Menywod du mewn menter
“Rydyn ni i gyd yn cael amheuon wrth ddechrau rhywbeth newydd!” Mae Kim Mamhende o’r Centre for African Entrepreneurship yn siarad am fenywod du mewn menter
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rydym am amlygu’r menywod eithriadol sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned.
Mae’r Centre for African Entrepreneurship, a elwir yn CAE, yn ysbrydoli ac yn cefnogi cymunedau ethnig i lwyddo drwy fenter. Mae’r sefydliad wedi cael ei gefnogi gan grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Siaradom â’u rheolwr datblygu busnes Kimberley Mamhende, a ddisgrifir fel y “grym gweithredol y tu ôl i gymaint o bethau sydd wedi bod yn digwydd yn y Centre for African Entrepreneurship dros y blynyddoedd” gan ei chydweithiwr, Victoria Ucele. Mae Kim yn rhan ganolog o’r system gefnogaeth sydd ar waith i helpu meithrin a datblygu entrepreneuriaid benywaidd ifanc.
Mae Kim yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i fenywod ifanc, yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd ethnig, i gael sgiliau menter, gan egluro “Mae sgiliau entrepreneuraidd yn llwybr i annibyniaeth. Mae dechrau busnes eich hun yn ddewis arall i fenywod nad yw eu bywydau’n addas ar gyfer swydd 9-5 arferol”.
Er hynny, mae Kim yn cyfaddef nad yw bod yn annibynnol yn ariannol yn hawdd a gall bod yn berchennog busnes fod yn le unig. Mae’r gwaith a wneir yn y CAE yn ceisio mynd i’r afael â’r problemau hyn. Mae prosiectau fel y Youth Entrepreneurship Network, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn creu lle i entrepreneuriaid ifanc gefnogi ei gilydd ar eu taith.
Mae Kim yn egluro “Un o’r rhwystrau mwyaf sy’n atal menywod rhag dechrau busnes eu hunain yw hyder. Rydyn ni i gyd yn cael y teimlad hwnnw o amheuaeth wrth ddechrau rhywbeth newydd, ond mae cael y rhwydwaith cefnogol hwnnw o’ch amgylch yn eich helpu i oresgyn yr amheuaeth honno ac yn eich gwthio i fod y gorau y gallwch”.
Mae Kim yn siarad am bwysigrwydd cael model rôl, nid yn unig fel rhywun i’w hedmygu o bell ond fel rhywun sydd wedi cyrraedd y brig ac yn gallu helpu’r rhai hynny sy’n dilyn ei llwybr. Aeth Kim â’r syniad hwn gam ymhellach gan drefnu cyfarfod rhwng 10 menyw ifanc o’r CAE a’r fenyw ddu fwyaf cyfoethog ym Mhrydain - Valerie Moran.
Ar ôl gweld erthygl am y ‘Rich List’ blynyddol yn The Sunday Times, lle Valerie oedd y fenyw ddu gyntaf yn y 1,000 o bobl fwyaf cyfoethog ym Mhrydain, teimlodd Kim wedi’i hysbrydoli i gysylltu â hi. I’w syndod llwyr, atebodd Valerie a dywedodd y byddai wrth ei bodd i gyfarfod â rhai o’r menywod ifanc o’r CAE. Trefnodd Kim daith i Lundain i gyfarfod â Valerie. Roedd hwn yn gyfle prin iawn i glywed stori Valerie a chael cyngor am sut i lywio’r byd busnes.
Un o’r menywod ifanc a oedd wedi’i hysbrydoli gan y cyfarfod hwnnw oedd Youmna Mohamed (yn y llun, uwchben y dde). Mae Youmna wedi sefydlu busnes ei hun o’r enw Nyfasi, gyda’i chynnyrch cyntaf o’r enw The Deluxe Detangler, crib datglymu ar gyfer gwallt affro y mae hi wedi’i datblygu a’i phrofi. Mae Nyfasi bellach wedi ennill sawl gwobr ac wedi derbyn buddsoddiad gan Valerie Moran.
Mae’r effaith y mae Kim wedi’i chael, nid yn unig ar Youmna, ond ar nifer o’r menywod ifanc yn y CAE, yn glir i’w gweld ac mae’n dystiolaeth i’r gwaith y mae Kim yn parhau i’w wneud.
Derbyniodd The Centre for African Entrepreneurship £198,600 o arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i ddarparu cefnogaeth lles a chyflogadwyedd i ffoaduriaid a chymunedau ethnig yn Abertawe a’r cyffiniau. Oherwydd COVID-19, mae’r gymuned wedi dioddef colled o ran enillion, mwy o ynysu a phroblemau iechyd meddwl a lles. Yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd CAE yn helpu datblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gwaith, helpu wrth chwilio a pharatoi ar gyfer swyddi ac yn gweithio â chyflogwyr i leoli a chefnogi pobl i weithio.