Dros £4 miliwn i Gymru gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi iechyd a lles cymunedau
Y mis hwn, mae 106 o grwpiau cymunedol yn dathlu cyfran o £4,173,714 mewn grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yng Nghymru. Mae llawer o'r grantiau'n canolbwyntio ar annog cymunedau i fyw bywydau iachach, a chefnogi lles corfforol a meddyliol pobl.
Cafodd Can Cook CIO yn Sir y Fflint grant £97,000 i ehangu ei wasanaeth siop fwyd symudol presennol, drwy brynu a dodrefnu fan. Bydd y fan newydd yn eu helpu i gyrraedd 10 lleoliad newydd ledled gogledd Cymru, gan gyrraedd hyd at 5,000 o bobl ychwanegol. Bydd y siop yn darparu nwyddau hanfodol yn ogystal â phrydau parod iach a ffres a phecynnau bwyd i’w coginio gartref.
Gan egluro amcanion eu gwaith, dywedodd Rheolwr Prosiectau Cymdeithasol Can Cook, Rachael Oley: "Lansiwyd ein Siop Symudol gyntaf ym mis Ionawr 2022, y siop gornel sy'n dod atoch chi! Y nod yw sicrhau bod gan gymunedau ledled Gogledd Cymru fynediad at ddewisiadau bwyd ffres a fforddiadwy. Mae'r gwasanaeth yn arbennig o hanfodol i gymunedau gwledig gan nad oes ganddynt fynediad at archfarchnad ac nid yw’r opsiynau bwyd yn wych. Rydym yn darparu amrywiaeth eang o brydau unigol, bagiau rysáit ar gyfer poptai araf, pecynnau ffrwythau a llysiau ac amrywiaeth o eitemau hanfodol. Mae ein tîm wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd o fewn cymunedau a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid."
Ym Mhowys, bydd Criw Compostio yn defnyddio grant £9,978 i ddarparu gweithdai a chymorth ymgynghori i ysbrydoli a hysbysu unigolion a grwpiau i sefydlu mentrau compostio.
Gan siarad ar ran y prosiect, dywedodd Fin Jordão: "Mae'n anhygoel gwybod y bydd pobl yn y canolbarth yn dysgu am bridd byw ac yn ei ddathlu, tra hefyd yn bwyta bwyd lleol mwy iach sy'n cael ei dyfu drwy economi gylchol go iawn – diolch i’r Loteri Genedlaethol!"
Gan ddefnyddio grant £9,941, bydd Circus of Positivity CIC yng Nghasnewydd yn hyrwyddo sgiliau syrcas ar gyfer lles drwy greu cyfleoedd i gymunedau ddysgu a hyfforddi gyda'i gilydd drwy raglen o weithdai a sioeau.
Dywedodd Bethan Collins, aelod sefydlu: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ddyfarnu grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i ni i ariannu gweithdai sgiliau syrcas yn ein cymuned leol. Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol newydd, bydd yr arian yn ein helpu i sefydlu a datblygu darpariaeth Circus of Positivity. Mae ein gweithdai yn agored i bob oedran a gallu, a'r nod yw hyrwyddo lles drwy ddarparu cyfleoedd i gyfranogwyr roi cynnig ar rywbeth newydd, magu hyder, datblygu gwytnwch a chael profiadau cadarnhaol."
Yn Abertawe, bydd Family and Therapy CIC yn defnyddio grant £10,000 i ehangu er mwyn iddynt allu cefnogi mwy o bobl ifanc. Bydd y prosiect yn cynnig gwasanaethau cwnsela, gweithdai a grwpiau cymorth cymheiriaid i alluogi pobl ifanc i wella eu hiechyd meddwl a'u lles.
Dywedodd aelod o dîm Family and Therapy: "Rydym wrth ein boddau i dderbyn y grant hwn, sy'n ein galluogi i wella iechyd meddwl pobl ifanc yng nghymuned Llwchwr, drwy ddarparu cwnsela am ddim i'r bobl ifanc hynny sy'n ei chael hi'n anodd. Mae'n golygu y gallwn hefyd gefnogi eu teuluoedd a chysylltu â gwasanaethau a sefydliadau cymorth eraill i sicrhau bod y cymorth cyfannol y mae'r bobl ifanc yn ei gael yn effeithiol."
Dywedodd rhiant i blentyn yn ei arddegau sy'n derbyn cefnogaeth gan y grŵp: "Diolch am yr holl gymorth rydych chi wedi'i roi i fy merch dros y chwech wythnos ddiwethaf. Rydych chi wedi ei helpu i fod yn agored am ei theimladau a deall ei hemosiynau yn fwy. Mae ei hunan-barch a'i hyder wedi gwella ac mae'n ymddangos yn llawer hapusach ers eich gweld chi. Dwi mor hapus bod y gwasanaeth hwn wedi bod ar gael ac wedi darparu mewn amgylchedd mor wych lle mae hi wedi teimlo'n gyfforddus yn siarad â chi. Diolch yn fawr iawn am y gwaith rydych chi wedi'i wneud gyda hi."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae'n wych gweld cymaint o grwpiau cymunedol yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd a byw bywydau iachach gyda'u gwaith hanfodol. Rydym yn falch o gydnabod a chefnogi ymdrechion y prosiectau hyn, gan ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU."
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru