Blog Rhoi Cymunedau’n Gyntaf/Adnewyddu Strategol
Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi cymunedau i ryddhau eu hegni a’u potensial i gyrraedd y lle yr hoffent fod.
Bob blwyddyn, mae’r prosiectau yr ydym yn eu cefnogi’n cyrraedd mwy na 5 miliwn o bobl ac yn helpu mynd i’r afael â phethau sy’n bwysig, fel iechyd meddwl ac unigrwydd, rhoi sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, cefnogi ymdrechion COVID cymunedau a llawer mwy.
Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf yn unig, rydym wedi dyfarnu £3.4 biliwn mewn 72,000 o grantiau, gan gefnogi pethau anhygoel i ddigwydd mewn cymunedau ledled y DU. Mae hynny’n gyfystyr ag o leiaf un prosiect ym mhob cymdogaeth leol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bob saith munud rydym ni’n cefnogi prosiect cymunedol sy’n gwneud pethau anhygoel yn bosibl.
Rydym ni’n angerddol am yr effaith a gawn ac yn credu mai dyma’r adeg i gael sgwrs bwysig am sut allwn ni fod y gorau y gallwn ni fod a gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn ein cefnogaeth i gymunedau’r DU lwyddo a ffynnu yn y dyfodol.
Mae ein hymchwil yn dangos rôl hanfodol ein Hariannu
Mae ein Mynegai Ymchwil Cymunedol diweddaraf yn dangos gwahaniaethau arwyddocaol yn nirnadaeth pobl o ansawdd bywyd, cyfleoedd bywyd, rhagolygon swydd a chyflogaeth a mesurau allweddol eraill, fel iechyd a lles, yn seiliedig ar ddaearyddiaeth, dosbarth cymdeithasol, addysg, lefelau amddifadedd lleol ac ethnigrwydd.
Er bod 72% o bobl yn y DU’n gyffredinol yn credu bod eu cymunedau’n gwneud yn dda o ran ansawdd bywyd, mae hyn yn disgyn i 62% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac rydym yn gweld gwahaniaethau tebyg mewn sawl ardal lle y gall ein hariannu wneud gwahaniaeth go iawn.
Mae’r data’n dangos bod ein hariannu’n gallu chwarae rôl hanfodol yn y ffordd y mae cymunedau’n ymateb i heriau ac yn manteisio ar gyfleoedd wrth i ni weithio i adfer yn dilyn y pandemig ledled y DU, gan gynnwys mewn ardaloedd allweddol fel sgiliau, cyflogaeth, adnewyddu ardaloedd lleol a chreu cysylltiadau cymunedol.
Rydym am adeiladu ar y gorau sydd wedi bod gyda’r gorau sydd i ddod. Dyma pam yr hoffem bwyso a mesur y sefyllfa nawr ac adnewyddu.
Llywio’r Dyfodol
Bydd ein proses Adnewyddu Strategol yn llywio sut rydym yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau yn y dyfodol.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae cymunedau wedi wynebu heriau mawr, ac ymateb iddynt. Ond mae’r cyfnod hefyd wedi dangos rhywbeth yr oeddem yn gwybod ei fod yn wir.
Hynny yw, mae cymunedau wrth wraidd ein cenedl. Y cysylltiadau cymdeithasol sy’n ein rhwymo gyda’n gilydd. Y pŵer o bobl yn helpu eraill mewn angen. Mae angen hyn arnom yn fwy nag erioed.
Hoffem glywed eich syniadau i’n helpu i ddeall yr heriau, gobeithion a chyfleoedd mewn cymunedau’n well. Byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth, rhagwelediad, profiadau ac uchelgeisiau cymunedau.
Sut allwn ni ddatgloi a rhyddhau potensial cymunedau orau?
Fel ariannwr cymunedol, lle’r ydym ni, a lle allwn ni, wneud y gwahaniaeth mwyaf?
Gydag adnoddau cyfyngedig, ar beth y dylwn ni ganolbwyntio arno?
Beth ydych chi’n ei weld am sut y dylem ni weithio, a chydweithio, gyda’n gilydd ar y materion sydd wir yn bwysig?
Bob dydd, mae’n fraint gennym weld yr hyn y mae cymunedau’n ei gyflawni. Edrychwn ymlaen yn uchelgeisiol ac yn obeithiol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n adeg gyffrous ac ysbrydoledig i lywio’r dyfodol o ran sut rydym yn eu cefnogi, a bwriadwn wneud hyn trwy ddysgu, archwilio ac adeiladu syniadau mawr.
Sut allwch chi gymryd rhan
Mae’r ymarfer hwn am ddysgu o’n gorffennol, gan gymryd y rhannau gorau i’r dyfodol ac adeiladu arnynt.
Hoffem i chi gymryd rhan ym mhob cam o’r ffordd:
- Ewch i’n gwefan meicro lle bydd manylion llawn am ddigwyddiadau, sut i gymryd rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
- Defnyddiwch #TNLCOMFUNDStrategyRenew i ymuno â’r sgwrs ar y Cyfryngau Cymdeithasol.
- Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i gael newyddion a chynnydd diweddaredig.
Cofiwch, tra bydd y sgwrs bwysig hon yn cael ei chynnal, bydd ein hariannu’n parhau i lifo – mae cyllid y Loteri Genedlaethol i bawb a byddwn ni’n parhau i fod yma i gymunedau’r DU drwy gydol y broses.
Mae’r adnewyddiad strategol hwn am sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn parhau i ddarparu cyllid sydd i bawb. Fel cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, gwyddom fod ein cymunedau’n disgwyl hyn, a gofynnwn i chi ymuno â ni yn y sgwrs hon dros y flwyddyn nesaf a fydd yn llywio sut yr ydym ni’n eich cefnogi yn y dyfodol.