Cefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen fwyaf y gaeaf hwn gyda £4.5 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i gymunedau Cymru.
Y mis hwn dathlodd 107 o grwpiau cymunedol eu bod wedi derbyn cyfran o £4,543,379. Gyda chostau byw ac effaith y pandemig yn dal i gael eu teimlo gan lawer, mae grwpiau cymunedol yn dod ynghyd i gefnogi eu cymunedau, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Gyda chymorth grant £230,396 gan y Loteri Genedlaethol, bydd rhaglen Safer Ageing Hourglass yn cefnogi pobl hŷn yng Nghymru sy’n dioddef cam-drin ariannol. Dyma lle mae rhywun mewn rôl ddibynadwy yn ymyrryd yng ngallu person hŷn i gaffael, defnyddio neu gadw eu harian.
Mae Hourglass eisiau lleihau nifer y dioddefwyr yn y dyfodol trwy godi ymwybyddiaeth, gwaith atal a sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn cysylltu â sefydliadau ac asiantaethau perthnasol. Bydd y grant yn helpu pobl hŷn yng Nghymru i deimlo’n fwy annibynnol, hyderus a gwybodus am ddiogelu eu harian.
Dathlodd Richard Robinson, Prif Weithredwr Hourglass y grant gan ddweud: “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer ein hwb Ymateb Cymunedol yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar gam-drin economaidd. Cam-drin economaidd yw’r math mwyaf cyffredin o gam-drin yr ydym yn dod ar ei draws o bell ffordd trwy ein llinell gymorth 24/7 a bydd yr hwb hwn yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r duedd bryderus hon trwy addysg, ymyrraeth gynnar, adferiad ar ôl cam-drin a mwy. Mae’r hwb hwn yn gam arwyddocaol i weithgareddau’r elusen yng Nghymru a hoffem ddiolch i bawb sy’n ymwneud â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau i wneud gwahaniaeth i’r rhai mewn angen.”
Dros y tair blynedd nesaf, bydd Mothers Matter C.I.C. yn defnyddio grant £279,158 i adeiladu ar wasanaeth presennol y sefydliad. Bydd y grŵp yn cefnogi darpar famau a mamau newydd. Bydd cymorth iechyd a lles meddyliol yn cael ei gynnig i fenywod a’u teuluoedd ar draws RCT a Phen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys cwnsela, lles a’r cyfle i ymuno â grwpiau cymdeithasol.
Dywedodd Katy Thomas, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Mothers Matter C.I.C.: “Hoffem ddiolch yn ddiffuant am eich cefnogaeth barhaus i’n rhaglen cymorth cartref cymunedol. Mae eich cyllid wedi bod yn rhyfeddol, ac yn esiampl o obaith yn ystod y cyfnod anodd hwn. Diolch i'ch cyfraniad, rydym wedi gallu cymryd cam sylweddol ymlaen i wella ein gwasanaethau. Mae’r gallu i gynnwys staff ychwanegol nid yn unig wedi ein galluogi i fodloni anghenion a galw cynyddol ein cymuned, ond mae hefyd wedi ein galluogi i gynnig cymorth am ddim ar gyfer aelodau ein cymuned yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng.”
Dros y tair blynedd nesaf, bydd Young Onset Dementia Sir Benfro yn defnyddio grant £73,523 i greu gwasanaeth dydd fforddiadwy, dwyieithog pwrpasol ar gyfer pobl o dan 65 oed sy’n profi dementia cynnar. Bydd y gwasanaeth yn eu galluogi i gwrdd ag eraill sydd mewn sefyllfa debyg, cael mynediad at gefnogaeth cyfoedion a chynyddu eu hunanhyder, hunan-barch, annibyniaeth, a gwella eu lles meddyliol a chorfforol.
Esboniodd Gill Leese, y mae ei gŵr yn byw gyda dementia cynnar, beth fyddai’r cyllid yn ei olygu i’w teulu:
“Pan gafodd fy ngŵr ddiagnosis o ddementia cynnar, nid oedd unrhyw wasanaethau a oedd yn darparu ar gyfer anghenion pobl iau â dementia. Roedd yn aml yn dweud wrthyf fod popeth ar gyfer pobl hŷn! Oni fyddai'n wych pe bai rhywbeth ar gyfer pobl iau, fel fi, rhywbeth cymdeithasol, ysgogol ac sy'n briodol i'n hoedran? Gyda'r cyllid hwn, bydd unrhyw berson sy'n byw gyda dementia cynnar yn Sir Benfro yn gallu cael mynediad at wasanaeth pwrpasol. Bydd y cyllid hwn yn galluogi breuddwyd Andrew i gael ei gwireddu.”
Ym Mro Morgannwg, bydd y grŵp canu cymunedol With Music in Mind C.I.C. yn defnyddio grant £10,000 i greu canolfan aml-asiantaeth sy’n gwasanaethu pobl hŷn, yn enwedig y rhai sydd â dementia neu sy’n byw mewn lleoliadau gwledig, i wella eu lles, ac i leihau unigrwydd a ynysrwydd. Pwrpas yr hwb fydd darparu cymorth integredig gan wasanaethau niferus gan gynnwys arwyddbostio, cymorth digidol, cwnsela, gweithgareddau cymunedol a grwpiau cymdeithasol.
Dywedodd Chloe Buttery, Gweithiwr Cymorth yn With Music in Mind:
“Mae With Music In Mind yn fudiad llawen i fod yn rhan ohono, ac mae wedi bod yn bleser gweld manteision canu a’r grwpiau cyfeillgarwch sydd wedi ffurfio o fewn ein cymuned fach. Mae wedi bod yn rhaff achub i lawer o bobl hŷn ynysig ar draws Bro Morgannwg, yn enwedig yn dilyn effaith y pandemig. Rydym yn ddiolchgar iawn bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ein cefnogi i ehangu i Ben-y-bont ar Ogwr, fel y gallwn gyrraedd hyd yn oed mwy o aelodau ein cymuned."
Dathlodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr holl sefydliadau gan ddweud: “Mae prosiectau fel y rhain mor hanfodol i gymunedau. Mae'r Gronfa’n ymrwymo i gefnogi prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd i gefnogi eu cymunedau, creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu i ddatblygu sgiliau newydd. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da fel y rhain ledled y DU.”
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru