Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn croesawu Araith Ei Fawrhydi’r Brenin a ffocws y Llywodraeth ar ddatganoli mwy o bŵer i gymunedau lleol ac adeiladu dyfodol mwy adfywiol yn amgylcheddol
Gan ymateb i Araith Ei Fawrhydi’r Brenin, dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Fel yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU, rydym yn croesawu cynlluniau’r Llywodraeth i ddatganoli mwy o bŵer i gymunedau lleol. Drwy fod yn bresennol mewn cymunedau ledled y wlad, rydym yn cydnabod fod gan bob cymuned wahanol anghenion. Rydym yn clywed bob dydd am y gwahaniaeth y mae’n ei wneud i rymuso pobl leol i weithredu ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt, gan gryfhau cymdeithas a newid bywydau
“Rydym yn falch o weld y Llywodraeth yn ymrwymo, fel ni, tuag at adeiladu dyfodol adfywiol yn amgylcheddol. Yn manteisio ar bŵer glanach ac ynni gwyrdd. Yn helpu ein gwlad a’n cymunedau i fod yn gynaliadwy.
“Mae ein strategaeth, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, yn ein cyfeirio i gefnogi’r hyn sydd bwysicaf i gymunedau ledled y DU, gan wrando arnynt ac ymateb iddynt a chanolbwyntio ar alluogi newid mwy mentrus. Gwyddom pa mor bwerus yw partneriaeth a gweithio ag eraill. Mae cyfle enfawr yn ffocws y Llywodraeth newydd ar adnewyddu. Gyda’n harbenigedd a bron i 30 mlynedd o brofiad, rydym yn arwain y ffordd o ran cyflawni datrysiadau a chyfleoedd cymunedol ac uchelgeisiol a gweithio i greu bywydau iachach, hapusach a chymdeithas lewyrchus i bawb.”
Mae ein Cynllun Corfforaethol newydd yn nodi ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy na 90% o’n grantiau i gefnogi o leiaf un o’n pedwar nod cymunedol, sef galluogi cymunedau i: ddod ynghyd; bod yn amgylcheddol gynaliadwy; byw bywydau iachach a chefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch iddyn nhw, y llynedd roedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gallu dosbarthu dros hanner biliwn o bunnoedd (£686.3 miliwn) o grantiau trawsnewidiol i gymunedau.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig