Grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i fwy na 100 o grwpiau cymunedol yng Nghymru
Grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i fwy na 100 o grwpiau cymunedol yng Nghymru
Mae 125 o grwpiau cymunedol yn rhannu mwy na £4.75 miliwn mewn grantiau y mis hwn, o'r cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yng Nghymru, sef Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae mwy na 100 o'r grantiau yn dod o raglen grantiau fwyaf poblogaidd y Gronfa - Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ac maent yn cynnwys:
- £9,980 i Blind in Business Trust i gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith dan oruchwyliaeth i bobl ifanc ddall a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg rhwng 13 ac 16 oed yng Nghaerdydd
- £3,451 i Y Ffrindiau Dysynni Dogs The Friends yng Ngwynedd, gan ddod â phobl ynghyd i gynnal y cae cymunedol ym Mryncrug
- £3,400 i Gymdeithas Gymunedol Caewern yng Nghastell-nedd Port Talbot, i fynd i'r afael ag unigrwydd ac effeithiau’r argyfwng costau byw drwy gynnig gweithgareddau wythnosol.
![Caerwen](https://www.tnlcommunityfund.org.uk/media/Wales/caewern-1.jpg?mtime=20231109111829&focal=none)
Derbyniodd Cymdeithas Gymunedol Caewern yng Nghastell-nedd Port Talbot £3,400 i gynnal amrywiaeth o weithgareddau wythnosol ar gyfer eu cymuned. Mae'r gweithgareddau'n canolbwyntio'n benodol ar drigolion sy’n wynebu caledi ariannol, yn profi effeithiau parhaus y pandemig a phobl sydd wedi'u hynysu neu sy’n dioddef gyda'u hiechyd meddwl neu gorfforol. Darperir bwyd ym mhob sesiwn. Esboniodd Louisa M., cyfranogwr pam ei bod yn mynychu:
"Mae'r sesiynau hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl hen ac ifanc yn y gymuned hon. Hebddyn nhw, mae pobl wedi rhannu gyda mi pa mor ynysig ac unig maen nhw'n gallu teimlo. Yn bersonol, rwyf wedi mynychu sesiynau gyda fy mab a fy ŵyr, ac mae wedi rhoi cyfle i ni wneud pethau a phrofi pethau na fyddem byth yn gallu eu gwneud fel arfer!"
Mae Y Ffrindiau Dysynni Dogs The Friends yng Ngwynedd yn dod â phobl ynghyd i gynnal y cae cymunedol ym Mryncrug gyda'u grant £3,451.
![Dysynni frindiau](https://www.tnlcommunityfund.org.uk/media/Wales/Dysynni-Dogs-3.jpg?mtime=20231109111828&focal=none)
Mae'r cae’n cael ei ddefnyddio'n dda gan grwpiau cymunedol i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol i'r gymuned gyfan. Dywedodd Dilys Williams, Ysgrifennydd:
"Mae'r Cae Cymunedol yn Y Ganolfan, Bryncrug, yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan lawer o grwpiau, megis dosbarthiadau ar gyfer Cŵn Dysynni, Ffermwyr Ifanc a'r Clwb Ieuenctid lleol, yn ogystal ag ar gyfer Digwyddiadau Cymunedol fel y Ffair Wledig Flynyddol a Noson Tân Gwyllt.
"Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gallwn wneud cymaint mwy. Mae aelodau Y Ffrindiau yn aros yn rheolaidd ar ôl dosbarthiadau i wneud gwaith fel torri perthi a gwair. Mae ymwelwyr digwyddiadau’r cae yn dweud yn aml pa mor hyfryd yw’r lleoliad, sydd wedi'i amgylchynu gan fryniau. Rydym yn falch iawn bod aelodau Y Ffrindiau yn cynnal y cae ac yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y cyllid i'n galluogi i wneud hyn ar gyfer ein cymuned leol."
Mae Blind in Business Trust yn defnyddio eu grant £9,980 i gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith dan oruchwyliaeth i bobl ifanc ddall a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg rhwng 13 ac 16 oed yng Nghaerdydd.
Dywedodd Dan Mitchell, Cyfarwyddwr Blind in Business,
"Gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, gall Blind in Business hyfforddi pobl ifanc ddall ac sydd â nam ar eu golwg, nid yn unig i ddatblygu eu hyder, ond i rwydweithio â'i gilydd a datblygu eu huchelgeisiau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Mae cefnogaeth o'r fath yn hanfodol i ni yng Nghaerdydd ac mae'r cyllid hwn yn drawsnewidiol i'r bobl ifanc, anabl rydyn ni'n eu helpu gyda'r cyfnod pontio o addysg i gyflogaeth."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
"Dyma rai o'r pethau anhygoel y mae mwy na 100 o grwpiau cymunedol ledled Cymru yn eu gwneud, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi mwy na £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da."
O 15 Tachwedd, mae rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn newid fel y bydd grwpiau'n gallu ymgeisio am grantiau hyd at £20,000, y gellir ei wario dros ddwy flynedd. Am ragor o wybodaeth ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
Y mis hwn, mae'r Gronfa wedi dyfarnu £4,789,521 i 125 o brosiectau ledled Cymru, mae rhestr lawn ar gael yma.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru
![Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/cylch-meithrin_nla4a-walesTablet.jpg?auto=compress%2Cformat&crop=faces&fit=crop&h=100&w=100&s=6f3ac3f95f8133384990766ed3175be6)
Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Ffordd sydyn i ymgeisio am nifer llai o arian rhwng £300 a £20,000.![Pawb a'i Le: Grantiau maint canolig](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/cbsa_people-and-places-mediumTablet.jpg?auto=compress%2Cformat&crop=faces&fit=crop&h=100&w=100&s=63c85fbb6acc72e4c98d1745da7bc53c)
Pawb a'i Le: Grantiau maint canolig
Yn ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw cymunedol rhwng £20,001 a £100,000.![Pawb a'i Le: Grantiau mawr](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/cbsa_people-and-places-mediumTablet.jpg?auto=compress%2Cformat&crop=faces&fit=crop&h=100&w=100&s=63c85fbb6acc72e4c98d1745da7bc53c)