National Lottery funding ensures communities are supported through the cost of living crisis
Cymunedau ledled Cymru yn cael cymorth i ymdopi â phwysau costau byw cynyddol diolch i grantiau diweddaraf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £5,090,187 i 114 o gymunedau ledled Cymru yn ei rownd ddiweddaraf o grantiau. Mae llawer o fudiadau ledled Cymru yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i helpu i fynd i’r afael â chostau cynyddol ynni yn eu hardaloedd yn ogystal â chadw gwasanaethau hanfodol ar agor i’r rhai mwyaf agored i niwed.
Mae un mudiad, We Are Plas Madoc ger Wrecsam, wedi derbyn £43,725 o arian y Loteri Genedlaethol i ddatblygu eu cynllun trafnidiaeth gymunedol cerbydau trydan ymhellach. Maent yn darparu opsiwn trafnidiaeth fforddiadwy ac ecogyfeillgar i drigolion yn ardal Plas Madoc a'r cyffiniau fel y gallant gael mynediad at wasanaethau hanfodol, bwyd a gweithgareddau hamdden.
Byddant hefyd yn ehangu eu darpariaeth yn eu hadeiladau i ddatblygu eu clwb brecwast a chinio Clwb Tegell ymhellach i gefnogi eu cymuned yn ystod yr argyfwng Costau Byw trwy ddarparu gofod cynnes, diogel a mynediad at ystod o wasanaethau lleol.
Gan groesawu’r grant, dywedodd Claire Pugh o We Are Plas Madoc: “Rydym ni’n croesawu’r cyllid hwn ar adeg hollbwysig – mae’r argyfwng costau byw’n ychwanegu at effaith gymdeithasol ac ariannol Covid 19 ac mae’r buddsoddiad hwn yn amserol ac yn werthfawr er mwyn ein galluogi i ddatblygu ein gwasanaethau i ymateb i’r adegau heriol hyn.
Diolch i’r cyllid hwn, rydym ni’n gallu datblygu cynllun trafnidiaeth gymunedol ymhellach a fydd yn darparu trafnidiaeth fforddiadwy, hygyrch a fydd nid yn unig yn mynd â phobl i apwyntiadau meddygol hanfodol a theithiau siopa, ond hefyd yn cefnogi pobl i gymdeithasu a threulio amser ag eraill. Bydd hyn yn rhaff achub i gymaint o bobl.
Yn ogystal, byddwn ni’n cynnal nifer o wahanol grwpiau cymdeithasol a fydd yn darparu amgylchedd diogel a chynnes lle mae pawb yn cael eu croesawu – gall pobl ddod i gyfarfod ag eraill, rhannu pryd o fwyd cynnes a chyrchu cefnogaeth arall pe bai angen.
Mae’r argyfwng costau byw’n bryder enfawr i bawb, a bydd y prosiectau hyn yn ein helpu i gefnogi ein cymuned. Rydym ni mor ddiolchgar am y cyllid hwn, sy’n bosib oherwydd y Loteri Genedlaethol a’r holl gefnogwyr - diolch!”
Yng Nghaerffili, bydd Ysgol Gynradd Ty’n y Wern yn defnyddio £7,500 i ddarparu cornel glyd i gefnogi aelodau bregus o’r gymuned sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng costau byw dros fisoedd y gaeaf.
Dywedodd Joanne Tudge, rhiant sy'n defnyddio'r Gornel Glyd: "Mae'r Gornel Glyd yn syniad gwych. Gallwn ni alw i mewn am baned a thost a chael sgwrs rhywle cynnes ar ôl gollwng y plant yn yr ysgol. Gyda'r pryderon am gostau byw bydd hyn yn achubiaeth i lawer."
Mewn man arall yng Nghymru, bydd Llanbister Ti a Fi ym Mhowys yn defnyddio £8,000 i brynu teganau, deunyddiau crefft ac offer newydd ar gyfer eu cylch chwarae ac i greu llyfrgell deganau ar gyfer teuluoedd sydd wedi'u hynysu yng nghefn gwlad neu sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng Costau Byw.
Dywedodd Lilly Thomas, Cadeirydd Llanbister Ti a Fi: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y grant hwn tuag at ein cylch chwarae yn Llanbister. Bydd yn cefnogi datblygiad ein plant trwy amrywiaeth eang o deganau yn ogystal â theuluoedd yn yr ardaloedd cyfagos a fydd â mynediad iddynt, na fyddent efallai wedi gwneud fel arall. Bydd hefyd yn cynorthwyo rhieni drwy wasanaethau cymorth y byddwn yn eu cynnal yn y grŵp.”
Bydd Reaching Out yn Nhrelái, Caerdydd yn darparu parseli bwyd i deuluoedd sy’n profi anawsterau ariannol am resymau gan gynnwys yr argyfwng costau byw. Bydd £9,152 yn ariannu parseli bwyd.
Dywedodd Helen Smith, Aelod o Bwyllgor Reaching Out: “Mae’r gwirfoddolwyr ym Manc Bwyd Reaching Out, Trelái, Caerdydd yn hynod ddiolchgar am y grant o bron i £10,000. Rydym yn cefnogi set amrywiol o deuluoedd ac unigolion yn ein cymuned sy’n cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw, gan ddarparu parseli bwyd maethlon a hanfodol iddynt. Disgwylir i’r galw gynyddu ymhellach dros fisoedd y gaeaf felly bydd y grant yn ein galluogi i estyn allan at fwy o’n cymdogion mewn angen a chwrdd â chost gynyddol bwyd. Diolch enfawr i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ein cefnogi."
Yng Ngheredigion, bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio £9,600 i ddarparu hyfforddiant gwydnwch emosiynol i fyfyrwyr i'w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i wella eu gwydnwch emosiynol a'u hiechyd meddwl.
Dywedodd Cameron Curry, Swyddog Lles Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n hynod gyffrous i ni ddechrau cyflwyno hyn i’n myfyrwyr. Bydd yn caniatáu i ni roi ffyrdd i bob myfyriwr helpu ei gilydd i ymdopi a’r sgiliau i ddelio â’r sefyllfaoedd a ddaw yn sgil bod yn fyfyriwr.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’r argyfwng Costau Byw yn bryder cynyddol i bobl a chymunedau ledled Cymru, ac rydym yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym am yr heriau y maent yn eu hwynebu.
“Mae ein holl ariannu yn parhau i fod ar agor ac ar gael, ac mae arian y Loteri Genedlaethol ar gael i gefnogi cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn. Rydym yn hyblyg ac yn gallu addasu i anghenion cymunedau.”
Mae'r grantiau hyn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Am restr lawn o'r grantiau a ddyfarnwyd, ewch i'n gwefan.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau yn ystod yr argyfwng costau byw.
• Byddwn yn cadw ein holl ariannu yn agored ac ar gael
• Byddwn yn hyblyg ac yn addasadwy
• Gall Cymunedau yng Nghymru sydd â grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol bellach wneud cais am ail grant eleni a fydd yn darparu hyd at £10,000 ychwanegol
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru