Cymunedau ledled Cymru yn rhannu £2.4 miliwn ar gyfer achosion da ym mis Gorffennaf.
Cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru heddiw fod mwy na 110 o gymunedau ledled Cymru wedi ymgeisio’n llwyddiannus am grantiau gwerth cyfanswm o £2,462,329. Mae'r grantiau yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r sefydliadau llwyddiannus yn cynnwys:
- Mae Cerebral Palsy Cymru yn derbyn hanner miliwn o bunnoedd i gefnogi mwy o blant gyda therapi.
- Mae The Anne Matthews Trust wedi derbyn grant £9830 i osod lle tân coed a gwydr dwbl yn eu Canolfan, gan ddefnyddio coed tân cynaliadwy o’u safle a lleihau eu biliau.
- Ac yn olaf, derbyniodd Sir Gareth Edwards Cancer Charity bron i £10,000 i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu triniaeth am ganser.
Bydd Cerebral Palsy Cymru yn defnyddio £499,821 i wella ac ehangu ei wasanaeth ymyrraeth gynnar, Better Start, Better Future dros y pedair blynedd nesaf. Bydd y grant yn golygu y gall yr elusen gynyddu terfyn oedran uchaf y plant y mae'n eu cefnogi a chynnig sesiynau therapi mwy dwys. Bydd y grant hefyd yn galluogi’r elusen i gyflogi seicotherapydd clinigol i gefnogi rhieni a gofalwyr. Dywedodd Gosia Jon-Dare, Therapydd Arweiniol Strategol ar gyfer Ymyrraeth Gynnar Cerebral Palsy Cymru:
“Rydym yn hynod falch o dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a fydd yn helpu ariannu ein gwasanaeth ymyrraeth gynnar hanfodol ‘Better Start, Better Future’ dros y pedair blynedd nesaf. Y llynedd derbyniom lwyth o atgyfeiriadau i fabanod ar gyfer y gwasanaeth hwn, a oedd naill ai â pharlys yr ymennydd neu a oedd â risg uchel o gael parlys yr ymennydd felly ni allai’r cyllid ddod ar adeg well. Ar gyfer babanod sydd â risg o gael parlys yr ymennydd, mae amser yn hanfodol gan fod plastigrwydd yr ymennydd ar ei fwyaf yn ystod dwy flynedd gyntaf eu bywyd, a dyna pryd y gall ein therapi arbenigol a chymorth teuluol gael yr effaith fwyaf ar eu canlyniadau yn y dyfodol.”
Mae The Anne Matthews Trust yng Ngwynedd yn defnyddio £9,830 i osod lle tân coed a gwydr dwbl i wella’r gallu i ddod â chymunedau ynghyd mewn lle cynnes. Eglurodd Lita Wallis, Gweithiwr Cymorth Prosiect:
“Yma yn y Fraich Goch rydym ni’n cynnig lloches i bobl o gefndiroedd ffoi a mudo, cyfleoedd i orffwys, adlewyrchu ac ailgysylltu gyda’n natur ddynol yn dilyn effeithiau niweidiol yr amgylchedd anghyfeillgar. Ond adeilad llechi 450 mlwydd oed yw’r Fraich Goch yng Ngogledd Cymru ac mae ein gwesteion bob amser yn cael trafferth gyda’r oerni, yn enwedig oherwydd bod nifer ohonynt wedi cael eu magu mewn llefydd cynnes. Gyda’r argyfwng costau byw, mae rhai o’n biliau wedi treblu ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy i gadw ein gwesteion a’n cymuned leol yn gynnes ac yn gyfforddus. Mae’r lle wedi trawsnewid! Mae ystafell gyfarfod ychwanegol ar gael i’n cymuned ac yn barod mae ein gwesteion wedi bod yn eistedd wrth ymyl y tân. Mae’r coed tân i gyd yn dod yn gynaliadwy o’n safle, ac mae hyn yn ffordd well o gynhesu ein lleoliad, ar gyfer y byd a’n cyfrif banc. Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd hyn yn cael effaith ar gyfer ein staff a’n cymuned am flynyddoedd i ddod!”
Bydd Sir Gareth Edwards Cancer Charity yn defnyddio £9,975 i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu triniaeth am ganser. Byddant yn codi ymwybyddiaeth o'r problemau y byddan nhw’n eu hwynebu, trwy gyfweliadau wedi'u ffilmio'n broffesiynol gyda phobl ifanc a staff meddygol. Dywedodd Eirlys Edwards, Prif Weithredwr a Sylfaenydd yr elusen wrthym:
"Bydd y grant rydym wedi'i dderbyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ein helpu i gefnogi pobl ifanc 15-35 oed yng Nghymru sy'n wynebu triniaeth ar gyfer canser ac sy'n cael trafferthion ariannol. Byddwn yn defnyddio'r grant i gyfweld â phobl ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r problemau y mae pobl ifanc sy'n cael diagnosis o Ganser yn eu hwynebu a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn glir."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“Mae’n fraint i ni allu gweithio gyda chymaint o sefydliadau, grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru, gan alluogi pobl a chymunedau i ddod â’u huchelgeisiau’n fyw. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU gan ein galluogi i roi grantiau gwerth cyfanswm o fwy na £2.4 miliwn yng Nghymru y mis hwn yn unig. Mae’r tri grant a amlinellwyd uchod yn dangos y brwdfrydedd a’r ymroddiad y mae gwirfoddolwyr a staff yn ei ddangos, gan weithio gyda phobl sydd angen eu cefnogaeth.”
I gael rhagor o wybodaeth am ymgeisio am gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
Rhestr lawn o grantiau a ddyfarnwyd ym mis Gorffennaf 2023.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru