Slow Ways
Cerdded. Gweithgaredd diymffrost, ac eto'n bwerus, hefyd. Gweithgaredd sydd, yn ôl Slow Ways, yn gallu helpu i ddatrys y problemau sy'n wynebu cymdeithas: o gymunedau sy'n mynd yn ddarniog, i'r argyfwng ecolegol a hinsawdd, heriau gyda gofal iechyd ac ansicrwydd economaidd ar lefelau personol a chymdeithasol. Mae Slow Ways yn credu y gall cerdded (a mynd ar olwynion) rhwng lleoedd, yn y gymuned, fod yn hanfodol i ddatblygu a chynnal hunaniaeth a diwylliant, ac erbyn hyn mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £3 miliwn gan y Loteri Genedlaethol iddo am brosiect* trawsnewidiol a newid hirdymor a fydd yn para am saith mlynedd.
Mae Slow Ways yn fenter sydd â'r nod o greu rhwydwaith cenedlaethol o lwybrau cerdded, gan ddefnyddio llwybrau sy'n bodoli eisoes i gysylltu pob pentref, tref a dinas ar draws y DU. Diben y rhwydwaith yw ei gwneud yn haws i bobl gerdded neu feicio rhwng aneddiadau cyfagos, ac i ddychmygu, cynllunio a mynd ar deithiau cerdded. Fe'i ganwyd i wireddu cred gymharol syml: fel y dywed y Sylfaenydd a'r Prif Swyddog Fforio Daniel Raven-Ellison, "dylem i gyd allu cerdded yn weddol uniongyrchol, yn ddiogel, ac yn bleserus rhwng unrhyw ddau anheddiad cyfagos yn y wlad. Ac os na allwn wneud hynny, efallai fod rhywbeth yn mynd ychydig o'i le.”
Yn y bôn, mae Slow Ways yn ymwneud ag adeiladu seilwaith cerdded ar wahanol raddfeydd mewn ffordd sy'n dod â phobl a chymunedau at ei gilydd.
“Dylai seilwaith cerdded fod yn hyfryd," meddai Rob Bushby, Arweinydd Partneriaeth Slow Ways. “Mae seilwaith yn aml yn undonog ac yn ddiflas iawn ac yn digalonni pobl, felly sut ydych chi'n ei wneud yn gyffrous iawn ac yn rhan ddeniadol o fywydau pobl?”
Mae'r weledigaeth seilwaith hon yn ymestyn ar draws graddfeydd - o'r cenedlaethol i'r hyperleol. Mewn ystyr bendant iawn, mae'r llwybrau hyn yn "hynod bersonol", gan gysylltu "pobl leol â lleoedd lleol, cymunedau lleol," meddai Daniel.
Ac eto, nid yw'r agwedd bersonol, bersonol hon ar Slow Ways yn gwneud y prosiect yn unigolaidd - ymhell o fod. “Mae'r ffaith eich bod yn cael yr un profiad â rhywun ym mhen arall y wlad - sy'n wynebu'r un problemau, yr un materion, yr un gobaith, yr un uchelgeisiau - yn hynod o rwymol," esbonia Daniel.
Mwy na cherdded yn unig
Nid yw Slow Ways yn ymwneud â darparu mwy o lwybrau cerdded i'r rhai sy'n ymarddel fel 'cerddwyr’. Er bod y rhai sydd eisoes yn mwynhau cerdded hamdden, wrth gwrs, wedi'u cynnwys o fewn cynulleidfa Slow Ways, nid nhw yw'r ffocws o reidrwydd. Yn hytrach, mae Slow Ways yn awyddus i gynnwys y rhai nad ydynt eisoes yn teimlo eu bod yn 'gerddwyr’.
“Nid yw'n ymwneud â cherddwyr yn unig... mae'n ymwneud â cherdded," meddai Bushby, gan nodi mai gweledigaeth Slow Ways yw creu seilwaith ar gyfer cerdded y gall pobl ei integreiddio â'u bywydau bob dydd a gweithgareddau sy'n bodoli eisoes - fel dod ynghyd ar gyfer grŵp gwau.
Mae ecosystem amrywiol o grwpiau yn esblygu o amgylch datblygu'r rhwydwaith o lwybrau cerdded ei hun. Mae tua 800, gan gynnwys grwpiau ail-greu hanesyddol a'r Sgowtiaid, wedi cofrestru ledled y wlad i helpu i fapio ac adolygu llwybrau Slow Ways. Mae pymtheg o gynghorau tref a phlwyf (hyd yma) wedi rhoi cefnogaeth ffurfiol i'r prosiect mewn gwahanol ffyrdd.
Er gwaethaf cyfoeth y diddordeb hwn, mae digon o le i ehangu'r ecosystem, yn enwedig drwy gysylltiadau â "wynebau anarferol", fel y mae Rob yn ei roi. Mae'n cydnabod pwysigrwydd meithrin yr amrywiaeth hon, yn ogystal â'r her, o ran sut mae pobl yn defnyddio Slow Ways (er enghraifft, i gyrraedd gemau pêl-droed), ac o ran pa mor gyfforddus a faint o groeso sydd i bobl i'w defnyddio - yn enwedig mewn perthynas â ffactorau fel dosbarth cymdeithasol, treftadaeth ethnig a diwylliannol, cenedligrwydd, gallu neu anabledd, mynediad i'r byd digidol, ac oedran.
“Nid yw'r bobl sy'n defnyddio llwybrau o amgylch y wlad yn adlewyrchu amrywiaeth Prydain," meddai Daniel. “Nid yn unig y mae hynny'n cael effaith ar eu cyfleoedd... ond mewn gwirionedd mae'n cael effaith ar ba mor llwyddiannus y gall Slow Ways fod wrth ddarparu rhwydwaith llwyddiannus; nid ydym yn mynd i elwa o'u profiadau, eu harweinyddiaeth, eu straeon, i wneud i'r hyn yr ydym yn ei wneud ffynnu'n wirioneddol.”
Er enghraifft, mae Slow Ways yn ceisio gweithio gyda phobl sydd â gofynion symudedd amrywiol a sefydliadau cysylltiedig i ddeall a rhannu pa rannau o'r dirwedd sy'n hygyrch i bwy, er mwyn cyd-greu llwybrau'n well.
Y Llwybr at Lwyddiant
Dechreuodd Slow Ways yn ystod y cyfnod clo COVID-19 cyntaf, pan gyfrannodd 700 o wirfoddolwyr werth blwyddyn o wirfoddoli dros gyfnod o un mis i greu 7,000 o lwybrau, sy'n ymestyn dros 100,000 cilomedr. Cam nesaf y daith yn awr yw adolygu pob llwybr o ran pa mor uniongyrchol y mae, diogelwch, mynediad a phleser.
Unwaith y bydd y rhwydwaith wedi'i adolygu'n llwyr, bydd y pwyslais yn symud i un o adeiladu naratif, gan ganolbwyntio ar wneud y rhwydwaith yn rhan o ddychymyg y cyhoedd.
“Rydyn ni eisiau cael miliynau o bobl i gerdded y llwybrau hyn," meddai Daniel. “Byddant yn cael eu sefydlu yn ein diwylliant ond byddant hefyd yn hunangynhaliol oherwydd byddant yn mynd yn rhan o'n disgwyliad o sut y gallwn symud o gwmpas. Mewn dyfodol lle bydd pobl, gobeithio, yn gyrru llai... mewn gwirionedd gallai fynd yn un o'r prif ddulliau y mae pobl yn meddwl amdano symud o gwmpas y wlad.”
Cred Slow Ways y gallai'r fethodoleg y maent wedi'i datblygu hefyd weithio ar draws daearyddiaethau eraill - Iwerddon a Gogledd Iwerddon sydd nesaf mewn golwg - a mathau eraill o drafnidiaeth, megis hwylio.
Nid oes unrhyw daith heb ei heriau, serch hynny, ac nid yw Slow Ways yn wahanol. Dywed Rob y bydd angen cydbwyso'r gwaith o annog ymgysylltu mor eang â phosib gan gymunedau ledled y DU, ac ar yr un pryd cynnal uniondeb y cysyniad. Mae Rob yn gobeithio y gellir sicrhau'r cydbwysedd hwn drwy gynnal symlrwydd y cysyniad Slow Ways wrth iddo ddatblygu - gan gadw ymrwymiad i fod yn agored ac yn hygyrch o safbwynt democrataidd ochr yn ochr â'i egwyddorion a'i gymhellion arweiniol.
Cerdded gyda'n gilydd
Yn y bôn, mae'r tîm Slow Ways yn cydnabod na allant gyflawni eu huchelgeisiau ar eu pennau eu hunain. Yn gyntaf, mae angen i bobl gerdded y llwybrau - i'w hadolygu a'u harolygu, ond hefyd i'w defnyddio i fynd o un lle i'r llall.
“Os bydd pobl yn cerdded llwybrau Slow Ways ac yn eu mwynhau, yna rydyn ni wedi llwyddo," meddai Daniel.
Yn ail, esbonia Daniel, mae angen mwy o bartneriaethau i helpu Slow Ways i ymwreiddio cerdded fel opsiwn trafnidiaeth yn nychymyg y gymuned. Rydym hefyd am integreiddio'r data a grëwyd i lwyfannau cludiant a mapio eraill mewn ffyrdd cydweithredol a blaengar.
“Y mwyafrif llethol o'n cynulleidfa yn y dyfodol fydd pobl sydd heb glywed am Slow Ways hyd yn oed," meddai Daniel.
“Efallai ei fod yn ymddangos yn eofn, ond mae'n rhywbeth oedd gennym cyn i ni gael ffyrdd i gerbydau fynd arnynt," meddai. “Mae gennym rwydwaith beicio cenedlaethol, mae gennym rwydwaith ffyrdd cenedlaethol, mae gennym rwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol - pam nad oes gennym rwydwaith cerdded cenedlaethol?”
Gallwch edrych ar wefan Slow Ways yma, neu gadw i fyny â'r daith trwy eu dilyn ar Instagram neu Twitter. Os hoffech chi ymuno yn y daith drwy gerdded, adolygu neu arolygu llwybrau, gallwch gofrestru yma.
* Cyllid wedi'i gadarnhau am dair blynedd, gyda chyllid ar ôl hyn i'w gytuno gyda Phwyllgor Ariannu'r DU.
Credydau llun:
Henry Iddon
Nico Hambleton / Slow Ways