Dros £1 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ledled Cymru y Nadolig hwn
Y mis hwn, mae 63 o grwpiau'n dathlu derbyn cyfran o dros £1 miliwn i'w cymuned, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y grantiau a ddyfarnwyd yn helpu cefnogi cymunedau ledled Cymru y Nadolig hwn, gan fod effaith y pandemig a'r argyfwng costau byw yn dal i gael ei deimlo gan lawer, gan gynnwys:
- £68,890 i The Cwtch Angels Abergavenny CIC i ddarparu parseli bwyd, dillad a hanfodion bob dydd i bobl sydd ei angen.
- £6,300 i The Rhondda Polar Bears Disabled Swimming and Sports Club i hyfforddi hyfforddwyr newydd er mwyn cefnogi mwy o nofwyr.
- £10,000 i The Bluetits Chill Swimmers Ltd yn Sir Benfro i ddarparu hyfforddiant iechyd meddwl a datrys gwrthdaro i'w aelodau.
- £100,000 i Eternal Media yn Wrecsam i ehangu eu prosiect gwneud ffilmiau i bobl ledled Cymru sydd yn y cyfnod cynnar o adferiad rhag caethiwed.
Bydd y grant Loteri Genedlaethol £68,890 a ddyfarnwyd i The Cwtch Angels Abergavenny CIC yn helpu cefnogi dwy fenter. Bydd eu prosiect Oergell/Bwrdd Llawn Cymunedol yn darparu parseli bwyd i bobl sy'n ei chael hi'n anodd prynu bwyd oherwydd costau cynyddol. Bydd y prosiect Cwpwrdd Dillad/Siop Cymunedol hefyd yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw drwy ddarparu dillad a hanfodion bob dydd i bobl, fel pethau ymolchi.
Eglurodd Alison Platt ac Annie Hartwright o Cwtch Angels CIC bod y grant wedi bod yn rhaff achub iddyn nhw a'u cymuned:
"Rydyn ni'n gyffrous iawn am ein grant. I fod yn onest, roedden ni’n pendroni a fydden ni’n gallu parhau. Roeddem wedi defnyddio’r holl arian oedd gennym ni o’n grantiau a'n sianeli arferol; nid oedd cynghorau lleol yn gallu helpu oherwydd eu bod yn cael anawsterau o ran cyllideb hefyd. Ond roedden ni'n gwybod cymaint o les roedden ni'n ei wneud i'n cymunedau lleol felly roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth mawr i ddal ati.
"Fe wnaethon ni gais am grant Loteri Genedlaethol. Cymerodd hyn tua chwe mis i ymgeisio a chael ei ddyfarnu. Pan gafodd ei ddyfarnu, dim ond £540 oedd gennym ar ôl. Roedd yn hollol wyrthiol ac rydym mor ddiolchgar. Diolch i chi, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am ein helpu ni i helpu ein cymuned. Rydym ni a'n cymuned yn ddiolchgar iawn."
Yn Rhondda Cynon Taf, mae The Rhondda Polar Bears Disabled Swimming and Sports Club wedi derbyn £6,300 i greu fideos i hyfforddi mwy o hyfforddwyr, gan ganiatáu i ragor o nofwyr ymuno â'r clwb.
Eglurodd Dawn Moore, Is-gadeirydd The Rhondda Polar Bears Disabled Swimming and Sports Club, ragor am eu gwaith a'r gwahaniaeth y bydd y grant Loteri Genedlaethol yn ei wneud:
"Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ddyfarnu grant i ni greu fideos i helpu hyfforddi mwy o wirfoddolwyr i ddefnyddio'r cysyniad Halliwick. Mae'r cysyniad Halliwick wedi cael ei ddefnyddio ers dros 70 mlynedd gan y rhai sy'n gysylltiedig â Chymdeithas Therapi Nofio Halliwick. Fe'i cynlluniwyd yn benodol i ddysgu diogelwch dŵr a hapusrwydd dŵr i blant ac oedolion ag anableddau corfforol a dysgu.
"Mae hyfforddi mwy o wirfoddolwyr yn hanfodol i'n clwb gan ein bod yn darparu amgylchedd nofio gwirfoddol lle mae ein nofwyr yn teimlo'n ddiogel, yn gynhwysol, ac yn gallu cael bywyd cymdeithasol da yn y gymuned. I rai, dyma eu hunig ryngweithio cymdeithasol yn ystod yr wythnos. Fel y gallwch ddychmygu, mae ein rhestrau aros yn hir iawn a thrwy ein galluogi i greu mwy o fideos hyfforddi, gallwn gefnogi mwy o wirfoddolwyr i helpu ein nofwyr yn y dŵr ac ar gyfer ein digwyddiadau cymdeithasol ar dir sych."
Yn Sir Benfro, bydd The Bluetits Chill Swimmers Ltd yn defnyddio grant £10,000 i
ddarparu hyfforddiant iechyd meddwl a datrys gwrthdaro i'w aelodau. Bydd hyn yn galluogi cyfranogwyr i gefnogi eu cyfoedion, eu teulu a'u ffrindiau yn well gan wella eu lles meddyliol a'u hyder ar yr un pryd.
Dywedodd Sian Richardson o The Bluetits "Mae derbyn y grant hael hwn gan y Loteri Genedlaethol yn drawsnewidiol i The Bluetits Chill Swimmers Ltd. Nid yw'n ymwneud â'r cymorth ariannol yn unig, ond mae’n cydnabod a dilysu ein hymdrechion i hyrwyddo manteision iechyd corfforol a meddyliol nofio dŵr oer.
"Bydd y grant hwn yn ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl, darparu gwell cyfleusterau, a pharhau i adeiladu cymuned gefnogol a chynhwysol o amgylch y gamp gyffrous hon. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfle hwn i wneud mwy o sblash ym myd nofio dŵr agored."
Yng Ngwynedd, bydd Eryri Cydweithredol Eryri Co-operative Cyf yn defnyddio grant £10,000 i fynd i'r afael ag unigrwydd drwy gynnig digwyddiadau wyneb yn wyneb fel sesiynau cerddoriaeth, dawnsio, celf a chrefft a gweithgareddau lles. Dros ddeuddeg mis bydd y prosiect yn dod â phobl yn y gymuned at ei gilydd ar adegau penodol o'r flwyddyn, gan gynnwys y Nadolig, Santes Dwynwen a Dydd Gŵyl Dewi. Bydd y prosiect yn cefnogi preswylwyr cartrefi gofal lleol, gofalwyr di-dâl a'u teuluoedd, a bydd ffocws arbennig ar unigolion sy'n byw gyda dementia.
Dywedodd Gwenda Hughes, Cyfarwyddwr Eryri Cydweithredol Eryri Co-operative Cyf:
"Diolch yn fawr iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ddyfarnu grant i'n prosiect Diddanu. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein digwyddiad cyntaf a fydd yn lansio Diddanu yn Llanberis ar 20 Rhagfyr. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn trefnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yng ngogledd Gwynedd a fydd yn dod â chymunedau a chenedlaethau ynghyd. Bydd y prosiect yn cael ei dreialu mewn cartrefi preswyl yn yr ardal hefyd, er mwyn trefnu gweithgareddau diddorol ar gyfer y preswylwyr."
Yn Wrecsam, gwnaeth Eternal Media gais llwyddiannus am £100,000 i gynyddu ac ehangu eu prosiect Recovery in Focus am ddwy flynedd ledled Cymru. Mae'r grŵp yn cefnogi pobl yn ystod camau cynnar eu hadferiad trwy eu hymgysylltu â chreu ffilmiau. Mae’r argyfwng costau byw a'i gyflyrau iechyd meddwl cysylltiedig wedi'u nodi fel ffactor sylweddol wrth achosi ailwaeledd.
Dywedodd Jill Whittingham, Therapydd Arweiniol Eternal Media a Hwylusydd Recovery in Focus:
"Mae derbyn yr arian hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ddilysiad anhygoel o'n prosiect Recovery in Focus. Rydym yn angerddol dros gefnogi pobl i wella ar ôl caethiwed ac mae defnyddio ffotograffiaeth yn y modd hwn yn cynnig ffordd unigryw a chreadigol o ddatblygu offer a sgiliau sy'n cefnogi proses adfer. Rydym yn hynod falch o Recovery in Focus ac mae gennym yr arian nawr i sicrhau y gellir cynnig hyn i gymaint mwy o bobl yng Nghymru."
Bydd cymunedau ledled Cymru hefyd yn elwa o grant Wales Epilepsy Association Cyf. Gwnaeth y grŵp gais am grant £90,020 i barhau ac ehangu ei waith cymorth ac allgymorth unigol ledled Cymru ar gyfer pobl y mae epilepsi yn effeithio arnynt, gan fynd i'r afael ag effaith yr argyfwng costau byw.
Dywedodd Fiona Kettell, Rheolwr Gweithrediadau Epilepsi Cymru:
"Diolch i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a’r grant hwn, bydd Epilepsi Cymru yn gallu parhau â'i waith hanfodol, gan gefnogi pobl ag epilepsi a'u teuluoedd ledled Cymru. Rydym yn falch iawn y gallwn, gyda'r arian hwn, ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys ein grwpiau cymorth ac allgymorth, gan ganolbwyntio ar faterion sydd wedi cael eu gwaethygu gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys ynysrwydd cymdeithasol, budd-daliadau a chymorth cyflogaeth."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'r Gronfa yn ymroddedig i gefnogi prosiectau fel y rhain sy'n hanfodol i gymunedau, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'n anhygoel gweld y grwpiau hyn yn dod â phobl ynghyd, yn creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach ac yn helpu datblygu sgiliau newydd. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da fel hyn ledled y DU."
Y mis hwn mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £1,079,984 i 63 o brosiectau ledled Cymru. Mae rhestr lawn ynghlwm.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru