Over £1 million from The National Lottery Community Fund to communities in need across Wales this Christmas
Mae 49 o grwpiau cymunedol yn dathlu derbyn cyfran o £1,009,466 o gyllid y Loteri Genedlaethol y mis hwn. Y Nadolig hwn, mae grwpiau cymunedol yng Nghymru’n cefnogi grwpiau cymunedol ac elusennau sy’n ymdopi â’r argyfwng costau byw ac yn helpu’r rhai hynny sy’n cael trafferth gyda chaethiwed.
Dywedodd Y Parchedig Ganon Mark Owen, cadeirydd banc bwyd Cwm Rhymni wrthym “Yn ystod y misoedd diwethaf, mae banc bwyd Ardal Weinidogaeth Islwyn wedi gweld cynnydd mewn unigolion a theuluoedd yn methu â phrynu bwyd oherwydd y cynnydd anghymesur yng nghostau ynni cartref. Gyda’r cyllid hwn gan y Loteri Genedlaethol, gallwn adeiladu ar ein gwasanaeth presennol a chynnig mannau cynnes i bobl sy’n byw mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Hoffai Ymddiriedolwyr yr Ardal Weinidogaeth gydnabod eu diolch yn ddiffuant. Edrychwn ymlaen at ddarparu cyfleoedd ystyrlon i bobl sy’n wynebu heriau wrth iddynt ymdopi â’r argyfwng costau byw.” Gan groesawu’r grant £23,000 am flwyddyn i ddarparu hwb cynnes yn cynnig lluniaeth poeth, trafnidiaeth a mynediad, bydd Ardal Weinidogaeth Islwyn yn cynnig cymorth ac arweiniad ynghylch costau byw a chynyddu incwm.
Mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a rhai sy'n derbyn gofal. Gwnaethant gais llwyddiannus am £10,000 i ddarparu cymorth brys yn ymwneud â’r argyfwng costau byw ledled Cymru. Bydd y grant yn cael ei wario ar becynnau bwyd ac eitemau brys eraill, gweithdai, a chostau rheoli prosiect. Dywedodd Sharon Lovell, Prif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth:
“Gwyddom fod plant sy’n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o fod yn y system ofal ac felly bydd y cyllid hwn yn ein helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd a chefnogi rhai o bobl ifanc mwyaf bregus Cymru sydd heb deulu i droi atynt. Byddwn yn darparu pecynnau cymorth sy’n cynnwys bwyd, costau ynni, dillad a nwyddau i’w galluogi i oroesi’r cyfnod anodd iawn hwn. Byddwn yn cynnal nifer o brosiectau yn amrywio o “dyfu eich bwyd eich hun” a grwpiau i leihau unigrwydd, cael cefnogaeth a chyngor mewn amgylchedd cynnes a diogel, ynghyd â'r gallu i gael cymorth grant brys yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn. Rydym wrth ein boddau i dderbyn cyllid hanfodol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddarparu cymorth brys i blant/pobl ifanc a theuluoedd mewn angen.”
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd Siop Griffiths Cyf ym Mhenygroes yng Ngwynedd yn gwario eu grant £99,700 i gefnogi’r gymuned drwy’r argyfwng costau byw trwy ddatblygu mannau gwyrdd hygyrch. Byddant yn cynnig cyfle i gymunedau Dyffryn Nantlle i dyfu a choginio bwyd. Bydd pobl leol yn cael y cyfle i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol trwy dreulio amser yn yr awyr agored gydag eraill.
Mae Equus Ferus International CIC yn Sir Gaerfyrddin yn cefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a chaethiwed. Byddan nhw’n cynnig teithiau cerdded a sgyrsiau ym myd natur, gyda chymorth anifeiliaid. Bydd y prosiect yn adeiladu hunanymwybyddiaeth ac yn cynnig strategaethau i oresgyn ysfeydd caethiwed, meddyliau a phatrymau ymddygiad annefnyddiol. Derbynion nhw grant £9,980.
Derbyniodd ValePlus (Cymru) a ValePlus Extra ym Mro Morgannwg £10,000 i greu siop dros dro lle gall pobl ag anableddau dysgu weithio, dysgu sgiliau newydd a gwerthu eitemau y maent wedi’u creu. Hoffen nhw annog pobl leol sy'n teimlo'n unig i alw heibio a chael sgwrs, a phrynu nwyddau crefft a chynnyrch cartref o'u gardd. Bydd y prosiect hefyd yn creu bocsys bwyd ar gyfer pobl sy'n cael trafferth yn y gymuned leol (mewn partneriaeth â FareShare).
Dathlodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr holl sefydliadau gan ddweud:
“Mae llawer o bobl yn teimlo’r cynnydd mewn costau byw, a dyna pam mae prosiectau fel y rhain yn hanfodol i gymunedau. Mae'r Gronfa wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd i gefnogi eu cymunedau, creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu datblygu sgiliau newydd. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da fel y rhain ledled y DU.”
Dyma rai o’r 49 o grwpiau sy’n derbyn cyfran o dros filiwn o bunnoedd (£1,009,466) y mis hwn. Lawrlwytho rhestr yma.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru