Nodau a arweinir gan y gymuned
Ein pedair nod a arweinir gan y gymuned
Mae ein sgyrsiau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi llywio lle byddwn yn darparu mwy o ffocws wrth gefnogi cymunedau ac wedi llunio ein pedair nod. Cefnogi cymunedau i:
- Ddod ynghyd
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- galluogi pobl i fyw bywydau iachach
- bod yn gynaliadwy yn amgylcheddol.
Mae ein hariannu wedi cefnogi’r meysydd hyn erioed. Nawr rydym yn mynd ymhellach, gan ddod â ffocws o’r newydd i gael mwy o effaith.
Deall ein nodau
Er mwyn eich helpu i ddeall beth mae ein nodau yn ei olygu a sut maen nhw’n effeithio ar eich ceisiadau am gyllid, rydym ni wedi datblygu fframwaith nodau newydd sy'n disgrifio pa ganlyniadau cymunedol rydym ni’n disgwyl i brosiectau gyfrannu tuag atynt.
Ar gyfer pob cais grant newydd, byddwn yn gofyn pa feysydd (os o gwbl) o'r nodau mae'r prosiect yn canolbwyntio arnynt, i'n helpu i ddeall canlyniadau arfaethedig ein grantiau yn well.
Rydyn ni'n gwybod nad yw ein nodau ar wahân yn llwyr - efallai y bydd eich prosiect yn canolbwyntio ar un nod, ond gallai gefnogi un neu fwy o'r nodau eraill ar yr un pryd.
Cymerwch olwg ar y fideo byr hwn, sy'n dangos rhai o effeithiau disgwyliedig pob nod a sut maen nhw'n gorgyffwrdd – gydag enghreifftiau.
Canllaw fideo i'r fframwaith nodau
Mae tegwch (trin pobl yn ôl eu hanghenion) yn bwysig iawn i ni ar draws y fframwaith. Mae hon yn ystyriaeth allweddol ar draws pob un o'r pedair nod yn ein penderfyniadau ariannu.
Gallwch hefyd lawrlwytho trosolwg o’n fframwaith nodau, am ragor o fanylion mewn canllaw defnyddiol y gallwch chi gyfeirio’n ôl ato.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn casglu gwybodaeth gywir am ba ganlyniadau y bydd eich prosiect yn eu cyflawni, gan y bydd hyn yn ein helpu i barhau i wella ein hopsiynau ariannu.
Rhagor o wybodaeth
-
Byddwn ni'n cefnogi cymunedau i gysylltu
Sut y byddwn ni’n cefnogi cymunedau i ddod ynghyd -
Cymunedau amgylcheddol gynaliadwy
Dysgwch sut y byddwn ni’n eu cefnogi -
Sut y byddwn ni’n helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
-
Sut y byddwn ni’n galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach