£5.1 miliwn yn dod â chysur i gymunedau ledled Cymru
Y mis hwn, mae 90 o grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru’n croesawu’r Flwyddyn Newydd gyda’r newyddion eu bod wedi derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae’r cyllid Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i ddod â phobl ynysig ynghyd mewn mannau cynnes, i gefnogi pobl sy’n cael trafferth gyda chostau byw cynyddol a gwella lles pobl fregus.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, codir mwy na £30 miliwn yr wythnos at achosion da, gan gynnwys King’s Church yng Nghasnewydd. Maen nhw wedi derbyn grant Loteri Genedlaethol £499,919 i ddarparu bwyd a nwyddau sydd wir eu hangen ar deuluoedd yng Nghasnewydd, Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen a Merthyr Tudful. Cynhelir y gefnogaeth hon trwy’r rhaglen ‘Jesus Cares’.
Dywedodd Faye Edwards, Cydlynydd Jesus Cares: “Rydym wrth ein boddau i dderbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu bwyd a nwyddau hanfodol sydd wir eu hangen i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled de ddwyrain Cymru.
Dros y tair blynedd nesaf, byddwn ni’n cydweithio gyda 150 o sefydliadau i ddarparu dros 220,000 o hamperi bwyd a nwyddau hanfodol, gan sicrhau bod gan deuluoedd mewn angen fynediad uniongyrchol atynt.”
Mae Menter Ty’n Llan Cyf yng Ngwynedd yng ngogledd Cymru wedi derbyn £10,000 i gynnal rhaglen o weithgareddau ar gyfer y gymuned gyfan i leihau unigrwydd, ynysrwydd a gwella iechyd a lles yn y gymuned. Mae’r gweithgareddau’n amrywiol ac yn cynnwys sesiynau celf a chrefft a chlybiau cinio.
Croesawodd Caryl Lewis, Cadeirydd Menter Ty'n Llan Cyf, y grant gan ddweud: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y grant. Mae tafarn gymunedol Ty'n Llan yn hwb canolog i’r gymuned a thu hwnt, felly mae’n hynod bwysig ein bod ni’n cefnogi pobl o bob oedran trwy’r adegau heriol presennol. Bydd y grant hwn yn ein helpu i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd a gweithgareddau i bobl a phlant o bob oedran, er mwyn cefnogi eu lles, creu cyfleoedd i gymdeithasu a’u helpu i ddatblygu sgiliau newydd."
Mae Age Cymru Powys wedi derbyn grant £99,760 i ddarparu MOT Hwyrach Mewn Bywyd i bobl 65+ oed ym Mhowys dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’n targedu’r bobl fwyaf difreintiedig a bregus yn y gymuned i gynyddu eu hincwm, iechyd a lles.
Dywedodd Gail Colbridge, Prif Swyddog Age Cymru Powys: “Rydym ni’n hynod gyffrous i dderbyn y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ymateb i anghenion pobl hŷn yma ym Mhowys i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, yn aml ar eu pennau eu hunain. Ni allwn aros i ddechrau prosiect MOT Hwyrach Mewn Bywyd Age UK. Diolch, chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ein helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i bobl hŷn yma ym Mhowys.”
Dywedodd Mike, sydd wedi derbyn cymorth gan Age Cymru Powys: “Dwi mor falch bod Age Cymru Powys wedi derbyn y cyllid hwn. Maen nhw wedi fy helpu gymaint; maen nhw wedi achub fy mywyd. Maen nhw i gyd yn wych ac yn gweithio’n hynod o galed. Dwi’n bles eu bod yn gallu helpu mwy o bobl hŷn fel fi”.
Dathlodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr holl sefydliadau gan ddweud:
“Mae’n hyfryd gweld yr effaith y mae ein prosiectau a ariennir yn ei chael ar fywydau pobl ar draws cymunedau Cymru. Mae’r prosiectau hyn yn helpu pobl i fod yn gysylltiedig, i gael eu cefnogi ac i deimlo’n llai ynysig.
Rydym yn cefnogi grwpiau i ddelio gyda phwysau costau byw ac yn gweithio’n hyblyg i sicrhau bod cyllid y Loteri Genedlaethol yn parhau i gyrraedd pobl sydd angen cefnogaeth.”
Mae 90 o grwpiau’n derbyn cyfran o dros bum miliwn o bunnoedd y mis hwn (£5,106,496). I ddarllen y rhestr lawn, gweler y ddogfen ynghlwm.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru