wythnosol o £3.50.
Bydd y grant diweddaraf yn galluogi’r elusen i gynyddu aelodaeth o’r pantri o hanner eto. Bydd o leiaf 30 o wirfoddolwyr lleol yn datblygu eu sgiliau a’u hyder, a darparu gwasanaeth cyfeillio wyneb yn wyneb a chyfarfodydd caffi wythnosol i feithrin cyfeillgarwch cryf o fewn yr ardal.
Eglurodd Dr Paul Gaskin, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr elusen:
“Rydym wrth ein boddau bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi Hope Church Merthyr i gynnal ac ehangu ein prosiectau.“Bydd hyn yn helpu’r gymuned yn uniongyrchol gydag ansicrwydd bwyd a phroblemau unigrwydd ac ynysrwydd.”
Croesawodd Aelod Seneddol Merthyr Tudful a Rhymni Gerald Jones y newyddion am y cyllid a dywedodd:
“Gyda’r argyfwng costau byw’n peri caledi i deuluoedd ledled y genedl, mae Hope Pantry yn darparu mynediad sydd wir ei angen at fwyd fforddiadwy. Rwyf wedi gweld y gwaith y mae Hope Pantry yn ei wneud, ac rwy’n gwybod y bydd y cyllid hwn yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl ym Merthyr Tudful.”
Roedd Gwyl Maldwyn ym Mhowys hefyd yn dathlu eu cais llwyddiannus am £8,820 ar gyfer eu gŵyl rhwng 24-26 Mehefin gydag adloniant i bobl o bob oedran. Bydd hyn yn ehangu ar wyliau blaenorol ac yn ail-gyflwyno gweithgareddau cymunedol yn dilyn y pandemig.
Dywedodd, Emyr Wyn, Cadeirydd Gŵyl Maldwyn:
“Mae grant rydym wedi ei dderbyn gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi galluogi ni fentro i safle newydd a ehangu gweithgareddau i’r gymuned gyfan. Fe fydd yr Wyl yn agored i bob oed, babanod ar ifanc ar y dydd Sadwrn, a gwledd i bawb ar y nosweithiau.”
Derbyniodd Stand North Wales CIC grant £333,000 a bydd hyn yn cefnogi plant, pobl ifanc, ac oedolion sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol. Byddan nhw’n adeiladu ar waith cyfredol i gefnogi cymunedau cryfach, mwy cynhwysfawr, lle mae pobl yn gysylltiedig, wedi’u cynnwys a’u parchu.
Dywedodd cyfarwydd Stand North Wales:
“Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth anferthol i’n teuluoedd. Byddwn yn cynnal digwyddiad ar yr ail o Dachwedd i ddathlu at Venue Cymru yn Llandudno, a fydd yn arddangos y gwaith o’n partneriaid cymunedol, a byddwn yn gwahodd teuluoedd a mudiadau i fynychu maes o law.
“Hoffwn ddiolch ein holl deuluoedd am gefnogi ein cais a helpu i siapio’r gwaith rydyn yn cyflwyno.”
Bydd Volcano Theatre Company yn Abertawe yn defnyddio eu grant £2,500 i helpu plant 9 i 10 oed i archwilio eu hiechyd meddwl ac ail-integreiddio i’r ysgol trwy weithdai celfyddydau creadigol.
Dyweddodd Cerian Appleby, athrawes Blwyddyn 5 at Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol St Joseph a fydd yn gweithio gyda Volcano Theatre:
“Rydyn yn gyffrous yn Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol St Joseph i gael y cyfle i weithio gyda Volcano Theatre diolch i ariannu Loteri Genedlaethol.
“Bydd y prosiect ‘Growing Together’ yn galluogi ein plant i ymchwilio ychydig o’r heriau emosiynol maen nhw wedi wynebu yn ystod y pandemig COVID-19 trwy brofiad unigryw, ymdrochol theatr. Rydyn yn gobeithio trwy y cyfle yma a ariannir bydd y plant nid yn unig yn cael profiadau i fod yn fwy creadigol a dychmygus ond hefyd trwy theatr byddant yn dod yn fwy mynegus; yn ‘tyfu’ yn eu gallu i gyfathrebu eu hemosiynau gyda’i gilydd ac i fynegi eu meddyliau a theimladau yn fwy rhydd.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, “Mae Hope Church Merthyr yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi eu cymuned a bydd y grant hwn yn eu galluogi i barhau i fod yno i bobl ym Merthyr Tudful yn y dyfodol.
"Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU ac mae’r prosiectau a ariennir dros y mis diwethaf yn dangos y gwahaniaeth hanfodol y mae chwaraewyr yn ei wneud trwy eu tocynnau. Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn eu cynnydd.”
I ddarllen y rhestr lawn o 76 o sefydliadau cymunedol a dderbyniodd cyfanswm o £4,685,612, gweler y rhestr ynghlwm.
-Diwedd-
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru