Mewnwelediadau a gwersi o'r Gronfa Ddigidol
Heddiw rydym yn falch o fod yn cyhoeddi adroddiad newydd o’n Cronfa Ddigidol, sydd wedi'i ysgrifennu gyda'n partneriaid cymorth, CAST, DOT PROJECT a Shift, ac sy'n rhannu mewnwelediadau a dysgeidiaethau gan ein deiliaid grantiau. P'un a ydych chi’n gweithio mewn ariannu, elusen neu grŵp cymunedol, neu gwmni technoleg, rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn darparu argymhellion, mewnwelediadau ac arsylwadau gwerthfawr sy'n helpu i ddeall yr hyn sy'n bosibl o ran technoleg, digidol a data, yn enwedig o fewn cymdeithas sifil.
Yr angen
Yn 2018, fe wnaethom gydnabod yr angen i fod yn 'ariannwr mwy synhwyrol yn ddigidol', o ran sut rydym yn gweithio a'r grantiau rydyn ni’n eu gwneud. Er ein bod yn gwybod bod ein grantiau Loteri Genedlaethol eisoes yn cefnogi llawer o bobl a chymunedau i ffynnu yn yr oes ddigidol, nid oeddem yn gwybod llawer am yr hyn yr oedd ei angen ar y sector mewn gwirionedd o ran cymorth digidol, y cyd-destun ehangach a beth oedd y cyfleoedd. Fodd bynnag, roeddem yn gwybod bod anghenion, ymddygiad a disgwyliadau pobl yn newid, a bod angen i sefydliadau cymdeithas sifil addasu i barhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.
Sefydlu'r Gronfa Ddigidol
Un ffordd yr oeddem yn bwriadu dysgu mwy a gwella yn y maes hwn oedd drwy sefydlu Cronfa Ddigidol newydd. Ym mis Hydref 2018, ar ôl cyfnod o ymchwil i ddefnyddwyr, fe wnaethom ddylunio ac agor y cylch ariannu cyntaf, a oedd â dwy elfen ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau. Yn y bôn, roedd gennym ddiddordeb mewn ariannu sefydliadau i drawsnewid y ffordd maen nhw’n gweithio a'r rhesymau maen nhw’n bodoli, i fod yn addas ar gyfer yr amgylchedd newydd a newidiol hwn yn barhaus. Cawsom y swm syfrdanol o 1,197 o geisiadau ac erbyn mis Hydref 2019 roeddem wedi gwneud rhai penderfyniadau anodd ac wedi dyfarnu 29 o grantiau gwerth cyfanswm o £12.41 miliwn i amrywiaeth o sefydliadau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn ogystal ag arian grant, darparwyd partneriaid cymorth penodol hefyd, gan roi mynediad i'r rhai sy’n derbyn grantiau at gymorth hyfforddi, mentora, arbenigedd technegol, ymchwil a dylunio drwy gydol blwyddyn gyntaf eu grant. Cyflawnwyd hyn gan rwydwaith o bartneriaid cymorth, gan gynnwys CAST, DOT PROJECT a Shift.
Yn ogystal ag ariannu prosiectau gwych, cynlluniwyd y gronfa hon, yn rhannol, i gasglu gwersi a mewnwelediadau a allai helpu'r Gronfa, a'r sector ehangach, i ddod yn well gwneuthurwyr grantiau digidol. Roedd hefyd yn anelu at helpu i gyfeirio'r sector drwy rannu gwersi a mewnwelediadau sy'n dangos yr hyn sy'n bosibl o ran technoleg, digidol a data. Oherwydd y tu hwnt i gryfhau galluoedd digidol cymdeithas sifil, roedd gan y Gronfa Ddigidol hefyd fwriad i helpu i lunio'r sector, a darparu dysgu a chyfeiriad, naratifau newydd a dealltwriaeth newydd o'r hyn mae digidol yn ei olygu i gymdeithas sifil. I wneud hyn, buom yn gweithio'n agos gyda'r partneriaid cymorth ar ddechrau'r rhaglen i fapio rhagdybiaethau a chynllunio cwestiynau a fyddai'n llywio'r broses ddysgu hon.
Gwersi a mewnwelediadau
Mae ein hadroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn rhannu mewnwelediadau, argymhellion a myfyrdodau mewn ateb i'n cwestiynau dysgu gwreiddiol o'r 29 grant cyntaf hynny, a gynlluniwyd o amgylch ein rhagdybiaethau cynnar. Yn yr adroddiad, mae'r partneriaid cymorth yn manylu ar rai mewnwelediadau allweddol o weithio gyda deiliaid grantiau, gan ddangos, er enghraifft, sut:
- Mae diwylliant o onestrwydd, ymddiriedaeth a bod yn agored yn chwarae rhan sylfaenol o ran galluogi cynnydd sefydliadol mewn meddwl ac ymarfer digidol
- Mae diffyg eglurder a chonsensws o'r hyn mae 'digidol' yn ei olygu o fewn sefydliad yn arwain at ddisgwyliadau a blaenoriaethau wedi'u camosod, yn enwedig o ran gwahanol fathau a ffurfiau o ddulliau digidol, data a dylunio
- Mae gwybod beth i ganolbwyntio arno a phryd yn her gyffredin i sefydliadau sy'n dechrau ar newid digidol a'r rhai sy'n ceisio eu cefnogi
Wedi’u cynnwys hefyd mae argymhellion ar gyfer ariannu newid a chynnydd drwy ffynonellau digidol, yn ogystal â mewnwelediadau allweddol i amodau ar gyfer llywio newid digidol, sut mae hyn yn ymwneud ag ariannu a chomisiynu eraill mae'r Gronfa wedi'i wneud ers hynny, a chyfleoedd yn y dyfodol. Mae'r adroddiad wedi'i ysgrifennu o lais cyfunol y partneriaid cymorth a thîm y Gronfa Ddigidol ac mae'n seiliedig ar fyfyrdodau dysgu o fis Rhagfyr 2020. Er bod consensws, mae rhai adrannau lle mae gan bartneriaid cymorth safbwyntiau gwahanol i'w gilydd, er enghraifft mae CAST a DOT PROJECT yn cymryd ymagwedd wahanol at gerrig milltir lefel uchel ar gyfer newid sefydliadol drwy ffynonellau digidol. Drwy rannu'r ddau farn, gobeithiwn y gall eraill fabwysiadu'r dull maen nhw’n teimlo sy'n iawn ar gyfer eu prosiect neu eu sefydliad.
COVID-19
Ar ddechrau'r rhaglen hon, ni allai neb fod wedi rhagweld i ba raddau y byddai'r byd yn newid a pha mor gyflym y byddai'r amgylcheddau yr oeddem yn gweithio ynddynt yn cael eu creu o'r newydd. Ers hynny, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, mae deiliaid grantiau wedi defnyddio eu grantiau i'w helpu i fynd drwy gyfnodau sylweddol o newid sefydliadol ac i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith eu gwasanaethau digidol. Fodd bynnag, roedd y cyd-destun mae'r gwaith hwn wedi digwydd ynddo yn gwbl annisgwyl, gyda'r angen i drawsnewid y ffordd maen nhw’n gweithio er mwyn addasu'n barhaus, yn bwysicach nag erioed. Gyda llawer yn dechrau eu grantiau ychydig fisoedd yn unig cyn i COVID-19 gyrraedd, mae eu teithiau wedi edrych yn wahanol iawn i'r disgwyl a phrofwyd ein bwriadau fel cyllidwyr a phartneriaid cymorth.
P'un a ydych yn gweithio ym maes ariannu, elusen, cwmni technoleg neu'n aelod o'r gymuned sydd â diddordeb yn unig, rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi cipolwg perthnasol ar deithiau digidol y sefydliadau hyn ac argymhellion defnyddiol ar gyfer eich gwaith eich hun. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ukportfolioteam@tnlcommunityfund.org.uk