#SwyddiYnYGronfa – awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu cais gwych
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ein tîm anhygoel yn ganolog i feithrin cysylltiadau agos â’r cymunedau yr ydym yn eu cefnogi a sicrhau bod ein hariannu’n parhau i gael effaith arbennig.
Mae ein cyllid i bawb, ac yn yr un modd, ymdrechwn i gael amrywiaeth ar draws ein sefydliad. Byddwch chi’n gweld bod ein diwylliant yn gynhwysol, gyda phobl o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol iawn.
Cwblhau’r ffurflen gais
Dyma eich cyfle cyntaf i ddangos i ni sut rydych chi’n bodloni gofynion y rôl yr ydych yn ymgeisio amdani.
Rydym ni’n sgorio ceisiadau ar y meini prawf ‘Hanfodol’ a ‘Dymunol’ a nodir yn yr hysbyseb swydd. Dylai eich datganiad cefnogol amlygu eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn erbyn y meini prawf hyn. Mae gennych chi 5,000 o nodau (tua 800 o eiriau), ac argymhellwn i chi gyflwyno pam fod diddordeb gennych yn y rôl a’r Gronfa ac yna trafod pob un o’r meini prawf yn eu tro. Bydd cysylltu enghreifftiau â phob un ohonynt yn ei gwneud hi’n haws i’r rheolwr cyflogi weld sut ydych chi’n addas ar gyfer y rôl.
Rhowch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch, gan ddangos pam fod y profiad hwn yn eich gwneud chi’r ymgeisydd mwyaf addas ar gyfer y rôl. Gallwch ddefnyddio enghreifftiau o swyddi blaenorol yn ogystal â phrofiadau bywyd a rolau gwirfoddol.
Dull teg a chynhwysol
Rydym ni’n ymrwymo i ddefnyddio dull recriwtio teg a chynhwysol. Bydd y panel rhestr fer ond yn gweld eich hanes addysg a chyflogaeth, eich hawl i weithio a’ch datganiad cefnogol. Bydd eich cais yn ddienw a bydd nodweddion gwarchodedig yn cael eu gwaredu.
Mae pob cais yn cael ei gwblhau ar-lein, ond os oes angen addasiadau arbennig arnoch i’ch helpu i wneud cais, cysylltwch â’n Tîm Pobl ar 0121 368 0046 neu anfonwch e-bost at PeopleTeam@tnlcommunityfund.org.uk.
Byddwn ni’n ymateb yn gadarnhaol i fodloni anghenion unigol. Mae ein ffurflen gais yn gofyn a oes anabledd gennych oherwydd rydym ni’n Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Ni rennir y wybodaeth hon â rheolwyr cyflogi yn ystod y cam rhestr fer.
Adolygir opsiynau rhan-amser neu rannu swydd yn unigol ar gyfer pob rôl yn erbyn anghenion busnes. Pe dymunech gael sgwrs cyn ymgeisio, cysylltwch â ni.
Yn dilyn eich cais
Byddwn ni’n cysylltu â chi i roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais. Cadwch olwg ar eich blwch derbyn a’r blwch sothach, oherwydd weithiau mae ein he-byst yn ymddangos yn y blwch hwnnw.
Pethau i’w cofio
- Cwblhewch yr holl wybodaeth y gofynnwn amdani – ni allwn brosesu eich cais hebddi.
- Gwnewch y cais yn berthnasol i’r meini prawf ‘Hanfodol’ a ‘Dymunol’ yn yr hysbyseb swydd.
- Defnyddiwch y cyflwyniad i ddweud wrthym pam rydych chi’n gwneud cais.
- Os allwch chi, gofynnwch i rywun arall ddarllen y cais, i roi arfarniad gonest i chi – a’i brawfddarllen i wirio pethau fel sillafu a gramadeg cyn i chi ei anfon.
- Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. Bydd llinellau amser yn cael eu hysbysebu ar gyfer pob swydd wag. Ni ystyrir ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau.
Pob lwc!
Petai gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni – PeopleTeam@tnlcommunityfund.org.uk neu Recruitment@tnlcommunityfund.org.uk