Cefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu
Mae Dr Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd ein Pwyllgor Cymru, yn adrodd yn ôl am ganlyniad ein hymgynghoriad diweddar â chymunedau Cymraeg i ddysgu sut y gall cyllid y Loteri Genedlaethol eu cefnogi i ffynnu yn y dyfodol a diweddaru ein cynlluniau ar gyfer eleni.
Cynhaliwyd ymgynghoriad eang gennym â chymunedau a sefydliadau ledled Cymru i’n helpu i ddeall sut y gallwn ni ddefnyddio’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu cefnogi cymunedau. Wrth i ni ddod allan o’r hyn y gobeithiwn yw gwaethaf pandemig COVID-19, rydym am edrych i’r dyfodol i ddeall sut y gall Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl.
Trwy ein harolwg cynhwysfawr, grwpiau ffocws cyhoeddus, trafodaethau a chyfarfodydd bord gron, rydym wedi creu darlun o anghenion ledled Cymru a gallwn ddweud, yn bendant, bod nifer ohonynt ac maen nhw’n amrywiol. Mae graddfa’r anghenion hyn yn ei gwneud hi’n heriol iawn i flaenoriaethu themâu penodol lle y gall cyllid y Loteri Genedlaethol gael effaith. Mae COVID wedi gwaethygu problemau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli ac wedi peri i rai newydd godi. Mae angen i ni wneud rhagor o waith i ddeall yr heriau hyn yn well, a deall sut y maen nhw’n effeithio ar ei gilydd. Gan ystyried yr hyn yr ydych wedi’i ddweud wrthym, bydd yr amgylchedd yn parhau i fod wrth graidd ein blaenoriaethau oherwydd bod hyn yn flaenoriaeth i chi yn ogystal â ni. Yn ogystal ag adeiladu ar ein blaenoriaethau presennol o ddigartrefedd, iechyd meddwl a phobl ifanc, rydym wedi adnabod pum thema yr ydym yn bwriadu eu harchwilio’n fanylach dros y flwyddyn nesaf:
- Tlodi, gwytnwch ariannol a chostau byw
- Cymunedau: capasiti, cydlyniad a mannau diogel
- Iechyd meddwl, unigrwydd ac ynysu
- Plant: problemau, heriau ac anghenion
- Lles ac atal
Byddwn ni’n edrych ar y themâu hyn yn fanwl i amlygu’r gwahaniaeth posibl y gallem ei wneud ym mhob achos a rhoi gwybod i chi’r hyn yr ydym yn bwriadu ei flaenoriaethu’n gynnar y flwyddyn nesaf. Byddwn ni’n alinio’r gwaith hwn gan edrych yn ehangach ar flaenoriaethau a strategaeth y Gronfa ledled y DU, y byddwch chi’n clywed rhagor amdano’n fuan iawn.
Nid yw hyn yn golygu na fyddwn ni’n gwneud unrhyw beth, byddwn ni’n parhau i gefnogi cymunedau ledled Cymru drwy gydol 2022.
Rydym yn ymrwymo i gynnal rhaglenni ariannu sydd ar agor ar y cyd ag unrhyw raglenni ariannu thematig yr ydym yn eu datblygu. Bydd Pawb a’i Le ac Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn parhau i fod ar agor i geisiadau i roi hyblygrwydd ac adnoddau i gymunedau ymateb i’r heriau a’r blaenoriaethau sy’n bwysig iddyn nhw. Byddan nhw’n parhau i gefnogi cymunedau i ailgysylltu yn dilyn y cyfnod clo ac yn eu cefnogi i addasu ac arallgyfeirio i’w wneud yn fwy gwydn.
Mae’r galw am y ddwy raglen wedi bod yn uchel, ac rydym yn disgwyl i hyn barhau. Felly, rydym wedi cynyddu cyllideb Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i £6 miliwn (+£500,000) a Phawb a’i Le i £23 miliwn (+£3 miliwn).
Rydym hefyd wedi penderfynu cynnal rownd ariannu arall trwy ein rhaglen Taclo Digartrefedd. Yn ogystal â’r £8.3 miliwn yr ydym wedi’i ddyfarnu eisoes, byddwn ni’n cynnig £3 miliwn ychwanegol i helpu cefnogi partneriaethau sy’n dymuno taclo digartrefedd mewn mannau gwledig yng Nghymru.
Rydym hefyd yn cadw’n brysur gyda’n menter Camau Cynaliadwy Cymru. Bydd y gyfres hon o raglenni grant yn defnyddio arian o’r Cynllun Cyfrifon Segur i gefnogi cymunedau i gyfrannu at ddyfodol llewyrchus, carbon isel i Gymru a fydd yn cyrraedd grwpiau newydd sydd am weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol mewn economi werdd carbon isel.
Wrth siarad am bobl ifanc, mae Panel Pobl Ifanc yn Arwain ein hunain wedi bod yn hanfodol wrth ddylunio a gwneud penderfyniadau am ein rhaglen Meddwl Ymlaen dros y flwyddyn ddiwethaf. Wrth i ni symud ymlaen, byddwn ni’n parhau ein gwaith gyda nhw, gan edrych ar sut y gallan nhw gefnogi gwaith y Gronfa yng Nghymru’n fwy hirdymor.
Un o’r blaenoriaethau eraill eleni yw creu rhagor o gyfleoedd i gynnull ein deiliaid grant er mwyn iddyn nhw ddysgu o brofiadau ei gilydd a dangos y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau. Rydym hefyd eisiau gwneud rhagor i ddangos yr effaith y mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn ei chael ledled Cymru drwy adrodd rhagor o’r straeon hynny i’n rhanddeiliaid i hysbysu eu gwaith hefyd.
Fel arfer, mae’n golygu bod blwyddyn brysur gennym o’n blaenau. Rydym yn ymrwymo i sicrhau y bydd ein hariannu bob amser i bawb. Os ydych chi am wneud cais am grant, neu os oes unrhyw farn gennych ynghylch sut y gallwn ni gefnogi pobl a chymunedau i addasu, adfer a ffynnu, cysylltwch â ni ar 0300 123 0735, neu cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.