Dros £1.7 miliwn mewn grantiau Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru y mis hwn.
Mae 71 o grwpiau cymunedol wedi derbyn cyfran o £1,750,932 o gyllid y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r grantiau hyn yn dod â chymunedau ynghyd ledled Cymru. Mae’r grantiau’n cynnwys cynnig cymorth ymarferol i bobl ag anghenion ychwanegol ac awtistiaeth, mynd i’r afael ag ynysrwydd cymdeithasol a chefnogi pobl o deuluoedd estynedig sy’n gofalu am blant.
Mae 71 o grwpiau cymunedol wedi derbyn cyfran o £1,750,932 o gyllid y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r grantiau hyn yn dod â chymunedau ynghyd ledled Cymru. Mae’r grantiau’n cynnwys cynnig cymorth ymarferol i bobl ag anghenion ychwanegol ac awtistiaeth, mynd i’r afael ag ynysrwydd cymdeithasol a chefnogi pobl o deuluoedd estynedig sy’n gofalu am blant.
Wildernest Care Farm CIC yn Llanbedr Pont Steffan, Dyfed. Mae’r grŵp cymunedol hwn yn cynnig cymorth amhrisiadwy i bobl ifanc ac oedolion ag anghenion ychwanegol ac awtistiaeth, gan gynnal sesiynau pwrpasol mewn garddwriaeth, gofal anifeiliaid a chrefftau. Ar hyn o bryd, dim ychydig iawn o gyfranogwyr y gallant ddarparu eu gwasanaethau ar eu cyfer ar unrhyw adeg oherwydd cyfyngiadau parcio. Bydd eu grant Loteri Genedlaethol £9,640 yn caniatáu iddynt adeiladu llawr caled i gerbydau a fydd yn eu galluogi i ddarparu ar gyfer mwy o gyfranogwyr gyda pharcio digonol i bawb.
Dywedodd Isabel Crawford, Cyfarwyddwr Wildernest Care Farm CIC: “Nod Wildernest Care Farm yw ymgysylltu a grymuso pobl ifanc ac oedolion ag anghenion ychwanegol ac awtistiaeth trwy grefft, gofal anifeiliaid a garddwriaeth. Rydym yn falch iawn i dderbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y grant yn creu llefydd parcio ychwanegol ar y safle gan ein galluogi i gefnogi a chroesawu mwy o gyfranogwyr a chynnal diwrnodau agored."
Yng Ngwynedd, mae Pwyllgor Pentref Deiniolen yn gweithio tuag at wneud Deiniolen yn lle gwell i fyw i’r bobl leol drwy greu cyfleoedd i gynnal digwyddiadau yn yr ardal leol, gan roi lle i blant, pobl ifanc ac oedolion ymweld, cymdeithasu a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir gan bobl leol, ar gyfer pobl leol. Bydd eu grant £10,000 gan y Loteri Genedlaethol yn caniatáu iddynt dalu am staff ychwanegol ar gyfer digwyddiadau yn yr ardal leol, rhent a chyfleustodau ar gyfer lleoliad yn y gymuned yn ogystal â chostau hyrwyddo, gweithgareddau, a lluniaeth.
Dywedodd Lyndsey Vaughan Pleming, Cadeirydd Pwyllgor Pentref Deiniolen: "Mae Pwyllgor Pentref Deiniolen yn hynod o falch i dderbyn y grant yma gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn hwb mawr i ni ddatblygu gwasanaethau ac adnoddau sydd wir eu hangen yma ym mhentref Deiniolen Adnodd mwyaf gwerthfawr yr ardal yw’r bobl, a gyda’n gilydd gallwn ‘Ddeffro Deiniolen’ – a sicrhau’r gorau i’r bobl sy’n byw yma nawr ac i genedlaethau’r dyfodol. Ymlaen – gyda’n gilydd!”
Yn Rhondda Cynon Taf, hoffai Grandparents Plus (Kinship) allu darparu llinell gymorth a chyngor i Ofalwyr sy'n Berthnasau yng Nghymru, gan eu cefnogi drwy'r argyfwng costau byw a phryderon eraill a all fod ganddynt ynghylch eu dyletswyddau gofalu. Bydd eu grant Loteri Genedlaethol £10,000 yn caniatáu iddynt dalu cyflog cynghorydd dwyieithog a fydd yn helpu darparu cymorth i hyd at 135 o deuluoedd sy’n defnyddio gofal perthnasau yng Nghymru ar hyn o bryd, gan sicrhau bod y plant a’u gofalwyr yn cael cymorth emosiynol digonol gydag anawsterau a chaledi.
Dywedodd Deborah Smith, Rheolwr Datblygu Grandparents Plus (Kinship) yng Nghymru: “Ni allwn ddiolch digon i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru am helpu ariannu Sian, ein Gweithiwr Cynghori rhan-amser, Sian, sy’n darparu cymorth hanfodol i deuluoedd sy’n ofalwyr ledled Cymru. Amcangyfrifir bod 9,560 o blant yn byw mewn gofal gan berthnasau ledled Cymru. Mae 60% o blant mewn gofal gan berthnasau yng Nghymru yn byw yn y 40% o ardaloedd tlotaf (Spotlight on Kinship Care, 2011) ac mae’r argyfwng costau byw presennol yn cael effaith ddinistriol. Mae Sian yn ddwyieithog, sy’n ein galluogi i gynnig cymorth a chyngor hanfodol, rhad ac am ddim a chyfrinachol i deuluoedd yn eu dewis iaith.”
Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru yn Abertawe yn bwriadu creu gwefan ddwyieithog i sicrhau bod pobl sy’n siarad Cymraeg yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chyngor ar-lein ynghylch iechyd rhywiol a HIV yn eu dewis iaith, rhywbeth nad yw ar gael ar hyn o bryd ac a fydd yn helpu cefnogi pobl sy'n teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad yn eu hiaith frodorol. Bydd eu grant £10,000 gan y Loteri Genedlaethol yn caniatáu iddynt lansio'r wefan ddwyieithog, ynghyd â thalu costau cyfieithu a marchnata ar gyfer y grŵp.
Dywedodd Rhys Goode, Pennaeth Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol i greu presenoldeb gwe penodol ar gyfer ein gwasanaethau yng Nghymru a THT Cymru. Mae hi mor gyffrous gallu cynnig cyngor a gwybodaeth am iechyd rhywiol a HIV yn iaith frodorol Cymru am y tro cyntaf. Mae gennym lawer o gynlluniau uchelgeisiol yng Nghymru, a bydd y cymorth hwn yn ein helpu i gychwyn ar y prosiect.”
Mae John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn dathlu’r holl sefydliadau gan ddweud: “ Rydym yn hynod falch i fod y cyllidwr mwyaf ar gyfer gweithgarwch cymunedol yn y DU, gan gefnogi grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau sy’n gwneud pethau anhygoel. Mae'r Gronfa wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd i gefnogi eu cymunedau, creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu datblygu sgiliau newydd.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru