Strategaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 2023-2030
Cymuned yw’r man cychwyn
Lle mae cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol yn ganolog i greu bywydau iachach, hapusach a chymdeithas lewyrchus. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau anhygoel a arweinir gan y gymuned. A pham ein bod yn edrych i wneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod, drwy wrando ar gymunedau ac ymateb iddynt a thrwy ganolbwyntio ar gefnogi newid mwy beiddgar.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn dosbarthu £4 biliwn ychwanegol erbyn 2030. Cefnogi gweithgareddau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy. Gweithgareddau a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.
Ein strategaeth
-
Darllenwch drosolwg cyflym o’n strategaeth o 2023 i 2030.
-
Y cam cyntaf yw dod â chymunedau ynghyd.
-
Sut y byddwn ni’n ariannu ac yn cefnogi cymunedau.
-
Gallwn addasu i ddiwallu anghenion y gymuned a chadw ein gwerthoedd.
-
Sut y byddwn ni’n ariannu ac yn cefnogi cymunedau.
Gweler y strategaeth yma
Glywed gan David Knott, ein Prif Weithredwr, a phrosiectau gymunedol anhygoel am sut mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn eu galluogi i cwrdd eu hanghenion cymunedol.
Ein huchelgais ar gyfer 2030
Ein uchelgais
Yr uchelgais drwy’r strategaeth hon yw creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy, gan ariannu gweithgareddau a mudiadau sy’n cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.
Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion lle mae’r angen mwyaf. Rydym yn edrych i wneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod, drwy wrando ar gymunedau ac ymateb iddynt, a chanolbwyntio mwy ar gefnogi’r effaith fwyaf.
Lawrlwytho’r adroddiad
Strategaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 2023 – 2030 PDF
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi helpu llywio ein cynlluniau neu drafod ein huchelgeisiau ar gyfer 2030, cysylltwch â itstartswithcommunity@tnlcommunityfund.org.uk