Mewn Undod Mae Nerth: Sut mae prosiectau’n datblygu ffyrdd i wneud hyn
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni lansio ein rhaglen Mewn Undod Mae Nerth. I Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae dod â phobl a chymunedau ynghyd yn graidd i’n pwrpas ac amcanion. Wedi’i sefydlu i feithrin cysylltiadau cryfach ar draws cymunedau yn y DU, mae’r cyllid hwn yn cefnogi syniadau sy’n cryfhau’r cysylltiadau hyn trwy archwilio a datblygu’r amodau sydd eu hangen i adeiladu ffyrdd gwell a mwy hirhoedlog o ddod â phobl ynghyd. Hyd heddiw, rydym wedi dyfarnu ychydig dros £3 miliwn i 13 o brosiectau sy’n gweithio ar draws dwy wlad neu’n fwy o fewn y DU. Mae’r rhaglen yn dal i fod ar agor i geisiadau gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.
Yr hyn rydym wedi’i ariannu hyd yn hyn
Mae New Constellations yn defnyddio eu grant £300,000 ar gyfer prosiect dwy flynedd i gefnogi a chyfoethogi ymgysylltiad cymunedol. Maen nhw eisoes wedi cael llwyddiant yn Barrow-in-Furness gyda chynrychiolwyr cymunedol fel arweinwyr y cyngor, hyrwyddwyr cymunedol, elusennau lleol a pherchnogion busnes yn dod ynghyd i ddatblygu cynllun ar gyfer dyfodol gwell, mwy cysylltiedig ar gyfer y dref yn Cumbria. Nawr, diolch i’w grant Loteri Genedlaethol, mae New Constellations yn ehangu i rannau eraill o’r DU. Mae’r grŵp newydd orffen recriwtio 18 arweinydd cymunedol newydd o wahanol gymunedau ledled y DU. Fel y rhaglen beilot yn Barrow-in-Furness, bydd yr arweinwyr cymunedol hyn yn gweithio ar fater penodol sy’n gyffredin i bawb yn yr ardal fel rhan o’u hamcan i ddychmygu a llywio dyfodol gwell.
Mae Onion Collective CIC, prosiect yn Somerset, yn defnyddio eu grant o ychydig o dan £300,000 i gefnogi eu prosiect dwy flynedd - Understory - cydweithrediad â’r cwmni technoleg gemau Free Ice Cream. Bydd y prosiect yn creu offeryn mapio rhwydwaith digidol i alluogi cymunedau i ofyn cwestiynau dyfnach am eu perthnasoedd â'i gilydd a’r lle y maen nhw’n byw. Ar y cyd â’r offeryn mapio arloesol sy’n rhoi darlun 3D o gysylltiadau i bobl ac a fydd yn ategu gweithgarwch adeiladu cymunedau, bydd y prosiect yn cynnal gweithdai i annog a chefnogi pobl i archwilio’r perthnasoedd a chysylltiadau yn eu cymunedau.
Derbyniodd Tough Options £160,000 i archwilio a helpu cefnogi datrysiad a rheolaeth gwrthdaro o fewn cymunedau. Mae’r bartneriaeth hon, a arweinir gan y Fforwm ar gyfer trafod Israel a Phalesteina yn Lloegr a Corrymeela yng Ngogledd Iwerddon, yn dod â dau grŵp amrywiol o bobl ifanc ynghyd, o Fanceinion a Gogledd Iwerddon, sydd oll yn wynebu heriau a rhaniadau o fewn eu cymunedau. Bydd y cyfranogwyr ifanc yn rhannu eu profiadau unigol ac yn archwilio gwrthdaro eu hunain trwy lens a safbwyntiau gwrthdaro ei gilydd. Y nod yn y pen draw yw adeiladu rhwydwaith o arweinwyr ifanc a fydd yn mynd ymlaen i fod yn gatalydd ar gyfer datrys a rheoli gwrthdaro o fewn cymunedau eu hunain.
Trwy ei brosiect ‘Together We Are’, mae Groundswell yn adeiladu gwytnwch cymunedol i amddiffyn yn erbyn yr ynysrwydd cymdeithasol sy’n gallu gadael pobl yn agored i ddylanwadau niweidiol, fel eithafiaeth. Gan ddefnyddio eu grant Loteri Genedlaethol o ychydig o dan £300,000, mae’r prosiect yn taflu goleuni ar waith a arweinir gan fentrau llai ar lawr gwlad sy’n gweithio tuag at gydlyniad cymunedol. Mae gwaith Groundswell yn cael ei gefnogi gan offeryn mapio rhyngweithiol ar-lein sy’n cysylltu grwpiau a digwyddiadau ar sail tra-leol, gan greu rhwydweithiau llawer yn ehangach. O ganlyniad i’n hariannu, mae Groundswell bellach yn ehangu i dair ardal newydd; Lewisham yn Llundain, Manceinion a Glasgow.
Wedi’i arwain gan Brifysgol Bryste, mae Good Grief Connects yn ceisio creu newid mewn agwedd cymdeithas i alar, marwolaeth a marw, trwy ddatblygu cymunedau tosturiol, cysylltiedig sy’n gallu helpu pobl trwy golled, yn bersonol ac ar y cyd. Gyda’u grant o bron i £300,000, mae’r prosiect yn dod â phobl at ei gilydd ar draws gwahanol gymunedau i ddatblygu cynnwys newydd sy’n canolbwyntio ar faterion diwylliant, rhywioldeb, gallu ac anfantais gymdeithasol, gan ehangu ei gyrhaeddiad i gymunedau sy’n cael eu tanwasanaethu yng Nghymru a chanol dinas Llundain. Wedi’i gefnogi gan yr Ŵyl Flynyddol Good Grief Connects, bydd y prosiect yn creu seilwaith cydweithredol o gefnogaeth profedigaeth ar draws y DU cyfan.
Ar agor i geisiadau
Dim ond ychydig o fisoedd yn ôl y mae nifer o’r grwpiau wedi dechrau eu prosiectau, ond maen nhw’n creu ac yn datblygu amodau newydd a seilwaith arloesol yn barod i ddod â phobl a chymunedau ynghyd i’w helpu i lwyddo a ffynnu. Dim ond rhai o enghreifftiau o’r hyn yr ydym wedi’i gefnogi hyd yn hyn yw’r prosiectau y soniwyd amdanynt, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu rhagor yn y dyfodol.
Mae’r rhaglen ariannu hon ar agor i geisiadau, ac ar hyn o bryd rydym yn chwilio i ariannu hyd at £1 miliwn i brosiectau sy’n para hyd at bum mlynedd. Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o’n cyllid gefnogi grwpiau sy’n gofyn am £200,000 i £500,000 gyda nifer llai o ddyfarniadau’n cael eu cynnig i brosiectau dros £500,000.
Os ydych chi’n teimlo bod eich prosiect yn ddelfrydol ar gyfer y rhaglen hon, gallwch ddysgu rhagor am y rhaglen ariannu Mewn Undod Mae Nerth yma.