Taflu goleuni ar Ysbryd Cymunedol ar gyfer dathliadau'r Jiwbilî Platinwm
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno nifer o fentrau i alluogi cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i gymryd rhan mewn dathliadau sy'n nodi teyrnasiad hanesyddol Ei Mawrhydi Y Frenhines.
Mae'r Jiwbilî Platinwm yn achlysur pwysig sy'n rhoi cyfle i daflu goleuni ar ysbryd cymunedol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd pobl ledled y DU yn gallu dod at ei gilydd i ddathlu, meithrin perthnasoedd, a chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
I nodi hyn, mae Cronfa'r Jiwbilî Platinwm wedi'i lansio i alluogi cymunedau ledled y DU i gael mynediad at gyfran o £3.5 miliwn gyda'r nod o gefnogi dathliadau ledled y DU.
Gwyliwch y fideo hwn wrth i'n Cadeirydd Blondel Cluff agor ein Cronfa Jiwbilî Platinwm i geisiadau.
Yn ogystal â'r Gronfa Jiwbilî Platinwm, bydd grantiau o hyd at £10,000 o raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol - sy'n dyfarnu bron i £80 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol ym mhob rhan o'r DU bob blwyddyn - ar gael ar gyfer digwyddiadau a arweinir gan y gymuned trwy gydol 2022.
Bydd penwythnos y Jiwbilî Platinwm hefyd yn cael ei ddathlu gyda'r Cinio Mawr Jiwbilî ddydd Sadwrn 5 Mehefin 2022. Gyda chefnogaeth £2.3miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, bydd y fersiwn hon o ddigwyddiad blynyddol Y Cinio Mawr, sy'n canolbwyntio eleni ar y Jiwbilî, yn gweld pobl o bob rhan o'r DU yn dod ynghyd i gynnal miloedd o Giniawau Mawr, gan roi'r cyfle iddynt nodi'r digwyddiad coffa wrth adeiladu cysylltiadau o fewn eu cymuned.
Cronfa'r Jiwbilî Platinwm - 70 o Brosiectau Enghreifftiol
Mae blwyddyn y Jiwbilî Platinwm yn nodi 70 mlynedd o deyrnasiad y Frenhines Elizabeth II, sef y teyrnasiad hiraf erioed ac am y rheswm hwnnw yn unig mae'n arwyddocaol. I nodi'r achlysur, bydd y Gronfa Jiwbilî Platinwm yn dyfarnu grantiau o £30k- £50k i 70 o brosiectau enghreifftiol ledled y DU sy'n canolbwyntio ar dri maes:
- Pontio'r Cenedlaethau a Phobl Ifanc - Cryfhau perthnasoedd rhwng cenedlaethau a chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
- Adnewyddu Cymunedol - Cefnogi cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn eu cymuned leol, ynghyd â chyfleoedd i ddod â phobl ynghyd mewn ffyrdd newydd, ac mewn lleoedd a gofodau newydd neu wahanol
- Ein Byd Naturiol a Rennir - Dyfnhau ein gofal a'n gweithredoedd yn lleol ar gyfer y byd naturiol.
Er mwyn eich helpu i ddeall sut olwg allai fod ar brosiect enghreifftiol, rydym wedi darparu rhai enghreifftiau isod. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac rydym yn eich annog i edrych ar y wefan a'n meini prawf cymhwysedd cyn i chi wneud cais. Ar draws yr holl brosiectau byddwn yn edrych am y rhai:
- Sy'n cael eu harwain gan bobl ifanc ac yn eu hymgorffori
- Sy'n greadigol ac yn wreiddiol
- Sydd â chyrhaeddiad eang - rydyn ni am i bawb fod yn rhan o flwyddyn y Jiwbilî hon a chael ffyrdd i gymryd rhan
Pontio'r Cenedlaethau a Phobl Ifanc
Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fod yn edrych i'r dyfodol i greu gwell yfory i'r cenedlaethau iau. Mae gennym ddiddordeb mewn prosiectau sy'n cryfhau perthnasoedd rhwng cenedlaethau ac yn creu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol gan ddefnyddio'r Jiwbilî fel man cychwyn ar gyfer hyn.
Gallai hyn gynnwys prosiectau sydd -
- Yn cynnig gweithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau
- Wedi cael eu cyd-greu gan bobl ifanc a phobl hŷn
- Yn creu rhywbeth newydd yn y gymuned a fydd yn para
- Yn sefydlu buddsoddiad tymor hir yn y gymuned
- Yn gwella'r gymuned mewn ffyrdd sy'n sicrhau ei bod yn well ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
- Yn creu etifeddiaeth hynod weladwy ar gyfer y Jiwbilî
- Â ffocws ar y dyfodol.
Adnewyddu Cymunedol
Mae angen i gymunedau fod ar flaen y gad wrth ddatblygu datrysiadau a newidiadau sy'n eu galluogi i ffynnu. Rydym yn edrych am brosiectau sy'n creu cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn eu cymuned leol
Gallai hyn gynnwys prosiectau sydd -
- Yn defnyddio mannau a lleoedd lleol ac yn eu hadfywio
- Yn cynnig cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer gweithredu ar y cyd
- Yn bwrw had busnes cymunedol lleol newydd neu bartneriaethau lleol
- Yn cefnogi pobl yn y gymuned i ddatblygu sgiliau newydd a darparu cyfleoedd gwirfoddoli newydd.
Ein Byd Naturiol a Rennir
Rydym yn gwybod bod gofalu am ein byd naturiol a rennir yn bwysig i gymunedau ledled y wlad. Rydyn ni eisiau cefnogi pobl i ddod at ei gilydd a dyfnhau eu gofal a'u gweithredoedd yn lleol dros y byd naturiol.
Gallai hyn gynnwys prosiectau megis -
- Cynlluniau aer glân cymunedol
- Prosiectau tyfu cymunedol
- Mentrau pobl ifanc ym maes natur, ail-wylltio, cadwraeth, hinsawdd, yr amgylchedd ac ati.
- Gwasanaethau cymunedol ‘gwyrdd’ newydd
- Partneriaethau gyda ffermydd a thyfwyr lleol i gefnogi systemau iechyd cymunedol
Dros y 70 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld newid mor gyflym yn ein cymunedau ac ni fydd y 70 mlynedd nesaf yn ddim gwahanol. Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd cymunedau yn ei wneud i nodi'r Jiwbilî Platinwm a beth fydd yr etifeddiaeth honno am y 70 mlynedd nesaf wrth i ni ymateb ar y cyd i'r heriau sy'n ein hwynebu.
Gallwch ddarganfod mwy am Gronfa'r Jiwbilî Platinwm YMA