Gweithgareddau SEAS Sailability yn gwella lles pobl anabl a'u teuluoedd
Mae SEAS Sailability yn elusen ar gyfer pobl anabl, eu gofalwyr a'u teuluoedd yng ngogledd Cymru, wedi'i lleoli yng Nghanolfan Conwy ar Afon Menai ym Môn.
Dyfarnwyd grant Loteri Genedlaethol o £10,000 iddyn nhw i gynnal rhaglen o weithgareddau cychod a hwylio dros haf 2021, i bobl anabl a'u teuluoedd rannu profiadau a gwella lles.
Buom yn siarad â Richard Horovitz, Cyfarwyddwr SEAS Sailability, a ddywedodd fwy wrthyn ni am yr elusen a'u gwaith.
Sut y ganwyd SEAS Sailability
"Adeiladwyd SEAS ar brofiadau pwerus fy hun a Jon Gamon (Cyfarwyddwr Technegol SEAS) wrth weithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan ddarparu cyfleuster tebyg i bersonél y lluoedd arfog sy'n dychwelyd o barth gwrthweithio Afghanistan, gan eu galluogi i ailgysylltu a bondio â'u partneriaid a'u plant.
Gwelson ni fod profi antur hwylio wedi’ rannu gyda'i gilydd mewn amgylchedd naturiol yn tynnu'r teuluoedd at ei gilydd, gan ryddhau tensiynau a chreu cwlwm o ymddiriedaeth. Yn seiliedig ar y profiad o sut y gwnaeth plant teuluoedd y lluoedd gwasanaeth elwa, gwnaethon ni hefyd gynnal diwrnod pwrpasol ar gyfer Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru.
Yn 2017, dechreuodd SEAS Sailability ddarparu'r profiad hwn i bobl anabl, eu teuluoedd a'u gofalwyr yng ngogledd Cymru, i'w galluogi i gysylltu a bondio, ac i wella ansawdd bywyd pob un ohonyn nhw. Roedd yr adborth gan yr holl fynychwyr yn ardderchog. Roedd hyn yn arbennig o wir am blant yn nheulu person anabl gan eu bod yn aml yn cyflawni rôl gofalwr ar gyfer rhiant neu frawd neu chwaer anabl – weithiau fel yr unig ofalwr. Mae eu hymdeimlad o gyflawni wrth gael antur gydag aelod anabl o'r teulu yn braf iawn i weld.
Lledaenodd y gair yn gyflym. Tyfodd SEAS Sailability o 40 o bobl anabl, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn hwylio yn 2017, i 938 o brofiadau hwylio unigol yn 2019, i gyd wedi'u trefnu a'u goruchwylio gan wirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi ac yn gymwys iawn, ac ar y cyd â nifer o elusennau lleol a Gwasanaeth Allgymorth Gofalwyr gogledd-orllewin Cymru.
Pam SEAS Sailability?
Mae SEAS yn sefyll am Supporting Enabling Accessible Sailing, a Sailability yw term cydnabyddedig Cymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) ar gyfer hwylio i'r anabl. Yn 2019 enillodd yr elusen wobr #MoreThanSailing RYA yng Nghynhadledd Genedlaethol Sailability.
Gweithgareddau hygyrch yn rhoi cyffro, antur a llawenydd
Mae SEAS Sailability yn cefnogi ac yn galluogi pobl anabl o unrhyw radd o anabledd ac o unrhyw oedran, ac yn bwysig eu teulu a'u gofalwyr, i rannu profiadau a chael hwyl gyda'i gilydd yn ddiogel ar y dŵr - mewn cychod hwylio, cychod pŵer, kayaks, canŵs ac ar rafftiau y maen nhw yn eu hadeiladu eu hunain. Rydyn ni’n codi arian i brynu offer arbenigol sy'n gwneud anturiaethau'n hygyrch. Nid oedd pobl anabl yn gallu profi'r anturiaethau hyn gyda’u teulu a'u gofalwyr cyn hyn.
Ni ellir gorbwysleisio manteision gweithgareddau ac anturiaethau o'r fath. Mae pawb yn ymlacio, mae lefelau gorbryder yn lleihau'n sylweddol, mae tensiynau o fewn teuluoedd yn lleihau ac mae ymdeimlad mawr o gyflawniad a gwydnwch gwell, sydd i gyd yn cyfrannu at wneud bywyd yn llawer haws i bawb sy'n cymryd rhan. Mae'r holl gyfranogwyr yn rhoi adborth sy’n canmol gwerth y gweithgareddau i’r cymylau. Mae plant yn nheulu person anabl yn arbennig yn elwa o leddfu gorbryder yn eu swigen deuluol.
Mae'r bobl anabl, eu teuluoedd a'u gofalwyr, a phlant o fewn y teuluoedd hynny, wedi bod dan anfantais ddifrifol oherwydd eu bod yn agored iawn i COVID-19, a chan fod chyfleusterau cymorth wedi bod ar gau. Mae'r plant wedi bod dan anfantais arbennig, gan ychwanegu at y pwysau oedd arnyn nhw eisoes bob dydd heb seibiant. Rydyn ni’n rhoi’r seibiant hwnnw iddyn nhw gyda chyffro, antur, a'r llawenydd sydd i'w weld ym mhob llun SEAS .”
“Ar y cwch, roedd fy nghalon yn llawn ac roeddwn i'n teimlo'n lwcus i fod yn fyw.”
Meddai Caren Parry, a drefnodd i drigolion Cartref Sir Gaer Ethinog fynychu sesiwn yn SEAS Sailability dros yr haf, "Roedd yn noson hyfryd ac roedd y trigolion a'r staff yn mwynhau treulio amser gyda'i gilydd. Rydyn ni mor ddiolchgar am y cyfle i brofi'r pleser a'r wefr o fod ar y dŵr.”
Rhannodd Caren hefyd sut roedd y sesiynau'n gwneud i rai o'r preswylwyr deimlo:
- Dywedodd PH mai dyma'r peth gorau y mae erioed wedi'i wneud - roedd yn teimlo mor rhydd ag aderyn.
- Dywedodd LK fod ei chalon yn llawn pan oedd hi ar y cwch, a'i bod yn teimlo'n lwcus i fod yn fyw.
- Daeth tad AS gydag ef a dywedodd mai dyma'r amser gorau iddo dreulio gyda'i fab ers blynyddoedd lawer.
- Dywedodd BT ei bod wedi anghofio y gallai gael hwyl ac anghofio am ei hanabledd.
- Mae NLW yn mynegi ei hapusrwydd drwy neidio ac roedd y cwch yn siglo!
- Dywedodd RJ ei fod wedi dod ag atgofion anhygoel yn ôl ac nad oedd byth yn meddwl y byddai'n gallu gwneud hyn eto.
Dywedodd Cadeirydd Mencap Môn, Dot Gallagher, "O'r holl weithgareddau, SEAS Sailability y mae pawb yn edrych ymlaen ato fwyaf, a dyma'r un sy'n cael yr effaith fwyaf buddiol ar les aelodau a'u gofalwyr."
Mwy am SEAS Sailability yma.
Ymgeisio am grant Loteri Genedlaethol
Mae Richard yn annog mwy o grwpiau i wneud cais am arian gan y Loteri Genedlaethol:
"Roedd gwneud cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn broses syml iawn. Daethon nhw’n ôl aton ni gydag ychydig o gwestiynau am ein cais a gofynnwyd am eglurhad ar rai manylion, a oedd yn wych. Peidiwch â phoeni am gael pob mân fanylyn i mewn - os oes angen mwy, byddan nhw’n gofyn amdano. Fyddan nhw ddim yn gwrthod y cais. Maen nhw'n bobl wych i weithio gyda nhw. Peidiwch â phoeni am ymgeisio - gwnewch gais!"
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Dysgwch fwy am arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.