Mae Prosiectau’r Bobl yn ôl!
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ITV, UTV a’r Sunday Mail yn lansio Prosiectau’r Bobl – rhaglen ariannu Loteri Genedlaethol sydd nid yn unig yn darparu cymorth ariannu hanfodol i galon cymunedau’r DU, ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth am waith anhygoel grwpiau cymunedol ledled y genedl.
Mae’r rhaglen ariannu boblogaidd yn dychwelyd ar ôl toriad 3 blynedd ac mae’n cynnig cyfran o dros £4 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol gyda cheisiadau’n cael eu derbyn o heddiw. Gall grwpiau a phrosiectau ymgeisio am grantiau hyd at £70,000 i helpu eu cymunedau a gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl.
Mae Prosiectau’r Bobl hefyd yn cynnig cyfle cyffrous i’r cyhoedd leisio eu barn am sut ddylid defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol yn eu hardal leol.
Ym mis Mai 2023, bydd 95 o grwpiau ar y rhestr fer yn cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol, gydag enillwyr yn cael eu penderfynu arnynt gan bleidlais gyhoeddus. Bydd grwpiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos ar y newyddion rhanbarthol yn eu hardal (ITV neu UTV) neu’r Sunday Mail (yn Yr Alban) lle fyddan nhw’n gallu dweud wrth y cyhoedd ehangach am eu gwaith gwych ac annog i bobl bleidleisio drostynt.
Ers iddo ddechrau yn 2005, mae Prosiectau’r Bobl wedi dyfarnu tua £45 miliwn i dros 1,000 o achosion da.
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Phwyllgor Ariannu’r DU: “Rwyf wrth fy modd i gyhoeddi dychweliad Prosiectau’r Bobl. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r rhaglen hon nid yn unig yn darparu cyllid sydd wir ei angen i galon cymunedau, ond mae hefyd yn dangos ymdrechion anhygoel grwpiau a phrosiectau ar lawr gwlad sy’n gweithio’n ddiwyd ledled y DU.
“Drwy weithio mewn partneriaeth gydag ITV, UTV a’r Sunday Mail, ein nod yw amlygu straeon y grwpiau a chysylltu’r cyhoedd ehangach â sut mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn enwedig yn ystod yr adegau heriol hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i http://www.thepeoplesprojects.org.uk. Y dyddiad cau i geisiadau yw canol dydd ar Ddydd Gwener 7fed o Hydref 2022, ond anogir grwpiau sydd â diddordeb i ymgeisio’n gynnar oherwydd gallai’r rhaglen gau’n gynt yn dibynnu ar faint o geisiadau a dderbynnir.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos ledled y DU at achosion da.
Y llynedd, dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, dros hanner biliwn o bunnoedd (£579.8m) o gyllid i gymunedau ledled y DU, gan gefnogi dros 14,500 o brosiectau. Dros y tair blynedd diwethaf, mae ei gyllid wedi cyrraedd pob etholaeth a phob awdurdod lleol yn y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig
