Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru’n cyhoeddi dros £1.8m mewn grantiau i 56 o grwpiau ledled Cymru
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru’n cyhoeddi dros £1.8m mewn grantiau i 56 o grwpiau ledled Cymru, grantiau i helpu babanod a phlant bach ym Mlaenau Gwent a gwella lles trwy ddysgu crefftau traddodiadol yn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys
- Rassau Resource Community Centre CIC – grant i ddarparu grwpiau babanod a phlant bach actif.
- John Burns Foundation – grant i wella lles gan ddysgu am grefftau traddodiadol
Rassau Resource Community Centre CIC ym Mlaenau Gwent yw un o’r sawl sefydliad sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wella gwasanaethau.
Gyda’u grant o £8,495, maen nhw wedi dewis datblygu gweithgareddau yn benodol i fabanod, plant bach a’u rhieni, a hynny o fewn eu cymuned. Bydd y gweithgareddau hyn yn cefnogi datblygiad babanod a phlant bach, gan roi’r amgylchedd cymdeithasol i’w helpu i ffynnu.
Dywedodd Jane Weale, Pennaeth Rassau Resource Community Centre:
"Mae Rassau Resource Community Centre yn ddiolchgar am y cyllid Loteri Genedlaethol yr ydym wedi’i dderbyn. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddarparu ein grwpiau Babanod a Phlant Bach Actif yn y Ganolfan. Mae’r grwpiau hyn yn cynnig cyfle i’r plant a’r rhieni gymdeithasu, ac maen nhw’n annog chwarae actif. Bydd y cyllid hwn yn rhoi’r cyfle i ni dyfu ac ehangu ein grŵp. Diolch, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol!"
Yn ogystal, mae’r John Burns Foundation yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn £10,000 i ddatblygu hyfforddiant i bobl leol mewn sgiliau traddodiadol gan gynnwys gosod perthi a rheoli coedwrych. Mae’r sefydliad yn gobeithio y bydd y prosiect nid yn unig yn darparu hyfforddiant ymarferol mewn crefftau traddodiadol ond hefyd amrywiaeth o fuddion yn ymwneud â gweithio yn yr awyr agored. Mae’r elusen iechyd meddwl ‘Mind’ yn eirioli treulio amser mewn mannau gwyrdd neu ddod â natur i fywyd bob dydd pobl i fuddio lles meddyliol a chorfforol.
Siaradodd Zara o Mencap Me Time am y profiad o gymryd rhan ym mhrosiect ‘Harmonious Hedging’ y John Burns Foundation, gan ddweud: “Roeddem ni’n bles iawn bod y cwrs gosod perthi wedi cael ei gynnig i’r Burns Foundation. Gwnaeth y staff a’n haelodau tîm gydag anabledd dysgu o Mencap Me Time i gyd fuddio’n fawr o ddysgu sgil newydd. Gwnaethom ni i gyd gynyddu ein hyder a theimlo balchder llwyr wrth weld y canlyniad. Siaradodd y bobl rydym ni’n eu cefnogi am fod gam yn agosach at swydd yn y dyfodol, a wnaeth i ni gyd wenu.”
Dymunodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru longyfarchiadau i’r prosiectau gan ddweud: "Mae’n wych gweld cymaint sy’n gallu cael ei gyflawni gyda grant o £10,000. Mae mwy na wyth mewn deg o’n grantiau o dan £10,000 – yn mynd i grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau ledled y DU sy’n dod â syniadau anhygoel sy’n bwysig i’w cymunedau yn fyw. Mae ein grantiau’n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Mae Rassau Resource Community Centre a’r John Burns Foundation yn darparu prosiectau sy’n cyfoethogi bywydau pobl trwy gynnig profiadau cadarnhaol i’w helpu i ffynnu."
Mae 56 o grantiau gwerth dros £1.8 miliwn wedi cael eu dyfarnu i gymunedau ledled Cymru i helpu pobl a theuluoedd lleol – gallwch ddysgu rhagor am y grantiau eraill yma .
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru