Mae dros £9.5 miliwn mewn grantiau Loteri Genedlaethol y mis hwn yn cefnogi cymunedau ledled Cymru
Y mis hwn mae 196 o grwpiau cymunedol wedi derbyn cyfran o £9,634,929 o gyllid y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r grantiau hyn yn dod â chymunedau ynghyd ledled Cymru, gan gynnwys cynnig cymorth ymarferol i bobl ag anableddau.
Un o'r grwpiau a dderbyniodd grant y mis hwn oedd Sight Life yng Nghaerdydd. Mae'r elusen yn cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl sydd wedi colli eu golwg yn Ne Cymru. Mae eu grant £9,999 yn golygu y gallant weithio gyda phobl â nam ar eu golwg i gyd-ddylunio adnoddau dysgu ar-lein. Bydd yr adnoddau’n cynyddu dealltwriaeth o faterion colli golwg ymhlith y gymuned ehangach. Byddant yn cynnwys fideos cryno yn disgrifio'r cyflyrau colli golwg mwyaf cyffredin a fydd yn helpu chwalu'r mythau am golli golwg ac yn annog teulu, ffrindiau a gofalwyr i gael mynediad at wasanaethau partner i gael cymorth. Dywedodd Richard Harvey, Prif Weithredwr Sight Life:
“Rydym wrth ein boddau, ac yn hynod ddiolchgar, i dderbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer ein prosiect One Vision. Bydd hyn yn caniatáu i Sight Life ddatblygu llyfrgell fideo o astudiaethau achos ar y we. Bydd y rhain yn amlinellu profiad pobl o golli golwg ac yn disgrifio sut mae ymyrraeth gynnar a chefnogaeth gan gymheiriaid trwy Sight Life wedi eu helpu i wella eu lles. Byddwn hefyd yn datblygu cylchlythyr rhyngweithiol a fydd yn helpu casglu data hanfodol ar anghenion a lles aelodau ein cymuned. Bydd hyn yn helpu i arwain a thrawsnewid ein gwaith allgymorth.”
Yng Ngheredigion, derbyniodd Tir Coed grant £9,950 i greu gardd gymunedol a rhandir yn Hwb Penparcau. Dyma le gall pobl leol gymdeithasu wrth ddysgu am fyd natur a thyfu eu bwyd eu hunain. Bydd y prosiect yn helpu cynyddu gwytnwch pobl i’r argyfwng costau byw trwy eu galluogi i gynhyrchu eu bwyd eu hunain. Bydd hyn hefyd yn annog pobl i wella eu lles drwy ymgysylltu’n weithredol â byd natur a’i gilydd.
Mynegodd Al Prichard, Mentor Ceredigion, Tir Coed eu cyffro am dderbyn y cyllid gan ddweud: “Rydym mor falch o fod yn darparu prosiect bwyd, tyfu a gwirfoddoli mewn partneriaeth â Hwb Cymunedol Penparcau i ddatblygu eu gardd gymunedol. Bydd y prosiect yn darparu adnoddau bwyd ffres i'r gymuned a chyfleoedd addysgol i oedolion a phlant allu gweld o ble mae eu bwyd yn dod. Bydd y prosiect hwn yn gyfle gwych i drigolion gymryd rhan mewn plannu, cynnal a chynaeafu’r cnydau bwyd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth i’r gymuned ehangach a chael ein rhawiau yn y ddaear y gwanwyn hwn!”
Yn Wrecsam, derbyniodd Groundwork Gogledd Cymru grant £9,983 i gynnal eu digwyddiad Pedal Power Parade, i ddathlu 100 mlynedd o ddathlu Wythnos y Beic yr haf hwn. Bwriad yr orymdaith yw annog pobl i feicio neu gerdded er mwyn helpu gwella eu lles. Byddant yn partneru ag elusennau lleol Cycling4All a Refurbs a fydd yn rhoi beiciau wedi torri i'w haddurno gan y gymuned leol a'u harddangos o amgylch Parc Gwledig Dyfroedd Alun. Bydd y beiciau hyn yn creu llwybr ar gyfer yr orymdaith, gyda phobl yn cael eu hannog i feicio neu gerdded i weld yr holl feiciau wedi’u haddurno. Ar ddiwedd y daith, bydd picnic i ddathlu yn y parc. Bydd y digwyddiad hwn yn creu ymdeimlad cryfach o gymuned a balchder yn eu hardal trwy gysylltu pobl â’u hamgylchedd lleol.
Dywedodd Hanna Clarke Group, Pennaeth Marchnata a Digwyddiadau yn Groundwork Gogledd Cymru:
“Rydym yn edrych ymlaen at annog grwpiau a busnesau lleol i fod yn greadigol ac addurno beic a fyddai fel arall wedi mynd i safleoedd tirlenwi. Bydd Pedal Power Parade yn rhoi cyfle cyffrous i’r gymuned ddathlu a chefnogi creadigrwydd, cysylltu pobl â’r gymuned a mynd allan i’r awyr agored a bod yn actif”.
Yn Rhondda Cynon Taf, derbyniodd Pobl yn Gyntaf Cwm Taf grant £9,981 i ddarparu adnoddau cymorth gweledol i aelodau’r gymuned anabl i ddangos iddynt y cyfleusterau sydd ar gael mewn parciau, lleoliadau awyr agored a natur yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent. Mae’r grŵp yn dweud bod y diffyg gwybodaeth sydd ar gael am hygyrchedd mewn parciau a lleoliadau awyr agored eraill yn golygu na fydd pobl anabl yn gallu deall yn llawn a yw’r cyfleusterau’n addas ar gyfer eu hanghenion. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl anabl yn colli’r cyfle i ryngweithio â byd natur a mannau awyr agored a all wella eu lles corfforol a meddyliol.
Dywedodd Lee Jones, cydlynydd prosiect Stepping out into Nature Pobl yn Gyntaf Cwm Taf:
“Rydym wrth ein boddau i dderbyn y cyllid hwn i allu cynorthwyo ein cymuned i wella eu perthynas â’n hamgylchedd naturiol. Mae'r prosiect hwn yn hanfodol i annog oedolion ag anableddau sydd heb gael llawer o ymgysylltiad â’r amgylchedd awyr agored a'i effeithiau ar iechyd a lles yn y gorffennol. Byddant yn gallu ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon, yn enwedig ar ôl y dirywiad mewn iechyd a wynebodd llawer o aelodau ein cymuned yn ystod pandemig Covid. Crëwyd y prosiect trwy awydd ein haelodau i ddod ynghyd mewn amgylchedd awyr agored a diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, byddwn ni nawr yn gallu creu rhaglen o weithgareddau sy’n cael eu cyd-gynhyrchu gyda’n cymuned i fodloni eu hanghenion a’u dymuniadau.”
Dathlodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, yr holl sefydliadau gan ddweud:
“Rydym ni’n falch o fod y cyllidwr mwyaf ar gyfer gweithgarwch cymunedol yn y DU. Rydym ni’n cefnogi grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau sy'n gwneud pethau anhygoel. Mae'r Gronfa wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd i gefnogi eu cymunedau, creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu datblygu sgiliau newydd. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da fel y rhain ledled y DU.”
Dyma rai o’r 196 o brosiectau sydd wedi derbyn cyfanswm o £9,634,929 o gyllid Y Loteri Genedlaethol. Gweler y rhestr lawn o’r grantiau ynghlwm. I ddysgu rhagor ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru