Ysbryd cymunedol yn twymo calonnau ym Merthyr Tudful
Ysbryd cymunedol yn twymo calonnau ym Merthyr Tudful
Mae Cancer Aid Merthyr Tudful yn un o 48 grŵp cymunedol ledled Cymru sy’n dathlu derbyn cyfran o fwy na £680,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.
Derbyniodd Cancer Aid Merthyr Tudful £10,000 i ail-agor eu canolfan galw-i-mewn dyddiol, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i’r rhai hynny y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan ganser. Mae’r grŵp hefyd yn cynllunio i helpu cadw cleifion a gofalwyr yn gynnes y gaeaf hwn wrth wynebu’r argyfwng costau byw.
Dywedodd Tracey Burke, Prif Reolwr Cancer Aid Merthyr Tudful wrthym:
“Roeddem wrth ein boddau i dderbyn £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer ein prosiect newydd “Lles a chynhesrwydd yn ystod y Gaeaf”. Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ail-agor ein canolfan galw-i-mewn yn ddyddiol, lle gall pobl ddod i mewn i gael cefnogaeth heb apwyntiad a sgwrsio gyda chyfaill gwirfoddol dros ddiod twym mewn amgylchedd diogel a chynnes. Gallan nhw hefyd ddod i gyfarfod ag eraill, ymuno â grŵp cymorth neu gyrchu cynnyrch fel pecynnau hylendid, pecynnau mislif neu becynnau cynhesrwydd. Mae’r argyfwng costau byw yn bryderus i bawb, a bydd y prosiect hwn yn ein helpu i gefnogi ein cymuned, diolch i’r Loteri Genedlaethol a’i holl gefnogwyr.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu grantiau o gyn lleied â £300 hyd at £500,000 ac mae ganddi rwydwaith o Swyddogion Ariannu ledled Cymru i gefnogi grwpiau fel Cancer Aid Merthyr Tudful i gyrchu cyllid y Loteri Genedlaethol. Mae’r Gronfa’n cynnig llinell gyngor i gefnogi grwpiau gyda sgwrs gychwynnol, sydd ar agor pum diwrnod yr wythnos ar 0300 123 0735.
Dymunodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, longyfarchiadau i’r prosiectau, gan ddweud:
"Mae’n wych gweld cymaint y gellir ei gyflawni gyda grant o £10,000. Mae mwy na wyth mewn deg o’n grantiau o dan £10,000 – gan fynd at grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau fel Cancer Aid Merthyr Tudful, sy’n ymateb i anghenion eu cymunedau yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Mae grantiau fel hyn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU."
Mae 48 o grantiau gwerth cyfanswm o £684,085 wedi cael eu dyfarnu i gymunedau ledled Cymru i helpu pobl leol a’u teuluoedd - I ddarllen y rhestr lawn gweler y ddogfen sydd wedi’w atodi.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru