Profiad o lygad y ffynnon a'r trydydd sector: Sut ydym yn llywio gwaith ar y gweill?
Sut ydym yn helpu dinasyddion arbenigol i lywio systemau anghyfarwydd a sicrhau bod cyfleoedd iddynt ymarfer mewn cyd-destun prif ffrwd? Mae ein CEO Dawn Austwick yn dweud bod cymdeithas sifil yn canolbwyntio, yn bennaf, ar sut i wasanaethu'r bobl y sefydlwyd ein sefydliadau i'w cefnogi orau.
Mae un o ddylanwadau mwyaf ar bwnc profiad o lygad y ffynnon wedi bod yn waith cyfreithiwr hawliau dynol DU ac ymgynghorydd sefydliadol pwrpas cymdeithasol, Baljeet Sandhu.
Yng Ngorffennaf 2017, fe siaradais yn lansiad ei hadroddiad The Value of Lived Experience in Social Change, oedd yn trafod sut mae cymdeithas sifil wedi trin pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon "yn bennaf fel defnyddwyr gwasanaeth a hysbyswyr, yn hytrach na gyrwyr neu arweinwyr newid”.
Agorodd Baljeet fy llygaid at y ffaith ein bod, ac i gyd yn dal i fod, ar wahanol gamau o daith drawsnewidiol. Mae nifer cynyddol o enghreifftiau ysbrydoledig, sy'n dangos ymrwymiad a bwriad cydweithwyr i weithio'n agos gyda phobl â phrofiad byw, hyd yn oed os yw'r cais yn dal i fod ychydig yn anodd. Mae Expert Citizens Insight Awards yn Stoke yn dathlu ac yn dangos yr arfer gwych sydd eisoes ar gael. Roeddwn i'n ddigon ffodus i fynychu eu seremoni wobrwyo yn Neuadd y Dref ychydig o flynyddoedd yn ôl ac roedd yn achlysur ysbrydoledig gyda chyfraniad yr arloeswyr yn cael ei gydnabod yn briodol.
Creu newid gadarnhaol
Mae Fframwaith Strategol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Pobl yn Arwain, yn credu bod cymunedau’n ffynnu pan fydd pobl yn arwain, ac rydym wedi gweithio'n galed i feddwl am sut rydym yn adlewyrchu profiad o lygad y ffynnon yn ein dull.
Rydym yn dal i fod ar siwrnai ddysgu o hyd, ond rydym wedi gwneud dechrau da gydag ein Rhaglen Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon. Mae wedi ei anelu i alluogi’r rheini sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o broblemau cymdeithasol i fod yn rhan o benderfyniadau sy'n ceisio creu newid cadarnhaol i, a gydag eraill sydd hefyd wedi cael y profiadau hynny. Rydym wedi rhedeg un rownd ariannu (lle roeddem wedi gordanysgrifio'n sylweddol) ac wrth ddylunio ein gweithdrefn gwneud penderfyniadau, rydym wedi ceisio bod yn agored ac yn gynhwysol.
Mae pobl sy'n byw o fewn cymuned, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o broblem benodol ac iaith y broblem honno, yn deall yr hyn sydd ei angen yno yn well na neb. Rhan o'r hyn rydym yn ei wneud fel ariannwr yw sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.
Gweithio gyda'r arbenigwyr
Mae'r dull hwnnw'n rhywbeth yr ydym hefyd wedi ymdrechu i'w adlewyrchu yn ein rhaglen Cyflawni Bywydau , sef buddsoddiad o £112 miliwn dros wyth mlynedd i gefnogi pobl sydd ag anghenion lluosog a chymhleth. Rydym wedi sefydlu Grŵp Dinasyddion Arbenigol Cenedlaethol annibynnol i ddod â phobl ynghyd â phrofiad uniongyrchol o anghenion lluosog a chymhleth ac iaith y maes hwnnw.
Mae'r dinasyddion arbenigol hyn yn defnyddio eu gwybodaeth a'u profiadau i wella dyluniad a darpariaeth o wasanaethau a phenderfyniadau polisi ochr yn ochr ag arweinwyr a phenderfynwyr lleol. Erbyn hyn, maent wedi siarad â llawer o adrannau Llywodraeth Ganolog, yn ogystal ag awdurdodau lleol ac ymarferwyr i helpu datblygu eu meddwl. Gyda Cyflawni Bywydau, a'n mentrau strategol eraill, mae dinasyddion arbenigol yn ymwneud yn helaeth yn narpariaeth y rhaglen ac yn newid systemau ehangach. Mae Opportunity Nottingham, er enghraifft, wedi creu addewid i sefydliadau ymrwymo iddo, gan leihau stigma a chreu canlyniadau mwy effeithiol i bobl ag anghenion lluosog a chymhleth.
Yr her fawr yw, sut mae dod o hyd i fwy o fecanweithiau a symud yn gynt wrth feithrin hyder a gallu pobl â phrofiad o lygad y ffynnon i fod yn sbardun i newid, a sut rydym yn cydnabod pryd y dylem gamu'n ôl? Sut ydym yn helpu dinasyddion arbenigol i lywio systemau a all fod yn eithaf gelyniaethus ac anghyfarwydd, a sicrhau bod cyfleoedd iddynt ymarfer mewn cyd-destun prif ffrwd? Ac wrth wneud hynny, sut ydym yn newid y brif ffrwd i adlewyrchu llais ac arbenigedd ehangach? Ac, yn hanfodol, sut mae dod o hyd i ffordd effeithiol i ni i gyd symud ymlaen gyda'n gilydd a rhannu dysgiadau?
Canolbwyntio ar wasanaeth a chydweithio
Yng Nghrynodeb Gweithredol ei hadroddiad, mae Baljeet yn cynghori: “Mae angen newid sylfaenol mewn arweinyddiaeth a datblygiad sefydliadol ar draws y sector ... i'n holl gymunedau ymuno â ni a dod yn asiantau ac arweinwyr newid.”
Nid oes gennym yr holl atebion, ond wrth wraidd cymdeithas sifil mae'n rhaid bod ymrwymiad i genhadaeth a ffocws di-baid ar sut i wasanaethu'r bobl y sefydlwyd ein sefydliadau yn y ffordd orau i gefnogi, yn bennaf oll. Mae hyn wrth wraidd arweinyddiaeth hael, un o elfennau allweddol ein strategaeth Pobl yn Arwain, sydd, yn ei hanfod, yn ymwneud â chydweithio i gyflawni mwy.
Yn bwysicach oll, mae'n rhaid inni gydnabod arbenigaeth y rhai sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, ac ar bob adeg, cofio mai ni yw'r curaduron yn unig, nid yr artistiaid.