Prosiectau wedi eu pweru gan y gymuned yn cael arian gan y Loteri Genedlaethol i helpu i ostwng biliau a chreu dyfodol gwyrddach
Mae un ar bymtheg o brosiectau cymunedol ledled y wlad sy’n helpu cartrefi i ostwng eu biliau ynni trwy leihau faint o ynni maen nhw’n ei ddefnyddio, wedi derbyn bron i £20 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd yr arian yn grymuso cymunedau i ddod ynghyd a mynd i’r afael â heriau dydd i ddydd cynhyrchu ynni a phrisiau sy’n codi.
Mae’r arian wedi ei ddyfarnu trwy’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, cronfa 10-mlynedd sy’n werth £100m gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, conglfaen ei hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol, ac mae’n dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth eu bod am fuddsoddi £3.4 biliwn yn eu Cynllun Cartrefi Cynnes dros y tair mlynedd nesaf, sydd â’r nod o drawsnewid 350,000 o aelwydydd yn gartrefi ynni isel.
Bydd y prosiectau’n cynnig cyngor ar y newidiadau y gall pobl eu gwneud i fod yn fwy ynni effeithlon, gwella mynediad i ôl-ffitio i leihau allyriadau aelwydydd a biliau ynni, a gweithio gyda phobl ifanc i greu’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr ynni gwyrdd.
Un o’r sefydliadau i elwa yw’r East Durham Trust, sydd wedi derbyn bron i £1.2 miliwn i gefnogi eu prosiect, Energising East Durham, sydd â’r nod o ostwng ôl-troed ynni biliau aelwydydd o 20% mewn 22 tref a phentref yn yr ardal dros bum mlynedd. Byddent yn sefydlu deg ‘Hwb Ynni’ lleol, yn ogystal a hwb blaenllaw, y Beacon Hub yn Horden a fydd yn darparu cyngor a chymorth uniongyrchol i aelwydydd mewn angen, gan gynnwys cyngor ar sut i gael mynediad i raglenni’r Llywodraeth megis y Green Deal.
Mae’r prosiect yn ategu cynllun dŵr pyllau glo Horden, sy’n archilwio sut y gellir defnyddio dŵr o’r hen byllau glo i gynhesu cartrefi, ysgolion a busnesau.
Gyda hyd at 29% o’r aelwydydd yn East Durham ar hyn o bryd yn cael eu hystyried mewn tlodi ynni, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 13.1%*, mae’r prosiect yn anelu i baratoi’r ffordd at ddyfodol gwyrddach, mwy ynni effeithlon i’r ardal.
Meddai Graham Easterlow, Prif Weithredwr East Durham Trust: “Mae hyn yn newid gêm i’n cymunedau. Mae llawer o bobl yn ein hardal ni yn wynebu tlodi ynni eithafol, ac mae’n hanfodol nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl yn y trawsnewidiad gwyrdd. Nid yn unig y bydd y prosiect hwn yn lleihau costau ynni, ond bydd hefyd yn sicrhau fod ein cymunedau yn rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd.”
Sefydliad arall i dderbyn ariannu yw Changeworks, sydd wedi derbyn bron i £1.5 miliwn i weithio gyda chymunedau yn yr Alban i gefnogi datgarboneiddio cartrefi a grymuso cymunedau i weithio tuag at ddyfodol gwyrddach.
Mae prosiect Partneriaeth Cymunedol Highland Energy, sy’n cynnwys Changeworks, gyda chefnogaeth gan Gyngor yr Highland, Prifysgol yr Highlands ac Islands, a Home Energy Scotland, yn ceisio cynyddu mynediad i ôl-ffitio technolegau ynni gwyrdd domestig, wrth uwchsgilio cymunedau gwledig trwy ddarparu mwy o fynediad i hyfforddiant i weithwyr crefft yn yr ardal.
Nod y prosiect yw cefnogi cymunedau sydd wedi cael trafferth cael mynediad i gefnogaeth a chyngor addas ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni yn hanesyddol. Dengys ymchwil o Arolwg Cyflwr Tai diweddaraf Llywodraeth yr Alban fod 25% o gartrefi yng nghefn gwlad yr Alban yn dioddef o dlodi tanwydd o gymharu ag 17% yn yr ardaloedd trefol.
Y llynedd, darparodd Changeworks gyngor arbed ynni i 64,000 o aelwydydd ledled yr Alban, gan helpu dros 13,000 o aelwydydd i osod mesurau arbed ynni a thechnolegau adnewyddadwy, a, thrwy ei dîm Cynhesrwydd Fforddiadwy, arbedwyd dros £1 miliwn i’r aelwydydd.
Dywedodd Josiah Lockhart, Prif Weithredwr Changeworks: “Rydyn ni’n gwybod fod gweithio gyda phartneriaid cymunedol yr ymddiriedir ynddynt yn cynyddu effaith ein gwaith yn sylweddol yn y cymunedau, p’un ai yw hyn yn cynyddu’r ymgysylltiad ym maes effeithlonrwydd ynni, neu’n cefnogi cymunedau i ymgymryd â’r mesurau yn gallen nhw eu gweithredu ar y cyd.
“Rydyn ni’n gwybod fod gan cefn gwlad yr Highlands beth o’r stoc tai gwaelaf yn yr Alban, sy’n cael ei waethygu gan anawsterau cael mynediad i’r gadwyn cyflenwi ynni gwyrdd lleol. Mae maint y prosiect hwn yn golygu y gall y dysgu bellach gael ei rannu rhwng cymunedau.
“Gyda chymorth y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gallwn barhau i gefnogi cymunedau yn eu hymdrechion i ostwng allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi.”
Mae Students Organising for Sustainability (SOS-UK) yn brosiect arall sydd wedi elwa ar ariannu gan y Loteri Genedlaethol, ar ôl derbyn £1.25 miliwn i weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a phrifysgolion ledled y wlad i feithrin dylanwad y myfyrwyr fel pencampwyr effeithlonrwydd ynni.
Bydd yr ariannu yn targedu’r bwlch mewn cefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr sy’n mynd i addysg uwch, yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth ymysg landlordiaid am y ddeddfwriaeth bresennol a’r atebion effeithlonrwydd ynni sydd ar gael iddynt.
Mae SOS-UK hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â National Energy Action, elusen sy’n arwain ar dlodi tanwydd yn y Deyrnas Unedig, i uwchsgilio myfyrwyr a staff i fynd i’r afael a’u hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth eu hunain.
Roedd prosiect blaenorol gan SOS-UK yn cynnwys archwiliad ynni cartref gan gyfoedion i dros 1,700 o fyfyrwyr, gyda 91% yn adrodd eu bod wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i’w defnydd o ynni, ac 88% yn teimlo’n hyderus am annog eraill i weithredu ar gynaliadwyedd.
Meddai Joanna Romanowicz, Cyfarwyddwr Ymgysylltu SOS-UK: “Mae ymgysylltu â myfyrwyr ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnod o newid mawr, fel symud i ffwrdd o’u cartrefi a byw yn annibynnol am y tro cyntaf, yn gallu cael effaith hollbwysig ar eu harferion yn y dyfodol.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol ac rydyn ni’n gyffrous ynglŷn â’r newidiadau trawsnewidiol a ddaw o’r prosiect.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymroi i neilltuo 15% o’i hariannu i brosiectau amgylcheddol. Ers 2016, mae wedi dyfarnu dros £400 miliwn trwy dros 6,000 o grantiau sy’n ymwneud â gweithredu amgylcheddol.
Mae nawr yn derbyn ceisiadau gan bartneriaethau ar gyfer y rownd nesaf o’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni, sy’n cysylltu gweithredu ar hinsawdd â bywydau bob dydd a diddordebau cymunedau lleol. Mae’r dyddiad cau i wneud cais wedi ei ymestyn hyd at y Gwanwyn 2025, gyda’r swm sydd ar gael hefyd wedi cynyddu o £10 miliwn i £30 miliwn.
Meddai Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae sut rydyn ni’n edrych ar gynhyrchu ynni a’i ddefnyddio yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac mae gan gymunedau lleol ran allweddol i’w chwarae. Gyda help yr ariannu hwn, nid yn unig y mae sefydliadau yn codi ymwybyddiaeth o’r materion ynghylch defnyddio ynni ond hefyd yn grymuso grwpiau ac unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau, gan ostwng eu biliau cartref a symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i ymgeisio am ariannu ar-lein ewch i tnlcommunityfund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig