Sefydliadau yng nghymunedau Cymru’n dathlu grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae 52 o sefydliadau ledled Cymru’n dathlu derbyn cyfran o £500,000 mewn grantiau y mis hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y grantiau a ddyfernir yn galluogi sefydliadau i gefnogi eu cymunedau gydag amrywiaeth o faterion megis cefnogi pobl yn eu cymunedau gyda’u hiechyd meddwl ac ynysrwydd gyda chymorth anifeiliaid therapi a’u gwirfoddolwyr.
Mae Pets as Therapy ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dathlu derbyn grant £10,000 y mis hwn. Bydd eu grant yn cefnogi’r sefydliad i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr a fydd yn gallu darparu therapi anifeiliaid anwes i bobl ledled Cymru o bob oedran, sy’n dioddef o ynysrwydd gwledig ac iechyd meddwl gwael. Bydd y grant £10,000 yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r staff i ddarparu’r hyfforddiant, treuliau hyfforddi gwirfoddolwyr, gwasanaethau cyfieithu, costau lleoliad a chyhoeddusrwydd.
Mae Keith Poultney o Gymru’n gwirfoddoli gyda PAT gyda’i Labrador du 10 mlwydd oed, Bella. Mae tîm PAT yn ymweld â chanolfan ffoaduriaid ac yn treulio amser gyda theuluoedd o Wcráin. Dywedodd: “Mae nifer o deuluoedd wedi bod yn y ganolfan ffoaduriaid am dros chwe mis ac mae pryderon cynyddol am eu lles meddyliol. Rwy’n gwybod bod pobl wedi gadael eu hanifeiliaid anwes yn Wcráin. Mae un bachgen ifanc yn aml yn dod i eistedd yn dawel wrth ymyl Bella i’w mwytho. Bu’n rhaid iddo adael ei gath Simba pan wnaethon nhw ffoi o’u cartref.
Mae menyw llawer yn hŷn sydd bob amser yn dod draw’n frwd i fwytho Bella. Dysgais fod ei gŵr sydd â dementia wedi gorfod mynd i gartref preswyl yn ddiweddar. Felly nawr mae hi ar ben ei hun mewn gwlad anghyfarwydd. Ble bynnag yr awn, mae Bella bob amser yn rhoi gwên ar wynebau pobl. Mae hi’n rhoi croeso bach i nifer o bobl o galedi bywyd bob dydd. Dyma pam rwy’n gwirfoddoli. Alla i ddim meddwl am unrhyw beth mwy gwerth chweil.”
Mae Gofal Canser Tenovus hefyd wedi derbyn £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y mis hwn. Byddan nhw’n defnyddio eu grant i ddarparu gwasanaeth cyngor am fudd-daliadau lles i bobl yng Nghymru sydd â chanser, a fydd yn eu helpu i ymdopi ag effeithiau ariannol salwch yn ogystal â’r argyfwng costau byw. Bydd y grant yn ariannu costau staff, hyfforddiant, treuliau teithio a chyhoeddusrwydd y gwasanaeth.
Dywedodd Tammi Lyons, Cynghorydd Budd-daliadau, Gofal Canser Tenovus: “Rydym ni’n siarad â mwy a mwy o bobl sy’n teimlo effaith bywyd yn mynd yn ddrutach. Mae llawer o bobl yn cael trafferth â’r argyfwng costau byw, ond i rywun sydd â diagnosis o ganser, gall costau gynyddu’n sylweddol. Amser i ffwrdd o’r gwaith, teithio i’r holl apwyntiadau, prynu eitemau arbenigol, mae hyn i gyd yn ddrud. Gallwn roi cyngor a chefnogaeth i leihau’r pwysau”.
Yng Nghonwy, bydd Gweithredu dros Blant yn cefnogi lles meddyliol plant a phobl ifanc mewn mannau gwledig yng Nghonwy a Sir Ddinbych gyda’u grant £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddan nhw’n darparu hyfforddiant a gweithdai i oedolion, pobl ifanc a phlant mewn partneriaeth â Rygbi Gogledd Cymru a fydd yn rhoi dulliau iddyn nhw gefnogi eu hiechyd meddwl. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i dalu am gyflogau, adnoddau a deunyddiau gweithgarwch a threuliau teithio.
Dywedodd Chris Dunne, Arweinydd Datblygiad Iechyd Meddwl Cymru, Gweithredu dros Blant: “Mae ein rhaglenni Bouncing Back wedi bod yn gwella iechyd meddwl ein pobl ifanc ledled Cymru. Mae’n bwysicach nag erioed wrth i ni ddod allan o bandemig Covid a delio ag argyfwng costau byw ein bod ni’n parhau â’r gwaith hollbwysig hwn yn ein cymunedau. Rwyf wrth fy modd bod RGC a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhannu ein hangerdd ac yn cefnogi’r cyfle i ddatblygu Bouncing Back ymhellach yn rhanbarth RGC Gogledd Cymru.”
Ar ôl derbyn grant £9,991, bydd Home-Start Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnig sesiynau chwarae wythnosol i deuluoedd gyda phlant newydd-anedig i bum mlwydd oed yn yr ardal sy’n wynebu caledi. Bydd hyn yn rhoi cefnogaeth sylweddol i deuluoedd, nid yn unig trwy’r sesiynau chwarae, ond trwy gysylltiadau a fydd yn cael eu gwneud o fewn y grwpiau gyda theuluoedd eraill sy’n wynebu heriau tebyg.
Dywedodd Pam Hoyle, Cyfarwyddwr Home-Start Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y grant gwych hwn a fydd yn cefnogi teuluoedd i chwarae a chael hwyl gyda’i gilydd. Gall bywyd fod yn anodd fel rhiant i blant ifanc ac mae grwpiau’n gallu bod mor annymunol, ond maen nhw’n fuddiol iawn i blant ifanc sy’n dysgu sut i wneud ffrindiau. Byddwn ni’n gallu chwalu’r rhwystrau sy’n atal rhieni rhag mynychu ein grŵp teuluol a chefnogi pawb i gael hwyl a chwarae.”
Dywedodd Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU a dyma sut rydym ni yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gallu ariannu’r grwpiau arbennig hyn sy’n gweithio ar draws Cymru gyfan. Mae’r gwahaniaeth sy’n gallu cael ei wneud mewn cymunedau’n anhygoel a diolchwn i’r gwirfoddolwyr sy’n darparu’r gefnogaeth hollbwysig hon yn eu cymunedau.”
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol y llynedd, gwnaethom:
- ddyfarnu dros hanner biliwn o bunnoedd (£588.2 miliwn) o gyllid trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU
- cefnogi dros 14,000 o brosiectau i droi eu syniadau gwych yn realiti a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau
- ariannu dros 8,000 o brosiectau i ddod â chymunedau ynghyd, gyda dros 7,500 yn cefnogi iechyd a lles a dros 1,000 o brosiectau amgylcheddol
- Mae dros wyth mewn deg (83%) o’n grantiau o dan £10,000 – gan fynd at grwpiau ac elusennau ledled y DU sy’n dod â syniadau gwych sy’n bwysig i’w cymunedau yn fyw.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru