![](https://biglotteryfund-assets.imgix.net/media/heroes/UK_PlanetaryBoundaries_Birmingham_Sept21_HighRes_130-Tablet.jpg?auto=compress%2Cformat&crop=faces%2Cedge&fit=fill&w=1280&s=83be94d2516b010cadab81ca740bfa90)
environmentally sustainable
Byddwn yn cefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol
![Icon of the earth](https://www.tnlcommunityfund.org.uk/media/Strategy-Renewal/Enviromentally-sustainable.png?mtime=20230601165225&focal=none)
Newid yn yr hinsawdd yw’r “bygythiad mwyaf treiddiol i’r amgylchedd naturiol a chymdeithasau y mae’r byd erioed wedi’i weld” (CU, 2022). Er bod llawer o heriau amgylcheddol yn rhai byd-eang, mae potensial enfawr i gymunedau’r DU wneud gwahaniaeth yn lleol.
Byddwn yn sefydlu cefnogaeth ar gyfer gweithredu amgylcheddol ar draws yr holl ariannu, gan gynnwys cefnogi pob prosiect i ystyried yr amgylchedd hyd yn oed pan nad dyma yw eu prif ffocws. A byddwn hefyd yn buddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol penodol, fel y gall cymunedau helpu i greu planed iach.
Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:
- lleihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol negyddol
- creu effaith amgylcheddol gadarnhaol
- sefydlu mynediad cyfartal i’r amgylchedd naturiol
- gwella ansawdd mannau naturiol.
Creggan Country Park
Mae’n bwysig bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb i angen lleol a mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol trwy brosiectau gweithredu ar lawr gwlad sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl a’r amgylcheddKaren Healy (Chwith), Swyddog Amgylcheddol Creggan Country Park, Gogledd Iwerddon
Yr Amgylchedd
Yn y fideo hwn, mae Karen Healey o Creggan Country Park yn Derry - Londonderry yn sôn am y gweithgareddau amgylcheddol a’r addysg effeithiol y mae’r prosiect yn eu darparu i gefnogi’r gymuned leol, a pham mae ein ffocws newydd o gynaliadwyedd amgylcheddol yn ein strategaeth newydd yn hanfodol.